Rhyddhau’r Cranc – Holi Malan Wilkinson

Mae Malan Wilkinson wedi rhannu ei phrofiadau yn gyhoeddus ers peth amser, ond wedi ei chyfnod diweddaraf mewn gofal dwys, mae hi yn rhyddhau ei llyfr cyntaf ar y profiadau hyn, Rhyddhau’r Cranc. Bu iddi eisoes gyfrannu pwt o’i hanes at gyfrol Gyrru drwy Storom a olygwyd gan Alaw Griffiths (2015), ond y tro hwn, mae hi’n rhyddhau ei stori i’r byd – heb guddio dim.

Wrth i lansio a chyhoeddi Rhyddhau’r Cranc agosáu, fe fuon ni’n holi Malan am ei hysgogiad i ysgrifennu’r llyfr a’r profiad o wneud hynny wedyn. Dyma oedd ganddi i’w ddweud…

Malan, pryd oedd y tro cyntaf i ti ddod yn ymwybodol o iechyd meddwl, ac o dy iechyd meddwl dy hun? Yn fras, be ydi dy brofiadau di?

Tua pum mlynedd yn ôl, es i’n ddifrifol wael a sylwi am y tro cyntaf bod gen i gyflwr/au iechyd meddwl. Fe arweiniodd hynny at fy nghyfnod cyntaf mewn uned seiciatryddol. Ro’ ni wastad wedi bod yn bersonoliaeth obsesif, ond fe aeth y cyfan tu hwnt i’m rheolaeth bum mlynedd nôl ac am y tro cyntaf erioed, ro’ ni angen gofal dwys. Mae gen i Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD) ac iselder. Dw i wedi dioddef cyfnodau isel tu hwnt.

Wrth i mi lithro i iselder, fe allai golli golwg ar y byd o’ nghwmpas gan obsesiynu am bethau all ymddangos yn rhyfedd i eraill. Gall rhain fod yn feddyliau personol neu’n obsesiynau gwleidyddol. Wrth i’r obsesiynau ddwysau, ‘dw i wedi profi sawl episod psychosis – toriadau mewn realiti. Mae’r episodau psychotic yn berygl gan nad oes gen i unrhyw afael ar realiti. Dyma sydd wedi arwain at y cyfnodau lawer mewn uned seiciatryddol.

O ble ddaeth yr awydd neu’r syniad i sgwennu hunangofiant?

Fe ges i’r cynnig gan wasg Y Lolfa. Ro’ ni eisoes wedi ysgrifennu pennod yn Gyrru drwy Storom, Gol: Alaw Griffiths (Y Lolfa) yn 2015 felly pan gefais i’r cynnig i ysgrifennu fy llyfr fy hun, meddyliais y byddai’n ffordd dda o  geisio rhoi trefn ar y blynyddoedd diwethaf yn fy mywyd. Blynyddoedd sydd wedi teimlo’n llawn anrhefn a dweud y gwir.

Roedd na ddarn ohona i hefyd eisiau i rywbeth cadarnhaol ddod o ganlyniad i holl boen y blynyddoedd diwethaf. Hyd yn oed yn y gwendid emosiynol mwyaf, ‘dw i wedi cwrdd â phobl arbennig sydd wedi creu argraff ddofn arnai. Pa well ffordd o ddathlu croesi llwybrau â’r bobl hyn nac o greu cofnod ysgrifenedig?

Beth oedd dy obeithion gwreiddiol di am y llyfr?

Un o’m prif obeithion am y llyfr oedd bod yn onest am fywyd ac am iechyd meddwl. Dwi’n datgelu profiadau anodd tu hwnt yn y llyfr sy’n cynnwys episodau psychosis dwys, pethe na allwn i siarad amdanynt yn gyhoeddus mor rhwydd.

