Plant a Phobl Ifanc

Mae plentyndod a’r arddegau yn gyfnod lle ‘rwyt ti’n newid ac yn datblygu yn gyflym, ac wrth i ti dyfu a datblygu mae’n bosib dy fod yn wynebu heriau a phwysau aruthrol mewn nifer o agweddau yn dy fywyd.

Mae’n bosib dy fod di hefyd yn gorfod ymdopi â nifer o sefyllfaoedd gwahanol a heriau newydd fel arholiadau, perthnasau a phwysau eraill sy’n dod gyda thyfu fyny.

Paid â theimlo’n anweledig.

Defnyddia dy lais a siarada gyda rhywun.

Gofyn i oedolyn am gymorth

Os oes gen ti broblem na alli di ei datrys ar ben dy hun, mae’n syniad da i ofyn i oedolyn ‘rwyt ti’n ymddiried ynddynt am help.

Weithiau, gall rhywun arall dy helpu i weld dy broblem mewn ffordd wahanol. Gallen nhw roi syniadau newydd i ti am sut i ymdopi gyda phethau. Efallai eu bod nhw wedi bod drwy rywbeth tebyg eu hunain. Efallai eu bod nhw’n gwybod yn union beth i wneud neu yn gwybod am rywun all dy helpu.

Mae rhoi pethau i mewn i eiriau yn aml yn helpu. Weithiau, gall rhannu beth sydd ar dy feddwl fod yn llesol. Gallai siarad â rhywun wneud i ti deimlo nad oes rhaid i ti ddelio gyda phethau ar ben dy hun.

Pethau i’w cofio:

  • Dewis rhywun rwyt ti’n teimlo’n ddiogel gyda nhw;
  • Paratoi beth rwyt ti eisiau ei ddweud;
  • Sicrhau ei fod yn amser da i siarad ac nad oes unrhyw beth arall yn tynnu eu sylw;
  • Ti sydd â’r rheolaeth dros faint rwyt ti’n dweud wrth rywun – does dim rhaid i ti ddweud popeth os nad wyt ti eisiau;
  • Os nad wyt ti’n siŵr a fyddant yn cadw’r hyn y byddi di’n ei ddweud wrthynt yn gyfrinach, galli di ofyn hynny iddyn nhw cyn dweud unrhyw beth.

Gallet drio’r pethau hyn i ddechrau’r sgwrs:

  • “Dwi eisiau dweud rhywbeth wrthot ti, ond dwi ddim yn gwybod sut”
  • “Mae hyn yn anodd i mi ddweud, ond mae gen i rywbeth pwysig i ddweud wrthot ti”
  • “Dwi angen ychydig o gyngor ar rywbeth sy’n fy mhoeni”

Darllen rhagor am sut i ofyn i oedolyn am gymorth

Delwedd corff

Yn gyffredinol ‘delwedd corff’ ydy’r ffordd rydym ni’n tybio bod ein corff yn edrych i bobl eraill. Gall hyn fod yn faint ein ffigwr, ein hwynebau, ein gwallt – unrhyw ran o’r corff mewn gwirionedd.

Delweddau Afrealistig yn y Cyfryngau

Mae’r cyfryngau yn ein cyflwyno gyda pherffeithrwydd sydd yn gallu bod yn afrealistig ac yn un na ellir ei gyflawni.Mae rhaglenni cyfrifiadur clyfar yn newid mân bethau ar luniau cyn iddynt gael eu cyhoeddi mewn cylchgronau neu ar y Rhyngrwyd. Mae’r rhaglenni yn gallu golygu’r croen i edrych yn gwbl glir o smotiau neu farciau ymestyn, neu mae’n gallu newid ffigwr rhywun ychydig bwysau’n llai. Ond, yn anffodus rydym yn aml yn barnu ein hunain yn llym yn erbyn y safonau afrealistig a osodwyd gan y cyfryngau.

Delwedd Corff Negyddol

Teimladau negyddol am y ffordd rydych chi’n meddwl mae eich corff yn edrych ydy ‘delwedd corff negyddol’. Mae dioddef gyda delwedd corff negyddol wedi cael ei gysylltu i ymddygiad eraill sydd ddim yn iach, fel anhwylderau bwyta, hunan-niwed, diffyg hunan-barch, arwahanu cymdeithasol a chamddefnydd o gyffuriau altro’r corff.

Anhwylder Dysmorffia’r Corff

Mae Anhwylder Dysmorffia’r Corff neu BDD yn gyflwr pryder sydd yn arwain at berson yn cael barn wyrgam o’i ymddangosiad. Gall gael effaith enfawr ar fywyd y person yma a gall arwain at ymddygiad obsesiynol/orfodaethol.

Bwlio yn yr ysgol

Os wyt ti neu rywun rwyt ti’n ei adnabod yn cael ei f/bwlio yn yr ysgol, dywed wrth rywun. Dywed wrth ffrind, wrth athro neu athrawes, ac wrth dy rieni.

