Sut i helpu eich plentyn i deimlo’n llai pryderus

Mae pob plentyn, fel pob oedolyn, yn teimlo’n bryderus o dro i dro. Ond i rai, gall gorbryder gymryd drosodd, a’u rhwystro rhag gwneud y pethau maen nhw’n eu mwynhau.

Mae ymchwil gan yr Athro Cathy Creswell o Brifysgol Reading, sydd wedi ysgrifennu llyfrau ar sut i oresgyn gorbryder mewn plentyndod, wedi dangos y gall rhieni wneud pethau i helpu lleddfu pryderon eu plentyn.

Dyma rai awgrymiadau sydd wedi eu selio ar ei hymchwil ac ar astudiaethau diweddar eraill ar orbryder.

Byddwch yn ymwybodol ei fod yn naturiol i blant fynd drwy gyfnodau gwahanol o orbryder

Efallai bydd plant rhwng 4 ac 8 oed yn poeni am ysbrydion, bwystfilod neu anifeiliaid, tra bydd plant hŷn yn fwy tebygol o boeni am gael niwed drwy ddigwyddiadau go iawn ond prin megis llofruddiaeth, terfysgaeth neu ryfel niwclear.

Peidiwch â diystyru ofnau eich plentyn

Ni fydd dweud wrthynt na fydd yr hyn maen nhw’n ei ofni byth yn digwydd, neu awgrymu eu bod nhw’n ffôl i boeni, yn helpu. Yn lle hynny, cydnabyddwch sut mae eu hofnau yn gwneud iddynt deimlo.

Ond ceisiwch beidio â threfnu bywyd o gwmpas eu hofnau, neu gallech amddifadu’ch plentyn o’r cyfle i ddysgu eu bod nhw yn medru ymdopi â’r sefyllfa maen nhw’n ei hofni.

Os oes ar eich plentyn ofn cŵn, efallai ei fod yn ymddangos yn garedig i groesi’r ffordd pan welwch gi, ond y neges y mae hyn yn ei rhoi iddynt yw y dylent fod yn ofnus. Nid yw hyn yn golygu y dylech orfodi’ch plentyn i wynebu rhywbeth maen nhw’n ei ofni, ond yn hytrach, cefnogwch nhw drwy fynd yn agosach yn raddol.

Os ydy gorbryder yn dechrau dod yn broblem, gwyliwch yn ofalus i geisio adnabod pa sefyllfaoedd sydd anoddaf iddynt.

Y nod yw cael dealltwriaeth dda o beth maent yn teimlo a phryd, ond heb ofyn iddynt drwy’r amser sut maent yn teimlo.

Gofynnwch gwestiynau agored i blant

Mae’n demtasiwn i neidio mewn gydag atebion, ond yn hytrach gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando tra eu bod nhw’n esbonio beth maent yn ei ofni y gallai ddigwydd. Efallai ei fod wedi selio ar gamddealltwriaeth. Tan eich bod yn gwybod yn union beth mae’ch plentyn yn ei ofni, mae’n anodd i chi eu helpu nhw.

Yn hytrach na dweud wrth eich plant bod eu hofnau yn ddi-sail, gofynnwch y cwestiynau sydd yn caniatáu iddynt sylweddoli nad yw eu hofnau yn realistig.

Er enghraifft, gofynnwch iddynt beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol i wneud iddynt feddwl y gallai hyn ddigwydd. Dechreuwch gyda chamau bach i’w helpu nhw i ddechrau gweld nad yw’r hyn sy’n digwydd yn union fel yr hyn y maent yn ei ddisgwyl, neu dangoswch y gallant ymdopi â’r her.

Anogwch blant i fabwysiadu strategaethau meddwl i’w helpu i ymdopi

Os oes arnynt ofn perfformio mewn sioe, er enghraifft, gofynnwch iddynt ofyn i’w hunain beth yw’r peth gwaethaf allai ddigwydd, ond hefyd beth yw’r peth gorau allai ddigwydd. Mae’n debygol y bydd yr hyn sy’n digwydd rywle yn y canol.

Helpwch gynllunio dulliau i brofi eu hofnau yn raddol

Ym Mhrifysgol Reading mae rhieni yn cael eu dysgu i adeiladu hyder eu plant trwy eu cael i gynllunio deg cam tuag at wneud yr hyn y maent yn ei ofni.

Rhowch ganmoliaeth a gwobr i’ch plentyn am drio’r camau

Bydd hyn yn cydnabod eu hymdrech ac yn eu hannog i roi tro ar bethau anodd.

Mae’n normal i deimlo’n bryderus o dro i dro, ond os yw eu gorbryder yn achosi gofid iddynt ac yn golygu eu bod yn colli allan ar sefyllfaoedd bob dydd, yna efallai ei fod yn syniad da i chwilio am fwy o gyngor

Edrychwch am lyfrau sydd â strategaethau y gallwch roi cynnig arnynt, neu gofynnwch i’ch meddyg teulu am help megis Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT).

Cofiwch na allwch chi gael gwared â’r holl bryderon o fywyd eich plentyn

Eich nod chi yw eu cael nhw i ddod yn gyfarwydd ag ychydig o ansicrwydd, yn hytrach na chael gwared arno yn gyfan gwbl. Mae dysgu sut i reoleiddio eich emosiynau yn rhan o dyfu fyny. Erbyn i ni dyfu’n oedolion rydym yn gallu rhoi pethau mewn persbectif yn well, gan sylweddoli, ar y cyfan, y gallwn ymdopi.

[Ffynhonnell: BBC]


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.