Arian
Mae arian ac iechyd meddwl yn aml yn gysylltiedig. Gall iechyd meddwl gwael wneud rheoli arian yn anoddach, ac mae poeni am arian yn gallu gwneud eich iechyd meddwl yn waeth.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys gwybodaeth am y berthynas rhwng problemau ariannol ac iechyd meddwl, ynghyd ag awgrymiadau am sut i’w wynebu.
Dyma rai enghreifftiau o sut all eich iechyd meddwl a phroblemau ariannol effeithio ar ei gilydd:
- Os nad ydych yn gallu gweithio neu’n gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, efallai bydd eich incwm yn cael ei effeithio.
- Os ydych yn teimlo’n ‘uchel’ yn ystod cyfnod o mania neu hypomania, gall hyn arwain at benderfyniadau brys am arian sy’n gwneud synnwyr ar y pryd ond sy’n eich gadael mewn dyled.
- Efallai byddwch yn gwario arian i wneud eich hun deimlo’n well. Gall wario arian roi teimlad ‘uchel’ dros dro i chi.
- Efallai eich bod yn teimlo’n bryderus am wneud pethau fel siarad ar y ffôn, mynd i’r banc neu agor amlenni.
- Efallai byddwch yn teimlo dyletswydd i wneud swydd nad ydych yn mwynhau er mwyn talu’r biliau neu’r ddyled.
- Efallai byddwch yn colli’r cymhelliant i gadw rheolaeth o’ch arian.
- Efallai bydd gwario arian neu bod mewn dyled yn gwneud i chi deimlo’n bryderus iawn – hyd yn oed os oes digon o arian gennych.
- Gall ddefnyddio’r system buddion neu fod mewn dyled wneud i chi deimlo straen neu bryder am y dyfodol.
- Efallai nad oes digon o arian gennych am bethau angenrheidiol neu bethau sy’n sicrhau eich llesiant fel cartref, bwyd, a gwres.
- Gall problemau ariannol effeithio ar berthnasau a’ch bywyd cymdeithasol, sy’n gallu cael effaith uniongyrchol ar eich iechyd meddwl.
Beth alla i wneud i helpu fy hun?
Gall datrys problemau ariannol deimlo fel tasg aruthrol. Ceisiwch wneud hyn un cam ar y tro. Efallai bydd yr awgrymiadau isod o gymorth i chi
Deall eich ymddygiad
Gall eich iechyd meddwl effeithio ar sut rydych yn rheoli eich arian mewn sawl ffordd. Gall adnabod y patrymau hyn eich helpu i ddod o hyd i ddatrysiadau sy’n gweithio i chi.
- Meddyliwch am pam rydych yn gwario arian a phryd.
- Meddyliwch am ba agweddau o arian sy’n gwaethygu eich iechyd meddwl – siarad â phobl, agor amlenni, gwrthdaro neu pan fo pobl yn gwneud camgymeriadau? Neu rywbeth arall?
- Gall fod o gymorth i gadw dyddiadur o’ch gwariant. Ceisiwch gofnodi beth wnaethoch chi wario a pham. Cadwch gofnod o’ch hwyliau hefyd. Gall hyn eich helpu i adnabod unrhyw sbardunau neu batrymau.
- Pan fyddwch yn deall mwy am eich ymddygiad, gallwch feddwl am beth all fod o gymorth. Ambell waith, mae bod yn ymwybodol o’r patrymau hyn yn gallu eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth.
Os ydych chi’n gwario llawer pan fyddwch chi’n sâl…
Nawr
- Ceisiwch roi eich cardiau banc i rywun arall neu eu rhoi rhywle sy’n anodd i gael mynediad atynt.
- Gwnewch rywbeth arall sy’n gwneud i chi deimlo’n dda. Ewch am dro, ffoniwch ffrind neu gwyliwch rywbeth yr ydych yn mwynhau.
- Dywedwch wrth eich hun ‘Byddaf yn prynu hwn yfory os ydw i o hyd am ei brynu’.
Cynllunio o flaen llaw
- Gwnewch hi’n fwy anodd i wario arian ar-lein. Peidiwch ag arbed eich manylion banc ar wefannau.
- Siaradwch â’ch ffrindiau â’ch teulu am eich sbardunau ac arwyddion rhybudd fel eu bod yn gallu eich helpu.
- Ystyriwch ofyn i’ch banc i ychwanegu nodyn i’ch ffeil credyd (edrychwch ar hwn am fwy o wybodaeth). Mae’n ddefnyddiol i rai osgoi cardiau credyd yn gyfan gwbl.
Os yw siarad â phobl neu delio â llythyrau neu filiau yn achosi pryder i chi…
Nawr
- Gofynnwch i rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i agor llythyrau i chi ac i adael i chi wybod os yw unrhyw un ohonynt yn bwysig.
- Ystyriwch adael i’r person rydych yn siarad â nhw wybod fod gennych salwch meddwl.
Cynllunio o flaen llaw
- Os fyddwch yn teimlo’n anghyfforddus wrth ymweld â banc neu wrth siarad ar y ffôn, dewch o hyd i fanc sydd â gwasanaethau ar-lein lle y gallwch chi sgwrsio â nhw.
- Gall eich Meddyg Teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall ddarparu Ffurflen Tystiolaeth Dyled ac Iechyd Meddwl ar eich cyfer. Gall hyn helpu sicrhau bod credydwyr yn ystyried eich problemau iechyd meddwl.
Trafod pethau â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt
Gall rannu eich pryderon a siarad am bethau fod yn rhyddhad. Ond nid yw wastad yn hawdd. Ceisiwch ddewis adeg dawel pan fod gennych eu sylw yn llwyr. Gall fod o gymorth ambell waith i wneud nodiadau i baratoi, neu hyd yn oed ysgrifennu popeth mewn llythyr.
Dyma rai pobl all fod o gymorth.
- Ffrind neu aelod o’r teulu.
- Gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol.
- Gall eich swyddfa Mind lleol eich helpu i ddod o hyd i rywun i siarad â nhw. Efallai byddant yn gallu eich helpu i ddod o hyd i eiriolwr (advocate), sef rhywun sy’n gallu rhoi cymorth i chi gael mynegi eich dymuniadau a sicrhau eich bod yn cael eich gwrando arnoch.
- Gwasanaethau i fyfyrwyr – os ydych chi’n fyfyriwr, efallai y byddai’n ddefnyddiol i drafod â’ch tiwtor neu rywun o’r gwasanaethau i fyfyrwyr. Efallai byddant yn gallu eich helpu i ymgeisio ar gyfer grantiau neu fwrsariaethau ychwanegol.
- Cymorth gan gymheiriaid – os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus wrth siarad â theulu neu ffrindiau, efallai gallwch ystyried dod o hyd i rywfaint o gymorth gan gymheiriaid gan eraill sydd wedi bod yn yr un sefyllfa. Gweler y ddolen hon am fwy o wybodaeth.
- Gall problemau ariannol wneud i chi deimlo’n gaeth ac yn ddiobaith. Os yw’n anodd i chi weld ffordd ymlaen gallwch chi siarad â’r Samariaid.
Os fyddwch chi’n mynd yn sâl iawn ac yn methu â gwneud penderfyniadau mwyach…
Os fyddwch chi’n mynd yn sâl iawn, efallai bydd angen i chi roi rheolaeth gyfreithiol o’ch arian i rywun arall. Gallwch chi wneud atwrneiaeth arhosol (lasting power of attorney). Dogfen yw hon sy’n nodi pwy rydych chi am fod yn gyfrifol am eich penderfyniadau. Efallai byddwch chi am feddwl am hyn pan rydych yn iach fel eich bod yn barod am y dyfodol. Gweler fwy o wybodaeth yma.
Arian, iechyd meddwl a pherthnasau
Gall problemau ariannol roi straen ar berthnasau am sawl rheswm.
- Efallai bydd yn anodd i chi ddibynnu ar eich partner pan rydych chi’n sâl.
- Gall fod yn anodd i chi siarad â’ch partner am eich dyled neu eich gwariant.
