Straeon y geni : BBC Cymru Fyw

_95888127_rhiannonpratta'rteuluDyw bod yn rhiant ddim yn hawdd, ond cafodd y ddwy fam yma ddechrau sigledig ar ôl cael eu babis cyntaf, a’r ddwy wedi byw mewn tawelwch am eu teimladau, tan nawr.

“Dwi’n cofio cerdded i mewn i’r gegin, gyda fy meddwl ar ras. Beth os alla i ei losgi fe ar y ffwrn? Ei roi e yn y microdon? Tybed a fyddai’r gyllell yma’n hollti ei wddwg? Os fydden i’n ei adael e ar lawr, a fyddai’n marw yn y pendraw?

“Bydden i’n meddwl am y pethau yma i gyd, yn ogystal â dychmygu gwahanol senarios, fel beth pe bawn i’n mynd ag e i’r goedwig a’i adael e yno, a byddai’r bywyd gwyllt yn rhwygo ei gorff yn ddarnau. Bydden i’n clywed ei sgrechfeydd. Roedd y meddyliau hyn yn arteithiol.”

I Rhiannon Pratt, 31 oed o Lanharan, nid fel hyn oedd hi fod. Roedd hi ar ei phen ei hun gyda babi bach newydd anedig, heb gefnogaeth y tad.

“O’r cychwyn cyntaf, ro’n i’n isel ofnadwy, ac o dan straen drwy gydol fy meichiogrwydd i gyd. Mae gorffen gyda’ch cariad cyntaf yn hunllefus ac yn anodd beth bynnag, ond roedd bod yn feichiog yn ei wneud yn erchyll.”

Doedd hyn oll felly ddim yn ddechrau da iddi a’i iechyd meddwl, fel darpar fam, meddai.

“Y gyllell oedd y peth mwyaf ofnus, gyda Daniel yn fabi bach mewn un llaw a’r gyllell yn y llall. Dim ond eiliad ddamweiniol o weithredu ar syniad yn fy meddwl, a byddwn i wedi lladd fy mabi.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb