Mae pawb yn haeddu bod yn hapus

Sara Mai ydw i a dwi’n gymwys ac yn gweithio fel therapydd ers dros 15 mlynedd bellach. Dwi’n gweithio hefo oedolion a phobl ifanc.

Enw fy musnes yw Redloxx Wellbeing/Llesiant Redloxx. Dwi’n cynnig sesiyna’ wyneb i wyneb eistedd yn fy sdiwdio yn Sir Fôn yn ogystal â sesiyna’ Seicffit lle da ni’n cyfuno’r therapi ag ymarfer corff, ond hefyd yn cynnig sesiyna’ therapi ar-lein i unrhyw un sydd methu cyrraedd y sdiwdio neu sydd well ganddynt wneud ar-lein. Ma’ bob cleiant yn wahanol ac nid oes manteision na’ anfanteision i sut mae’r sesiwn yn cael ei gynnal yn fy marn I, yr unig bwysigrwydd i mi yw bod yr unigolyn yn cymryd y cam i gychwyn therapi bu hynny wyneb i wyneb neu ar-lein.

Mae cychwyn therapi yn gam mawr i rai a dwi’n dallt bod cymryd y cam yna yn gallu bod yn un anodd.

Yn y sesiwn cynta’ mi fyddwn yn cychwyn ar drafod chi fel person cyn mentro i lefydd rhy bersonol, ma’ hyn yn rhoi gofod i ni adeiladu perthynas ac i chi gael teimlo fwy hamddenol yn fy nghwmni. Ma’ angen i chi allu ymddiried yna i cyn i ni allu mynd i unrhyw le dwfn a ma’ hyn yn ok os ydio’n cymryd ambell i sesiwn.

Os yda chi wedi bod yn meddwl am gychwyn therapi ers dipyn dwi’n ama ei fod yn arwydd i chi roi cyfla’ arni. Toes dim byd i’w golli yn rhoi siawns ar un sesiwn i gychwyn a gweld sut yda chi’n teimlo.

Ma’ ymarfer corff yn rhan mawr o ‘mywyd i a dyna ble dwi’n mynd i gael fy therapi fy hun. Dwi hefyd yn gymwys fel hyfforddwr personol a dyna ble ddoth y syniad o Seicffit!

Ma’ Seicffit yn rhoi y cyfla’ i unigolion sy’n stryglo i eistedd yn llonydd, stryglo hefo cyswllt llygad i dderbyn therapi wrth symud y corff yr un amser, nid yw’r sesiwn yn teimlo mor fygythiol iddynt fel hyn efallai. Ma Seicffit hefyd yn ffordd o gael unigolion sydd erioed wedi ymarfer corff o’r blaen i symud y corff a gweld ei werth yn gorfforol AC yn feddyliol.

Be dwi’n fwynhau fwyaf am fy ngwaith? Gweld pobl yn cyrraedd lle o hapusrwydd ac yn deall eu hunain. Nid oes rheswm i neb fod yn anhapus am gyfnoda’ hir yn eu bywyda’ felly ma’ gweld unigolion yn cael allan o lefydd tywyll a ddim yn teimlo’n sownd yn gwneud i mi wenu.

Ma’ pawb yn haeddu bod yn hapus x