Celf gyda Heledd Owen
Dewch i ymlacio a mwynhau sesiwn greadigol gyda’r darlunydd Heledd Owen.
Mae hwn yn addas i bawb o bob gallu, does dim angen profiad blaenorol. Gallwch baentio gyda Heledd neu mae croeso i chi wylio a mwynhau gweld y cyfan yn dod at ei gilydd ar y sgrin.
Mae’r sesiwn yn rhan o’n cyfres #MawrthMeddwl, sef digwyddiadau bob nos Fawrth am 8pm ar ein tudalen Facebook er mwyn helpu i ymlacio’r corff a’r meddwl.