Rhybudd: mae’r tudalen hwn yn cynnwys gwybodaeth am hunan-niweidio all eich atgoffa o deimladau anodd.
Fe all hunan-niweidio deimlo fel ffordd o ymdopi gyda rhywbeth anodd, ond mae yna ffyrdd arall o ymdopi. Pan fyddwch yn cael teimladau sy’n eich gwneud eisiau hunan-niweidio, mae’n dda ffeindio ffordd gwahanol o ymdopi.
Beth i wneud os ydych yn teimlo…
Yn unig neu’n ynysig
Beth am: siarad â rhywun, ysgrifennu eich teimladau, mynd a’r ci am dro, lapio eich hunan mewn blanced, cwrdd â ffrind, neu gwneud ymarfer corff.
Yn Ddig
Beth am: bwrw rhywbeth fel clustog, gwneud ymarfer corff, rhedeg, creu peli o bapur a’u taflu, torri brigau, gwasgu clai, bwrw ffrâm drws gyda papur newydd wedi’i blygu, sgrechian, crio, neu gael cawod oer.
Nad ydych yn ddigon da
Beth am: wrando ar gerddoriaeth, cael bath, llosgi arogl, ffonio ffrind, ysgrifennu, peintio, neu restru pethau da am eich hunan. Dewch o hyd i fwy o syniadau ar gyfer magu hunan-barch.
Nad oes gyda chi reolaeth ar bethau
Beth am: drefnu rhywbeth, glanhau neu dacluso, datrys bôs, gosod targed amser (e.e. dweud na fyddwch yn hunan-niweidio am 15 munud, ac os ydych yn llwyddo, anelwch am 15 munud arall).
Yn ddideimlad neu fel sombi
Beth am: ganolbwyntio’n ddwys ar rywbeth fel anadlu, bod o gwmpas pobl sy’n eich gwneud i deimlo’n dda, gwneud crefftau, hel casgliad o luniau at ei gilydd, chwarae offeryn, pobi, chwarae gemau cyfrifiadurol, gwneud ymarfer corff neu chwaraeon.
Fel eich bod eisiau dianc
Beth am: gael cawod twym neu oer, darlunio ar eich corff gyda phen coch, tylino’r rhannu byddwch fel arfer yn niweidio gyda golchdrwyth, gwasgu ciwbiau o iâ neu chnoi lemwn ar gyfer y teimlad o sioc, neu beintio’ch ewinedd.
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.