Yn aml, mi fydda i’n credu mai dim ond be ma’ pobl eisiau ei weld am iechyd meddwl maen nhw’n weld. Dyma oedd fy nghyfle i’w dweud hi fel ag yr oedd hi. Wrth wneud hynny, roedd rhan ohona i’n gobeithio y byddai’r gwaith yn helpu eraill, petai hynny dim ond drwy wneud iddynt deimlo’n llai unig. Gobeithiais hefyd y byddai’r gwaith yn cynnig gobaith. Mae iechyd meddwl yn rhywbeth ‘da ni gyd yn byw ag o, o ddydd i ddydd. Yr her fwyaf i mi ac i sawl un arall sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl, yw sylweddoli bod modd ymdopi â’r cyflwr a’i ffrwyno gan barhau i fyw bywyd llawn yn y gymuned.

Ydi’r gobeithion hynny wedi newid dros yr amser ti wedi bod yn ‘sgwennu, neu a wyt ti wedi glynu at dy obeithion gwreiddiol?

Yr un yw fy ngobeithion wedi cwblhau’r llyfr.

Beth oedd yn bwysig i chdi wrth fynd ati i ‘sgwennu? Oedd gen ti negeseuon penodol oeddet ti’n dymuno eu trosglwyddo drwy’r llyfr?

Bod yn onest gan osgoi bod yn rhy sentimental.

Doedd gen i ddim syniad clir am negeseuon penodol ro’ ni’n dymuno ei drosglwyddo i ddechrau. Mi addewais i mi fy hun y byddai holl negeseuon y llyfr yn deillio o brofiadau personol, rheiny yw’r negeseuon pwysicaf yn y pen draw. Mae ‘na lawer o gamsyniadau am iechyd meddwl a clichés diflas – roedd cael y cyfle i gofnodi fy nhaith a hynny mewn ffordd ffraeth ac amrwd felly yn bleser.

Ti’n cadw blog hefyd dwyt Malan? Faint o hwnnw sydd wedi bwydo mewn i gynnwys y llyfr?

Dim llawer, os o gwbl. Mae’r math o bethau dw i’n dueddol o flogio amdanynt ychydig yn wahanol. Dwi’n siarad llai am brofiadau/atgofion ar y blog a mwy am sut i ymdopi â gwahanol sefyllfaoedd o ddydd i ddydd. Dwi’m yn credu bod y bobl sy’n fy nabod ora’ un yn gwybod am dri chwarter y pethau dwi’n sôn amdanynt yn y llyfr.

Sut brofiad oedd ‘sgwennu? Wnes di fwynhau a chael budd o’r broses?

Roedd ysgrifennu yn brofiad pleserus ac ingol ar brydiau. Doedd gen i fawr o ddisgyblaeth chwaith. Roedd fy nghyfnodau ysgrifennu yn ysbeidiol. Roedd rhaid i mi sgwennu pan oedd hynny’n teimlo’n iawn. Fe aeth na fisoedd heibio ar un pwynt a minnau’n methu’n glir a rhoi’r un gair ar bapur, wedyn fe ddois i nôl iddi yn araf.

Dwi’n credu mod i wedi cael budd o weld y darlun ehangach ar ôl cwblhau’r gwaith. Am y tro cyntaf ers sbel – mae fy mywyd yn teimlo fel un bywyd; fy mywyd i. Yn y gorffennol, ‘dw i wedi teimlo bod fy mywyd yn beth toredig, afluniedig, blêr, heb ddilyniant iddo. Mae ysgrifennu’r llyfr wedi newid hynny.

Sut deimlad oedd o wedyn i weld y proflenni a phopeth mewn du a gwyn?

Teimlad cyffrous. A bod yn onest, dim ond ar weld y broflen gynta’ y daeth popeth yn glir i mi – ro’ ni wedi ysgrifennu llyfr! Am flwyddyn a hanner, ro’ ni wedi bod yn teipio bob amser o’r dydd, heb wir atgoffa fy hun, mod i’n sgwennu llyfr. Cofnodi hanes oeddwn i, mynd dan groen salwch, galar, rhywioldeb. Mae sgwennu neu ddarllen ar gyfrifiadur yn teimlo’n bur wahanol i weld gwaith ar ddu a gwyn.

