Ymlacio a chreu gyda Heledd Owen

Yr artist Heledd Owen sy’n arwain sesiwn ymlacio trwy gelf.

Ymunwch i wylio, neu beth am ddilyn Heledd a mynd ati i greu gludlun (collage) eich hun? Os hoffech greu byddwch angen:

  • Hen gylchgronau neu bapurau gwahanol liwiau
  • Papur plaen A4
  • Siswrn (neu scalpel a mat torri)
  • Pritt stick

Wedi rhediad o bron i flwyddyn, dyma’n digwyddiad #MawrthMeddwl olaf am y tro… ond byddwn yn ail ddechrau ym mis Medi! Yn y cyfamser cofiwch bod modd ail wylio ein holl ddigwyddiadau #MawrthMeddwl unrhyw bryd.

Os hoffech arwain sesiwn ym mis Medi, neu os hoffech gynnig syniadau, cysylltwch â Heulwen ar post@llais.cymru.