Ffitrwydd gyda Rhodd
Sesiwn hyfforddiant cylchol y corff gyda’r hyfforddwraig ffitrwydd Rhodd Hughes, fydd yn codi curiad calon am yr 20 munud cyntaf, gan orffen gyda ychydig o ymarferion i gryfhau.
Bydd yr ymarferion yn 40 eiliad o waith gydag 20 eiliad o saib rhyngddynt. Gallwch addasu a gweithio ar eich lefel eich hun.
Mae’r sesiwn yn rhan o’n cyfres #MawrthMeddwl, sef digwyddiadau bob nos Fawrth am 8pm ar ein tudalen Facebook er mwyn helpu i ymlacio’r corff a’r meddwl.