- Efallai bydd hi’n anodd i chi a’ch partner os fydd angen iddyn nhw eich atal rhag gwario pan fyddwch chi’n sâl. Efallai byddwch chi’n teimlo’n grac neu’n rhwystredig â’ch gilydd.
Mae’n ddefnyddiol i rai ofyn eraill ei helpu i reoli eu harian pan eu bod yn sâl.
Gall Relate gynnig cymorth a chwnsela perthynas. Maent hefyd yn darparu cyngor ar-lein i’ch helpu i siarad â’ch partner am arian.
Os yw eich partner yn eich atal rhag cael mynediad at eich arian fel ffordd o’ch rheoli, gall hyn fod yn gam-drin ariannol. Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol fwy o wybodaeth am ba fath o ymddygiad sy’n gam-drin ariannol ac am le y gallwch chi fynd am gymorth.
Byddwch yn drefnus
- Dewiswch amser rheolaidd i edrych ar eich arian a’ch biliau bob wythnos fel nad yw pethau’n dechrau pentyrru.
- Rhowch eich holl gofnodion a dogfennau pwysig (er enghraifft papurau cyflog, cyfriflenni, biliau a derbynebau) mewn un lle, fel eich bod yn gallu dod o hyd iddynt yn hawdd.
- Crëwch gyllideb (budget) penodol (gall y Gwasanaeth Cynghori Ariannol helpu â hyn)
- Gwnewch ymchwil i gyfrifon banc sy’n eich galluogi i roi arian i’r ochr ar gyfer pethau angenrheidiol mewn is-gyfrifon ar wahân. Gall hyn eich atal rhag gwario arian sydd angen arnoch ar gyfer rhent neu filiau.
Gofynnwch am gyngor proffesiynol
Gall fod yn anodd iawn i drafod problemau ariannol a gofyn am gymorth. Efallai bydd yn anodd i chi wneud pethau sy’n peri pryder neu flinder, er enghraifft defnyddio’r ffôn, aros am apwyntiad neu mynd i adeilad anghyfarwydd.
Os ydych wedi cael profiad gwael â chynghorydd neu fanc yn y gorffennol, efallai byddwch yn teimlo nad oes pwynt i geisio eto. Ond mae nifer o lefydd a phobl sydd am eich helpu. Ambell waith gall derbyn cyngor proffesiynol fod yn rhyddhad. Mae gan dudalen cysylltiadau defnyddiol Mind lawer o wybodaeth am lefydd sy’n gallu helpu â gwahanol fathau o broblemau ariannol.
Sut alla i baratoi fy hun ar gyfer galwad ffôn neu apwyntiad?
- Nodwch bethau ar bapur – ceisiwch wneud nodiadau am bopeth yr ydych am ofyn.
- Casglwch eich gwaith papur at ei gilydd – mae’n ddefnyddiol i fynd â biliau, llythyron a chyfriflenni gyda chi. Os nad ydych chi’n siŵr beth fyddai’n ddefnyddiol i fynd gyda chi, gofynnwch i’r cynghorwr pan fyddwch chi’n gwneud yr apwyntiad.
- Cynlluniwch eich siwrnai o flaen llaw a sicrhewch fod digon o amser fel nad ydych yn poeni am fynd ar goll.
- Ystyriwch ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu i fynd gyda chi am gefnogaeth.
Ar ôl yr apwyntiad
- Sicrhewch eich bod yn deall yr hyn a ddywedwyd wrthych a beth sydd angen i chi wneud nesaf. Gofynnwch eich cynghorwr os yw unrhyw beth yn aneglur.
- Gwnewch nodyn o bopeth yr ydych wedi trafod neu gofynnwch i’r cynghorwr anfon crynodeb atoch.
Gofalwch am eich hun
Gall bryderon ariannol gael effaith mawr ar eich lles cyffredinol, sydd yn gallu ei wneud yn anoddach fyth i gymryd camau cadarnhaol. Gall fod o gymorth i geisio sylwi pan fydd eich hwyliau ac ymddygiad yn dechrau newid ac i feddwl am yr hyn y gallwch ei wneud i helpu’ch hun. Gall hyn roi ymdeimlad o reolaeth i chi ac atal problemau ariannol rhag gwaethygu.
Ffynhonnell: mind.org