Mae dweud yn gallu teimlo fel y peth anoddaf yn y byd, ond ni fydd y bwlio’n dod i ben os na ddywedi di. 

Os nad wyt ti’n teimlo y galli di ddweud ar lafar wrth rhywun, ystyria ysgrifennu nodyn i dy rieni yn egluro sut wyt ti’n teimlo, neu siarada gyda rhywun arall fel nain neu taid / mamgu neu dad-cu, modryb, ewythr neu gefnder/gyfnither, a gofynna iddyn nhw i dy helpu i ddweud wrth dy rieni.

Mae bwlio yn cynnwys:

  • pobl yn galw enwau arnat
  • ffugio straeon i dy gael di i drwbl
  • taro, pinsio, brathu a gwthio
  • cymryd pethau oddi wrthot ti
  • difrodi dy eiddo
  • dwyn dy arian
  • ceisio cymryd dy ffrindiau oddi wrthot
  • postio negeseuon sarhaus neu suon amdanat ar y we
  • bygythiadau a brawychu
  • gwneud galwadau ffôn cudd neu sarhaus
  • anfon negeseuon testun cas

Darllen rhagor am fwlio

Arholiadau

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo o dan straen yn ystod y cyfnod arholiadau, ond mae llawer o bethau y galli di eu gwneud i ymdopi.

  1. Edrych ar ôl dy hun. Mae’n bwysig dy fod yn bwyta ac yn cysgu’n dda.
  2. Paid ag adolygu drwy’r amser. Gwna’n siŵr dy fod yn cael amser bob dydd i ymlacio, gan gymryd seibiant
    i wneud rhywbeth rwyt ti’n ei fwynhau – gwylio’r teledu, gwrando ar gerddoriaeth, darllen llyfr neu fynd allan am dro.
  3. Llunia amserlen adolygu – cynllunia hi ymhell cyn i’r arholiadau ddechrau.
  4. Mae pawb yn adolygu mewn ffordd wahanol. Canfydda’r patrwm sy’n dy siwtio di – ar dy ben dy hun neu gyda ffrind neu riant/gofalwr; yn gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos; cyfnodau byr, dwys neu sesiynau hirach; gyda cherddoriaeth neu heb unrhyw sŵn.
  5. Gofynna am help gan dy athro / mentor dysgu, rhiant/gofalwr neu ffrind os wyt ti’n teimlo dan straen, neu os oes pethau nad wyt ti’n eu deall.

Darllen rhagor am ymdopi gyda straen a chanlyniadau arholiadau

Cychwyn yn yr ysgol uwchradd

Rhieni sydd â phroblemau iechyd meddwl

Gall byw gyda rhiant sydd â salwch neu gyflwr iechyd meddwl beri i chi deimlo’n ddryslyd, yn ddig ac yn ddiymadferth.

Mae’n debyg y bydd hynny’n effeithio ar eich bywyd gartref ac ar eich bywyd personol a gall ddigwydd y byddwch yn gorfod gofalu am les eich rhiant.

Os yw’ch rhiant yn ymddwyn yn afresymol neu’n od, rydych chi’n debygol o deimlo’n ofnus ac yn ansicr o beth i’w wneud.

[darllen rhagor]

Cymorth i frodyr a chwiorydd

Os ydy dy frawd neu dy chwaer newydd gael diagnosis o salwch meddwl, neu os ydy dy deulu wedi bod yn byw gyda salwch meddwl ers peth amser bellach, mae hi’n debygol fod gen ti dipyn o gwestiynau a phryderon.

Efallai y byddi di’n profi amrywiaeth o emosiynau neu faterion ymarferol pan fo dy frawd neu dy chwaer yn dangos symptomau o salwch meddwl, neu pan fo ganddyn nhw salwch meddwl. Mae’r rhain yn debygol o newid wrth i ti fynd yn hŷn ac wrth i amgylchiadau newid. Mae hi’n bwysig cofio nad wyt ti ar dy ben dy hun.

[darllen rhagor]

Pecyn ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

Lansiwyd pecyn newydd ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ ar faes Eisteddfod yr Urdd 2019. Mae’n becyn y gall rhieni, athrawon a swyddogion sy’n gweithio gyda phobl ifanc ei ddefnyddio i drafod ac ystyried iechyd meddwl.

Mae’r pecyn addysgol yn cynnwys animeiddiad, cynlluniau gwers, posteri a thaflenni gwybodaeth ac wedi ei argraffu gyda chymorth grant Ras yr Iaith. Cafodd y pecyn gwreiddiol cyfrwng Saesneg ei ddatblygu gan Ganolfan Genedlaethol Anna Freud, elusen iechyd meddwl plant, er mwyn i bobl ifanc ddeall eu hiechyd meddwl yn well a deall sut i gefnogi eu ffrindiau ac eraill o’u cwmpas. Mae holl adnoddau’r pecyn ar gael yma ac mae modd darllen am y lansiad yma.

Dolenni allanol