TU FEWN TU FAS – cynhyrchiad theatr mewn addysg i blant 8 – 12 oed
Yn dilyn cyfres o gynhyrchiadau i blant fe wahoddodd meddwl.org gwmni theatr Arad Goch i gyfrannu erthygl am y broses o gyflwyno cynhyrchiad theatrig i blant oedd yn trafod elfennau o iechyd a lles meddyliol. Diolch i Arad Goch am yr erthygl hynod ddiddorol isod.
Mae rhai pobl, wrth sôn am theatr i blant, yn meddwl am bantomeim – ac yn stopio meddwl. Ond mae theatr arbenigol i blant a phobl ifanc yr un mor eang ei arddulliau, ffurfiau, arferion a chynnwys â theatr i oedolion.
Ar ben hynny ‘dyw theatr i gynulleidfaoedd ifanc ddim yn cael ei chyfyngu gan gonfensiynau ‘mynd i’r theatr’; i gynulleidfaoedd ifainc, ac i ni fel artistiaid, mae theatr yn gallu digwydd mewn unrhyw fan, mewn unrhyw ffurf – gydag elfennau gwir gyfranogol yn caniatáu i’r gynulleidfa ymgolli a bod yn rhan o’r weithred storïol a chreadigol.
Rydyn ni’n sôn yn Cwmni Theatr Arad Goch bod ein gwaith yn ‘agor drws dychymyg a dangos drych profiad’. Mae rhan gynta’r dywediad yna yn angenrheidiol wrth ganiatáu i’n cynulleidfaoedd weld o’r newydd, teithio yn ddychmygol i lefydd a sefyllfaoedd gwahanol, breuddwydio, a deall hanfodion gobeithion, dyheadau, ofnau a theimladau eraill nad oes modd rhoi geiriau iddynt.
Mae ail hanner ein llinell ‘dangos drych profiad’ yn ein hatgoffa fod yn rhaid i’n gwaith theatr ymwneud yn fwriadol â’n cynulleidfa, gan eu cynorthwyo i weld eu hunain o’r newydd. Wrth wylio drama neu ffilm dda rydyn ni, fel aelod o’r gynulleidfa, yn cael ein hunain yn cydymdeimlo gyda gwahanol gymeriadau, a’n ffocws emosiynol yn newid o un cymeriad i’r llall yn gyson. Weithiau rydyn ni’n ochri gyda’r dioddefwr, dro arall rydyn ni’n ffocysu ar y cymeriad sy’n ceisio datrys y broblem ac weithiau rydyn ni eisiau bod fel y ‘baddie’ – achos mae rhyw elfen o eisiau gwrthdaro yn erbyn y gyfundrefn ym mron pob un ohonom.
Drwy’r weithred o wylio a gwrando ar ddrama neu ffilm rydyn ni’n gweld tameidiau bach ohonon ni ein hunain, fel darnau mewn jig-so neu liwiau drwy galeidoscôp – ond byth y cyfan. Ac mae’r elfen gathartig yma yn ein galluogi i adnabod ein hunain a’n sefyllfa yn well ac i ddeall ein teimladau a’n hymddygiad mewn ffyrdd gwahanol.
Mae llawer o waith Cwmni Theatr Arad Goch yn ymwneud â lles a diogelwch plant a phobl ifanc. Wrth gwrs mae’r theatr, y stori, yr elfennau dychmygol yn ogystal â’r safon gynhyrchu oll yn gorfod bod yn wych; mae cynulleidfaoedd ifanc yn haeddu’r gorau posib a does dim gwerth i’r cynnwys a’r neges fod yn bwysig oni bai bod y weledigaeth artistig a’r adloniant yn syfrdanol o afaelgar.
Ychydig flynyddoedd yn ôl fe gynhyrchon ni ddrama gan Bethan Gwanas o’r enw SXTO. Drama i bobl yn eu harddegau yw hon sydd yn ymwneud ag ymyrraeth rywiol dros y cyfryngau cymdeithasol. Gwyddom, o’r adborth gawsom gan swyddogion diogelu plant, fod nifer yr hunan-gyfeiriadau gan bobl ifanc i’r gwasanaethau diogelu wedi cynyddu yn sgîl y perfformiadau – a hynny oherwydd i’r ddrama gynorthwyo aelodau’r gynulleidfa i weld eu sefylllfa o’r newydd a’u harfogi i drafod eu profiadau.