Beth am rŵan? Sut wyt ti’n teimlo bellach, gan wybod mai chydig wythnosau sydd tan y byddi’n lansio ac yn rhyddhau dy stori i’r byd? Wyt ti’n edrych mlaen?

Dwi’n edrych ‘mlaen yn arw ond mae meddwl am y peth yn codi ofn arnai hefyd. Mae gymaint o’r dweud yn y llyfr yn breifat a’r profiadau yn dal i deimlo’n amrwd. Ond, dw i’n credu bod y gwir yn werth ei rannu.

Dwi hefyd yn gwybod y bydd rhaid i mi dynnu llinell dan gyfnod anodd wedi cyhoeddi/lansio’r gwaith. Mae ‘na rywbeth cathartig am hynny. Dwi’n falch eithriadol o’r cyfle i sgwennu fy hanes a fedra i wneud dim mwy na gobeithio y bydd darllenwyr yn cael blas ar y gwaith.

Sut ymateb wyt ti’n gobeithio ei gael?

Dwi heb feddwl am hynny. Fy ngobaith yw cael argraffiadau gonest gan bobl o’r gwaith am wn i. Mi fydd hi’n eitha diddorol gweld pa mor wahanol yw ymateb darllenydd sydd heb brofi anhwylder meddwl yn erbyn darllenydd sydd yn neu wedi dioddef anhwylder iechyd meddwl. Fydd ‘na wahaniaeth? Fe hoffwn i feddwl bod y gwaith yn un y gall pawb gael blas arno.

Sut wyt ti’n teimlo y gall darllen dy lyfr fod yn ddefnyddiol i rywun sydd â phroblemau iechyd meddwl?

Dw i wastad yn gweld darllen/gwrando ar straeon eraill yn ddefnyddiol. Hyd yn oed os ydy eu profiadau nhw’n bur wahanol. Dwi wedi gallu addysgu fy hun am iechyd meddwl ac mae darllen wedi agor fy meddwl i brofiadau eraill. Gall rhannu straeon rhoi persbectif gwahanol i berson ar fywyd neu gyflwr.

Fyddwn i ddim eisiau i unrhyw un deimlo’n unig oherwydd anhwylder iechyd meddwl chwaith, gobeithio bydd y llyfr yma’n eu darbwyllo nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Mae ‘na obaith, hyd yn oed yn y tywyllwch duaf. Dyw pethau byth yn aros run fath.

Beth fyddai dy brif gyngor i Malan ieuengach neu i’r bobl sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl neu’n mynd drwy gyfnod isel ar y funud?

Paid a chicio ti dy hun am dy fod di’n teimlo dy fod di wedi ‘methu’.

Mae salwch meddwl difrifol y tu hwnt i dy reolaeth. Rhan o gymryd rheolaeth ydy sylwi ar adegau na sgen ti ddim. Bosibl y bydd na episodau lawer o waeledd, falle rhagor o arhosiadau yn yr ysbyty, ond mi fedri drio dy orau i godi a thrio eto pan y daw ychydig o haul ar fryn. Ar ei orau, mae bywyd yn werth cwffio amdano. Paid a theimlo cywilydd a phaid a theimlo’n fach pan mae rhai cyfoedion oedd â pherthynas dda â thi yn newid eu hagwedd ar ôl i ti ddioddef episod gwaeledd. Ceisia ddal dy ben yn uchel drwy’r gorau a’r gwaethaf.

Oes unrhyw beth positif wedi dod o dy brofiadau iechyd meddwl?

Oes, ysgrifennu Rhyddhau’r Cranc 🙂

Diolch yn fawr iawn i ti Malan. I orffen, atgoffa ni eto pryd mae’r llyfr allan a lle fydd o ar gael?

Ar ôl y lansiad yng ngwaelod Tŷ Glyndwr, Caernarfon, ar yr 21ain o Fehefin.

Mi fydd y llyfr ar werth yn y lansiad ac ar gael wedi hynny mewn siopau llyfrau Cymraeg.