Sut i ofyn am gymorth
Dyma ganllawiau ar gyfer cymryd y camau cyntaf, gwneud penderfyniadau a dod o hyd i’r gefnogaeth sy’n iawn i chi.
Pryd y dylwn i ofyn am gymorth?
Mae gofyn am gymorth yn aml yn gam cyntaf i deimlo’n well, ac i aros fel hynny, ond gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau ac ymhle i ddechrau chwilio. Gall wneud i chi deimlo’n ansicr, neu y dylech ymdopi â phethau ar eich pen eich hun. Ond mae bob amser yn iawn i ofyn am gymorth – hyd yn oed os nad oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl penodol.
Mae’n bosibl eich bod am ofyn am gymorth os ydych chi:
- yn poeni’n fwy nag arfer
- yn ei chael hi’n anodd mwynhau eich bywyd
- yn profi meddyliau a theimladau sy’n anodd eu hymdopi â nhw, sy’n cael effaith ar eich bywyd beunyddiol
- am ddod o hyd i fwy o gymorth neu driniaeth.
At bwy alla i droi?
Mae nifer o opsiynau ar gael, ond mae’n bosibl y bydd rhai’n fwy addas i chi nag eraill, neu’n fwy hygyrch. Does dim trefn anghywir o wneud pethau – mae pethau gwahanol yn gweithio i bobl gwahanol ar adegau gwahanol.
Eich meddyg teulu
I nifer ohonom, ein meddyg teulu yw’r lle cyntaf yr ydym yn mynd pan rydym yn sâl. Mae eich meddyg yna i’ch helpu gyda’ch iechyd meddwl yn ogystal â’ch iechyd corfforol.
Gallant:
- roi diagnosis
- gynnig cymorth a thriniaeth (fel therapi siarad a meddyginiaeth)
- eich cyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl, megis seiciatrydd
- argymell opsiynau cymorth lleol.
Therapydd cymwysedig
Mae therapyddion a chwnselwyr yn darparu amrywiaeth o fathau o therapi gwahanol drwy’r GIG, ac mae eich meddyg teulu’n gallu eich cyfeirio at y gwasanaethau hyn. Mewn rhai achosion, gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Mae’n bosibl y bydd rhestr aros, yn dibynnu ar le rydych chi’n byw. Gall therapi preifat fod yn opsiwn i rai hefyd. Gweler ein rhestr o gwnselwyr Cymraeg yma.
Elusennau a sefydliadau trydydd sector
Mae nifer o elusennau cenedlaethol a lleol sy’n cynnig gwasanaethau cymorth megis:
- llinellau cymorth a gwasanaethau gwrando
- gwybodaeth a chyngor
- gwasanaethau megis cymorth gan gymheiriaid, therapi siarad, eiriolaeth, gofal mewn argyfwng a chymorth gyda chyflogaeth a thai.
Gwasanaethau i fyfyrwyr
Mae fel arfer gan sefydliadau addysg uwch ganolfan lles lle y gall myfyrwyr fynd am gymorth am ddim.
Cymorth yn y gweithle
Mae rhai gweithleoedd yn cynnig mynediad am ddim i wasanaethau cymorth megis therapi siarad. Gelwir hyn yn Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Employee Assistance Programme).
Ffrindiau, teulu, gofalwyr a chymdogion
Ambell waith gall fod yn ddefnyddiol siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt am sut rydych chi’n teimlo. Gallant:
- eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth
- drafod eich opsiynau gyda chi
- fynd i apwyntiadau gyda chi
- helpu â thasgau bob dydd
- eich annog a’ch cefnogi.
Cymorth gan gymheiriaid
Mae cymorth gan gymheiriaid yn dod â phobl sydd â phrofiadau tebyg at ei gilydd. Gall eich cymheiriaid:
- eich cefnogi a gwrando ar sut rydych chi’n teimlo
- gynnig empathi ac ymdeimlad o ddealltwriaeth
- rannu profiadau, gwybodaeth ac awgrymiadau am hunan-ofal ac opsiynau cymorth.
Gwasanaethau cymorth cymunedol
Pe bai eich problemau iechyd meddwl yn ddifrifol neu’n hirdymor, gall eich meddyg eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.
Gall y rhain gynnwys timau iechyd meddwl cymunedol (CMHTs), gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwasanaethau gofal preswyl, a thimau argyfwng (CRHTs neu ‘crisis teams’).
Nid yw gofyn am help bob amser yn hawdd, yn enwedig pan nad ydych yn teimlo’n dda. Mae’n bosibl y bydd yn cymryd amser. Ond mae’n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, a’ch bod yn haeddu derbyn cymorth.
[Ffynhonnell: Mind]
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.