Yn ddiweddarach fe gynhyrchon ni ddrama, ar ffurf theatr fforwm, o’r enw HUDO gan Mared Llywelyn Williams. Mae theatr fforwm yn golygu bod y gynulleidfa yn cael cyfle i drafod, yn wrthrychol, drwy brofiadau’r cymeriadau yn ystod y perfformiad. Mae’r ddrama hon yn ymwneud â chamfanteisio rhywiol ar bobl ifanc. Mewn pump golygfa mae’r ddrama yn agor y drws ar nifer o sefyllfaoedd dychrynllyd. Yn aml mae unigolyn ifanc sydd wedi dioddef sefyllfa debyg i rai’r ddrama yn teimlo ei bod e neu hi ar ei ben neu ei phen ei hun, yn hollol ynysig a’r sefyllfa’n gwbl unigryw. Gwaetha’r modd mae’r achosion yn niferus ac mae gweld drama fel HUDO yn galluogi pobl ifanc i weld eu sefyllfaoedd o’r newydd ac i ddiosg y teimladau o unigrwydd ac euogrwydd: dydyn nhw ddim ar eu pennau’u hunain ac mae trafod gydag eraill yn ffordd o oresgyn y broblem. Cafwyd nawdd i ddatblygu’r prosiect gan Gronfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys a gan Gronfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Ar ôl perfformiadau o HUDO mewn un ysgol uwchradd cawsom neges o ddiolch gan y pennaeth a ddwedodd bod y ddrama wedi ysgogi llawer o drafod ymhlith y disgyblion a staff fel ei gilydd. Ychydig wythosau’n ddiweddarach daeth neges arall gan yr un pennaeth a ddwedodd fod un o’i ddisgyblion wedi datgelu gwybodaeth am gamfanteisio rhywiol a bod y pennaeth yn credu’n gryf mai ein perfformiad ni oedd wedi helpu’r disgybl i fynd drwy’r broses anodd o drafod.
Ein cynhyrchiad diweddaraf yw TU FEWN TU FAS. Wrth drafod gyda swyddogion addysg cynghorau Ceredigion a Chaerfyrddin, a gydag athrawon unigol, daeth yn amlwg fod angen drama i blant oedran cynradd sydd yn ymwneud â iechyd meddwl.
Mae TU FEWN – TU FAS yn stori am dri ffrind – am sut maen nhw’n trin ei gilydd; am gyfeillgarwch; am berthnasau. Mae’r ddrama wedi’i seilio ar ein gwaith ymchwil ymarferol a wnaethpwyd drwy gynnal gweithgareddau celfyddydau mynegiannol mewn pedair ysgol gynradd. Gan ddechrau gyda gwaith celf a drama, aethpwyd ati wedyn i roi cyfle i grwpiau bach o blant gyfweld â’i gilydd gan drafod pynciau amrywiol:
• Beth sy’n dy wneud yn hapus?
• Beth sy’n dy wneud yn drist?
• Beth sy’n dy wneud yn grac?
• Beth sy’n gwneud iti chwerthin?
• Beth sy’n gwneud iti deimlo’n ofnus?
• Beth sy’n dy ddrysu di?
• Beth wyt ti’n ei wneud ar ôl ysgol ac ar y penwythnosau?
• Oes ‘na rywbeth hoffet ti newid?
Fe recordiwyd sgyrsiau’r disgyblion, yn ddi-enw, a chawsom oriau o sylwadau difyr, doniol, dwys, dadlennol a hynod ddefnyddiol; rydym wedi cynnwys llawer iawn ohonynt gair-am-air yn y sgript – felly mae ‘llais y disgybl’ i’w glywed yn gryf iawn yn y ddrama.
Fe alluogodd hyn i ni roi sylw i Brofiadau Niweidiol Plentyndod (PNPau – ACEs yn Saesneg); rydym yn ddiolchgar iawn am yr arweiniad gawsom gan swyddogion addysg a lles Sir Ceredigion a Sir Gâr ynglŷn â sut i ymdrin â’r pwnc sensitif yma. Mae’r ddrama yn cyfeirio yn benodol at dair elfen – esgeuluso, rhiant yn symud i ffwrdd (heb ddatgelu’r rheswm) a thrais yn y cartref (heb ddatgelu manylion); hefyd mae cyfeiriad anuniongyrchol at gam-drin. Mae’n bwysig nodi nad oes dim golygfeydd treisgar yn y ddrama ei hun.
