Ymdopi gydag Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD)

Mae rhai ohonom yn sylwi nad ydym yn teimlo gystal yn ystod misoedd y gaeaf. Gall hyn effeithio ar ein bywyd – mae rhai yn dweud ei fod yn teimlo “fel gaeafgysgu”. Yr enw ar hyn yw Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD).

Mae prif symptomau Anhwylder Affeithiol Tymhorol yn debyg iawn i iselder, ond maent yn digwydd yn y gaeaf.

Os oes gennych SAD, efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd deffro ar fore yn y gaeaf, ac yn teimlo’n gysglyd yn ystod y dydd. Efallai y byddwch yn crefu am siocled a bwyd sy’n uchel mewn carbohydradau, fel bara gwyn neu fwydydd llawn siwgr. Mae SAD yn gwella yn y gwanwyn. Yn wir, mae tua thraean o bobl sydd â SAD yn cael cyfnod o deimlo fod ganddynt fwy o egni na’r arfer yn ystod y gwanwyn a’r haf.

Ymdopi gyda SAD

Gellir trin SAD yn yr un modd ag iselder. Mae triniaeth fel arfer yn cynnwys hunangymorth a newidiadau i’r ffordd o fyw, therapïau siarad a meddyginiaeth gwrthiselder. Mae triniaeth bocs golau hefyd i’w weld yn boblogaidd ac mae ychydig o dystiolaeth i’w cefnogi.

Hunangymorth

Mae rhai symptomau o SAD yn medru arwain at broblemau ychwanegol sy’n gwneud i chi deimlo’n waeth – ‘cylchoedd dieflig’:

  • Os ydy hi’n dywyll ac rydych hi’n teimlo’n flinedig drwy’r amser, mae’n debygol eich bod yn gwneud llai – a gall hyn wneud SAD yn waeth. Ceisiwch gael cymaint o olau naturiol â phosibl. Ewch am dro yn ystod y dydd a pharhau i wneud unrhyw ymarfer corff y byddwch fel arfer yn ei wneud. Atgoffwch eich hun y bydd y dyddiau yn hirach eto yn y gwanwyn.
  • Os ydych chi’n bwyta mwy, efallai y byddwch yn magu gormod o bwysau sy’n gwneud i chi deimlo’n waeth. Atgoffwch eich hun bod y rhan fwyaf o bobl yn magu pwysau yn ystod yr hydref a dechrau’r gaeaf.
  • Gall teimlo’n gysglyd, diffyg awydd a theimlo’n anniddig achosi problemau gartref, gyda’ch ffrindiau, ac yn y gwaith. Gallai teimlo nad ydych chi’n gallu gwneud pethau wneud i chi deimlo dan straen. Dywedwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau er mwyn iddynt ddeall beth sy’n digwydd a’ch cefnogi.

Therapi Golau

Y syniad ydy ceisio darparu golau ychwanegol ac i wneud fyny am y diffyg golau dydd yn y gaeaf. Defnyddir “blwch golau.” Mae’n darparu golau ac fel golau’r haul, ond heb y pelydrau uwchfioled, felly nid yw’n niweidiol i’r croen na’r llygaid. Gallai helpu i ddweud wrth yr ymennydd i greu llai o’r hormon melatonin.

Fel arfer defnyddir blwch golau am 30 munud i awr bob diwrnod. Mae’n fwyaf effeithiol os ydych chi’n ei ddefnyddio amser brecwast. Mae therapi golau yn gweithio’n eithaf cyflym. Os fydd yn helpu, bydd y rhan fwyaf o bobl yn sylwi ar ychydig o welliant yn yr wythnos gyntaf.

Yn ffodus, mae unrhyw sgil-effeithiau fel arfer yn ysgafn. Maent yn cynnwys cur pen, teimlo’n gyfoglyd neu weld pethau’n aneglur. Mae’n well peidio â defnyddio blwch golau ar ôl 5pm oherwydd gallai effeithio ar eich cwsg.

Meddyginiaeth

Gallai meddyginiaeth gwrthiselder fod o gymorth gyda SAD. Dylid osgoi unrhyw feddyginiaeth a allai wneud i bobl deimlo’n fwy blinedig a chysglyd, ac felly fel arfer defnyddir meddyginiaeth gwrthiselder SSRI. Mae’r dystiolaeth orau ar gyfer defnyddio sertraline, citalopram neu fluoxetine. Gyda SAD, mae’n gyffredin i ddechrau cymryd meddyginiaeth yn yr hydref tan y gwanwyn. Mae’n bwysig iawn trafod gyda’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol cyn dechrau neu stopio cymryd meddyginiaeth.

Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)

Mae ychydig o dystiolaeth yn profi y gallai CBT helpu gydag iselder yn y gaeaf a’i atal rhag dod yn ôl yn ystod y gaeaf yn y dyfodol. Defnyddir CBT i drin gorbryder ac iselder yn gyffredinol.

Y cam cyntaf fyddai trafod gyda’ch meddyg teulu i weld beth fyddai’r dewis gorau i chi

Pa mor gyffredin ydyw?

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn teimlo’n wahanol yn ystod y gaeaf gyda symptomau megis teimlo ychydig yn fwy blinedig, cysgu ychydig yn fwy ac efallai magu ychydig o bwysau. Mae’n debyg i aeafgysgu ymhlith anifeiliaid. Os ydy eich symptomau yn ddigon gwael i ymyrryd â’ch bywyd, efallai bod gennych SAD.

[Ffynhonnell: rcpsych.ac.uk]