Covid-19

Mae achosion o glefydau heintus, fel Coronafeirws (COVID-19), yn gallu codi ofn arnom ac effeithio ar ein hiechyd meddwl.

Er ei fod yn bwysig i fod yn wybodus, mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud i gefnogi a rheoli ein lles yn ystod adegau fel hyn.

Dyma rai awgrymiadau a all eich helpu chi, eich ffrindiau a’ch teulu i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod adeg pan fo cymaint o drafodaeth am fygythiadau potensial i’n hiechyd corfforol.

Ceisiwch osgoi dyfalu ac ymchwiliwch i ffynonellau dibynadwy. Mae straeon a dyfalu’n gallu ychwanegu at orbryder. Mae cael mynediad i wybodaeth o ansawdd da am y firws yn gallu eich helpu i deimlo mewn rheolaeth.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chyngor cyfredol am y firws yma:

Dilynwch y cyngor am hylendid, er enghraifft golchi eich dwylo’n amlach nag arfer, am 20 eiliad gyda sebon a dŵr cynnes (canwch ‘Penblwydd Hapus’ i’ch hun ddwywaith i sicrhau eich bod yn gwneud hyn). Dylech wneud hyn pan fyddwch yn cyrraedd y gwaith neu’n dychwelyd o’r gwaith, yn chwythu eich trwyn, yn tisian neu’n peswch, yn bwyta, neu’n ymdrin â bwyd. Os na allwch chi olchi eich dwylo’n syth, defnyddiwch hylif diheintio (hand sanitiser) ac yna’u golchi pan gewch chi’r cyfle.

Dylech hefyd ddefnyddio hancesi papur os ydych chi’n tisian a sicrhau eich bod yn eu gwaredu’n gyflym; ac aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl.

Mae cyngor ac awgrymiadau am sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod Covid-19 ar y dudalen hon.

Dolenni allanol

Profiadau

Fideos