Sut fedrith celf gyfrannu at leddfu pryder?

Teleri Lea – artist o Lanfrothen, ger Penrhyndeudraeth, sy’n cyflwyno ei phrosiect diweddaraf…

Mae yna nifer o wahanol fathau o bryder; o bryder cymdeithasol i bryder sydd yn ganlyniad i drawma. Gall effeithio ar bob rhan o fywyd neu medrith fod yn deimlad aciwt sydd yn achosi straen achlysurol. Mae’r math o bryder sydd gennym yn effeithio ar y math o amgylchedd sydd yn llesol i ni.

Wrth gwestiynu sut gall y byd celf gyfrannu ar leddfu pryder, mae’n ddefnyddiol ystyried y gofodau creadigol sydd ar gael. Mae’r galeri yn lle amlwg i gychwyn ac mae’n cynnig y posibiliad o greu gwaith ar ‘lechen lan’. Ond dydi’r galeri ddim yn lle hollol niwtral. Gall eu waliau gwyn a’u ffurf sgwâr fod yn oeraidd a diwydiannol. Gall hefyd gael cynodiadau elitaidd ac anhygyrch. Felly sut fedrwn fuddsoddi o’u gofod gwag er mwyn creu profiad deniadol?

Darllenwch mwy….