Pwl o banig – Sut alla i helpu?
Gall fod yn anodd pan fydd rhywun annwyl i chi yn cael pwl o banig – yn enwedig os yw’n digwydd heb rybudd. P’un ai ydynt yn ddieithryn ar y trên neu yn ffrind agos i chi, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.
Yn gyffredinol, dylech:
- Beidio â chynhyrfu
- Gadael iddynt wybod eich bod chi yno iddyn nhw
- Eu hannog i eistedd i lawr mewn man tawel tan eu bod yn teimlo’n well
Cysurwch nhw
Cysurwch nhw y byddant yn iawn, ac eich bod chi yno i’w helpu ac y bydd hyn yn pasio.
Gofynnwch sut allwch chi helpu
Mae pawb yn ymdopi â phyliau o banig yn eu ffyrdd eu hunain – gofynnwch iddynt beth sydd angen arnynt.
Gofynnwch gwestiynau syml fel: wyt ti eisiau dŵr? Wyt ti eisiau dal fy llaw? Wyt ti eisiau mynd i rywle tawel? Wyt ti eisiau mynd am dro? Beth wyt ti angen?
Drwy ofyn iddynt beth sydd angen arnynt, neu sut gallwch chi helpu, gallwch eu cefnogi i deimlo fod mwy o reolaeth ganddyn nhw. Mae gwybod bod rhywun yno sy’n gwybod beth i’w wneud os ydynt yn dechrau teimlo’n orbryderus neu’n mynd i banig yn eu helpu nhw i deimlo’n fwy diogel a thawel eu meddwl.
Eu hannog i anadlu’n araf ac yn ddwfn
Mae’n debygol y byddant yn goranadlu neu’n anadlu’n afreolaidd. Bydd rheoli eu hanadlu yn helpu i leihau’r symptomau hyn.
Ceisiwch gyfri gyda nhw: anadlu i mewn drwy’r trwyn am 4 eiliad ac allan drwy eu ceg am 8 eiliad. Ni ddylech fyth annog rhywun i anadlu mewn i fag papur yn ystod pwl o banig. Ni chaiff hyn ei argymell ac efallai nad yw’n ddiogel.
Cynnig rhywbeth sy’n tynnu eu sylw
Siaradwch gyda nhw am rywbeth ysgafn; gallant wrando ac ymateb os ydynt eisiau neu gallant eich anwybyddu. Ceisiwch eu cael i sgwrsio â chi.
Enghraifft dda o weithgaredd daearu yw gofyn iddynt restru 5 peth maent yn eu gweld, 4 peth gallant eu cyffwrdd, 3 pheth y gallant eu clywed, 2 beth y gallant eu harogli ac un peth y gallant ei flasu.
Arhoswch gyda nhw a byddwch yn amyneddgar
Dywedwch wrthynt y byddwch yn aros gyda nhw, gan ddweud rhywbeth fel, ‘Rwy’n mynd i aros gyda ti, nid yw’n broblem, mae gen i amser i gadw cwmni i ti.’ Os ydynt yn berson pryderus yn gyffredinol, byddant yn meddwl eu bod yn creu anghyfleustra.
Mae pyliau o banig yn amrywio o ran eu hyd, felly byddwch yn amyneddgar ac arhoswch gyda nhw iddo i basio.
Parhewch i’w cysuro drwy ddweud pethau megis ‘gallwn aros yma mor hir ag sydd angen’ a ‘rwyt ti’n mynd i fod yn iawn.’
Ar ôl i’r pwl o banig gilio, mae pobl yn aml yn teimlo wedi ymlâdd, yn ypset ac/neu mewn sioc. Gallwch gynnig mynd i gael rhywbeth i fwyta neu yfed gyda nhw, a gwirio eu bod yn iawn ar eu pen eu hunain cyn i chi adael.
[Ffynonellau: mind.org a metro.co.uk]
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.