Ein bwriad wrth greu a chyflwyno’r perfformiad oedd:
- creu ffrâm storïol y gall disgyblion ychwanegu ato gan ddefnyddio eu syniadau a’u dychymyg eu hunain;
- cynnig amrywiaeth o ysgogiadau ar gyfer straeon er mwyn annog a gwella sgiliau trafod;
- annog plant i greu disgrifiadau o gymeriadau – yn eiriol ac yn weledol;
- galluogi plant i drafod perthnasau – mewn ffordd sy’n addas i’w hoedran;
- cyflwyno sawl elfen theatraidd y gellir eu datblygu ar ôl y perfformiad fel rhan o weithgareddau creadigol yn y dosbarth;
- galluogi plant i adnabod emosiynau mewn stori a thrafod yr emosiynau;
- galluogi plant i adnabod eu hemosiynau a’u hymddygiad eu hunain.
Perfformir TU FEWN TU FAS mewn ysgolion cynradd. Oherwydd natur a thema’r cynhyrchiad rydym yn cynnal rhagolwg i athrawon a gweithwyr ieuenctid cyn i’r cynhyrchiad ymweld â’r ysgolion. Yn ogystal, rydyn ni wedi cynhyrchu pecyn o adnoddau a syniadau i athrawon a luniwyd gan athrawes sydd yn arbenigo ym maes lles plant yn y cwricwlwm addysg newydd ac un o staff y cwmni.
Fel a nodwyd uchod, mae pob drama dda yn adloniant hefyd felly, er gwaethaf sensitifrwydd y pynciau hyn, mae’r sylw a roddir iddynt yn cael ei gwmpasu mewn sgyrsiau a chwarae difyr, dwys a doniol rhwng tri phlentyn wrth iddynt fynd allan am bicnic. Tua diwedd y ddrama mae’r tri ohonynt yn rhannu syniadau cadarnhaol ynglŷn â sut i ymdopi gydag emosiynau.
Defnyddir cerddoriaeth a dawns fel elfennau theatraidd creiddiol yn y ddrama; mae rhain yn annog plant ac athrawon i ddefnyddio dawns a cherddoriaeth fel ffyrdd o drafod a mynegi teimladau. Yn aml iawn mae dawns a cherddoriaeth yn gallu mynegi emosiynau yn well na geiriau. Drwy raglenni fel Strictly Come Dancing, mae dawns yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc – ac mae dawnsio a symud yn ffyrdd gwych o ymlacio a hyrwyddo lles a iechyd meddwl.
Mae dwy fersiwn o’r cynhyrchiad – Cymraeg a Saesneg. Mae’r gerddoriaeth yn y ddwy fersiwn gan fandiau a cherddorion Cymraeg: mae’n bwysig iawn i blant glywed cerddoriaeth gyfoes o Gymru.
Ar ôl pob perfformiad cynhelir gweithdy ymarferol a chyfranogol â arweinir gan yr actorion; mae’r gweithdy yn galluogi’r disgyblion i drafod emosiynau drwy ddawns.
Felly mae TU FEWN TU FAS yn drafodaeth, yn gatharsis, yn adloniant , yn weithgaredd mynegiannol ac yn ddrama-ddawns unigryw i blant oed 8 i 12.
Gobeithiwn y bydd y cynhyrchiad ‘nôl allan ‘ar daith’ i ysgolion rhywbryd ar ôl yr Haf. Os ydych chi’n awyddus i drefnu perfformiad yn eich ysgol neu neuadd leol, neu fel rhan o gyfarfod neu gynhadledd cysylltwch â ni drwy post@aradgoch.org
Yn y cyfamser, am gyfnod byr o gwpwl o wythnosau, mae modd gweld y ddrama ar vimeo: cysylltwch â ni am y ddolen a’r cyfrinair.
Ariennir gwaith Cwmni Theatr Arad Goch gan Gyngor Celfyddydau Cymru; Ariennir ein gwaith theatr-mewn-addysg gan gynghorau Sir Ceredigion a Chaerfyrddin.
Jeremy Turner
Cyfarwyddwr Artistig, Cwmni Theatr Arad Goch
jeremy@aradgoch.org