Rhieni sydd â phroblemau iechyd meddwl
Gall byw gyda rhiant sydd â salwch neu gyflwr iechyd meddwl beri i chi deimlo’n ddryslyd, yn ddig ac yn ddiymadferth.
Mae’n debyg y bydd hynny’n effeithio ar eich bywyd gartref ac ar eich bywyd personol a gall ddigwydd y byddwch yn gorfod gofalu am les eich rhiant.
Os yw’ch rhiant yn ymddwyn yn afresymol neu’n od, rydych chi’n debygol o deimlo’n ofnus ac yn ansicr o beth i’w wneud.
Sut bydd e’n effeithio arnoch chi?
Stigma
Gall y farn negyddol sydd gan rai ar anhwylder meddyliol fod yn anodd ymdopi a hi.
Diffyg cymdeithasu
Mae’n gallu bod anodd delio â’r ffaith nad ydych chi’n gallu gwahodd eich ffrindiau i’ch cartref na chael treulio amser gyda nhw.
Addysg a chyflogaeth
Efallai byddwch chi’n gorfod aros ar eich traed yn hwyr er mwyn gofalu am eich rhieni. Gall hynny darfu ar eich cwsg, sy’n effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio a gall hynny gael effaith andwyol ar eich addysg. Hyd yn oed os llwyddwch i gael swydd, efallai y bydd rhaid i chi gymryd amser i ffwrdd er mwyn cefnogi’ch rhiant. Mae jyglo gofal a gwaith yn gallu bod yn amhosibl.
Baich cyfrifoldeb
Gall hyn fod yn straen ddybryd ar bobol ifanc. Maen nhw’n debygol o fod yn dyst i lawer o newidiadau yn eu bywyd fel profedigaeth, chwalfa’r teulu, colli incwm neu gartref a gweld effaith yr anhwylder ar y sawl maen nhw’n ei garu.
Etifeddiad Genetig
Efallai eich bod chi’n gofidio bod anhwylder meddyliol eich rhiant yn enetig a’r gofid hwnnw ar eich meddwl. Os ydych chi’n poeni am hynny, trefnwch apwyntiad i gael sgwrs gyda’ch meddyg teulu. Gallwch chi gymryd camau i leihau’r tebygolrwydd o ddatblygu cyflwr neu salwch meddwl.
[Ffynhonnell: themix.org]
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.