Ymdopi dros gyfnod y Nadolig

nadolig-meddwl1Gall y Nadolig fod yn gyfnod hapus a llawn llawenydd; cyfle i weld teulu a ffrindiau, rhannu anrhegion a chael hwyl. Ond, gall hefyd fod yn gyfnod heriol o’r flwyddyn, yn enwedig i rai sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Llynedd, cyhoeddodd Mind Cymru waith ymchwil a ddangosodd fod pwysau ariannol, ymrwymiadau teuluol, unigrwydd, prysurdeb a’r pwysau i fod yn hapus yn gwneud i filoedd o bobl yng Nghymru deimlo eu bod yn methu ymdopi dros gyfnod y Nadolig.

Gall y Nadolig hefyd fod yn gyfnod poenus i rai sy’n galaru – p’un ai eleni yw eich blwyddyn gyntaf heb rywun annwyl, neu os ydych chi wedi colli rhywun ers blynyddoedd.

Meddyliwch beth ydych chi eisiau ei wneud dros gyfnod y Nadolig; peidiwch â theimlo bod rhaid i chi wneud unrhyw beth oherwydd mai dyna sy’n ddisgwyliedig.

Cofiwch gymryd pethau un munud, awr neu ddiwrnod ar y tro. Mae’n bosib y bydd pethau’n haws fis Ionawr.

Dyma rai awgrymiadau allai fod yn ddefnyddiol dros gyfnod yr ŵyl:

Siarad

Mae’n anodd cyfaddef, ar adeg mor gyffrous o’r flwyddyn, nad ydych chi’n teimlo’n dda. Ond gallai siarad am eich teimladau wella eich hwyliau a’i wneud yn haws i ymdopi â’r cyfnodau anodd. Byddwch yn onest â phobl os ydy pethau’n mynd yn ormod i chi ac os nad ydych chi eisiau gwneud popeth. Peidiwch â bod ofn canslo cynlluniau – weithiau mae’n rhaid i chi roi chi eich hun yn gyntaf. Os ydych chi’n poeni sut fyddwch chi’n teimlo ar y diwrnod, siaradwch gyda rhywun arall fydd yno hefyd fel y gallant eich cefnogi.


Cysylltu ag eraill

Gall teimladau o unigrwydd fod yn gryfach adeg y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Cofiwch, dydych chi ddim ar ben eich hun. Gallai’r Nadolig fod yn gyfle da i gysylltu, neu i ail-gysylltu, â phobl – drwy gerdyn, e-bost, neges destun neu alwad ffôn.


Peidiwch â chymharu eich Nadolig chi gydag eraill

Peidiwch â chymharu eich hun a’ch Nadolig chi gyda’r portreadau o’r Nadolig perffaith a welir ar gyfryngau cymdeithasol neu ar hysbysebion. Cofiwch fod pobl ond yn rhannu’r darnau da, a does gyda ni ddim syniad beth sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r sgrin. Peidiwch â chael eich sugno i gymharu eich profiad chi gyda rhywbeth sy’n ffug.


Ymlacio

Gall cyfnod y Nadolig ddod â llwyth o broblemau ymarferol ac emosiynol sy’n medru bod yn anodd. Efallai ein bod yn poeni wrth baratoi i ddiddanu teulu a ffrindiau neu yn poeni am goginio’r cinio Nadolig perffaith. Gall newid mewn patrymau ac arferion bob dydd hefyd achosi straen a phryder. Os ydych chi’n berson sy’n dueddol o wneud gormod beth bynnag, gallai gofynion y Nadolig waethygu hyn. Cymrwch hoe os fydd pethau’n mynd yn ormod, a cheisiwch ymlacio ac edrych ar ôl eich hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser i wneud rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud, waeth pa mor fach ydyw.


Cynllunio o flaen llaw

Gwnewch restrau o beth sydd angen eu gwneud – pa anrhegion i’w prynu, pa fwyd fydd angen – bydd hyn yn eich helpu i drefnu eich meddyliau, eich atal rhag anghofio rhywbeth, a’i wneud yn haws i gynllunio yn ariannol.


Gwirfoddoli

Gallai’r Nadolig fod yn gyfle da i wirfoddoli i elusen neu i fudiad lleol. Mae hyn nid yn unig yn darparu cymorth angenrheidiol i eraill, ond gallai helpu eraill hefyd fod yn fuddiol i’ch iechyd meddwl chi drwy wella hunanhyder, hapusrwydd, ac mae’n gyfle i gyfarfod â phobl newydd.


Myfyrio

Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn gyfle i fyfyrio ac edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu. Ceisiwch ysgrifennu un fuddugoliaeth ar gyfer pob mis o’r flwyddyn. Gall hyn fod yn unrhyw beth o gysylltu â ffrind, lleihau lefel eich alcohol, gwirfoddoli gyda phrosiect newydd. Neu, gallai fod yn fwy penodol i’ch iechyd meddwl – ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, siarad am sut ‘rydych chi’n teimlo, neu efallai cymryd camau i frwydro yn erbyn unrhyw ffobiâu, gorbryderon neu obsesiynau.


Dod o hyd i ofod tawel

Os ydych chi mewn digwyddiad cymdeithasol, ffeindiwch ofod tawel y gallwch fynd iddo os fydd pethau’n mynd yn ormod. Cyn y digwyddiad, gwnewch restr o’r strategaethau ymdopi sydd wedi gweithio yn y gorffennol (e.e., mynd â llyfr neu gylchgrawn, tecstio ffrind, gwrando ar gerddoriaeth, neu gau eich llygaid ac anadlu’n ddwfn.)


Mynd am dro

Mae tawelwch byd natur yn ffordd dda i gamu i ffwrdd o brysurdeb y Nadolig.


Siopa ar-lein

Os ydy torfeydd a phrysurdeb y siopau yn broblem, mae siopa ar-lein yn opsiwn.



Dolenni defnyddiol eraill

Bwyd – Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i rai sydd ag anhwylder bwyta, gan fod cymaint o fwyd o gwmpas.

Alcohol – Mae cyfnod yr ŵyl yn adeg lle y mae digonedd o bartïon a digwyddiadau eraill gydag alcohol. Nid yw pawb yn cael tymor y Nadolig yn brofiad llawn hwyl. Gallai fod yn gyfnod anodd iawn i rai sy’n brwydro â chaethiwed i alcohol. Mae cymaint o demtasiwn yr adeg hon o’r flwyddyn. Efallai bydd rhaid i’r unigolion hynny gymryd camau gofalus i sicrhau eu bod yn mwynhau Nadolig di-alcohol.

Galar Gall y Nadolig hefyd fod yn gyfnod poenus i rai sy’n galaru – p’un ai eleni yw eich blwyddyn gyntaf heb rywun sydd wedi marw, neu os wnaethoch chi golli rhywun flynyddoedd yn ôl.

Cyffredinol

(Gwybodaeth o dudalennau ar wefan mind.org)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.


 

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb