PTSD – Sut alla i helpu?

Gall fod yn anodd iawn i weld rhywun annwyl i chi yn profi symptomau Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD), neu PTSD cymhleth. Mae’r erthygl hon yn cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer ffyrdd y gallwch eu cefnogi tra’ch bod chi hefyd yn edrych ar ôl eich hunan.

Gwrandewch arnynt

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu, gallwch helpu drwy:

  • rhoi amser iddynt siarad pan maen nhw’n barod – mae’n bwysig peidio â rhoi pwysau arnynt
  • caniatáu iddynt fod yn ofidus ynglŷn â beth sydd wedi digwydd
  • peidio â gwneud rhagdybiaethau ynghylch sut maen nhw’n teimlo
  • peidio â diystyru eu profiadau drwy ddweud “gallasai fod yn waeth” neu holi pam na wnaethant ddweud neu wneud rhywbeth yn wahanol.

Ceisiwch beidio â barnu

Os nad ydych wedi profi PTSD eich hunan, gall fod yn anodd deall pam na all eich ffrind, neu aelod o’r teulu, ‘symud ymlaen’.  Mae’n hawdd deall eich bod chi eisiau i bethau fynd yn ôl i arfer, ond mae’n bwysig peidio â beio neu roi pwysau arnynt i ddod yn well heb yr amser a’r cymorth sydd angen arnynt.

Dysgwch beth sydd yn cael effaith arnynt

Bydd pob unigolyn yn cael profiad gwahanol o PTSD, felly gallai helpu i siarad am ba fathau o sefyllfaoedd neu sgyrsiau sydd yn ysgogi teimladau anodd neu ôl-fflachiau. Er enghraifft, efallai bod synau uchel neu ddadleuon yn peri gofid arbennig iddynt. Mae dysgu beth sydd yn cael effaith arnynt yn gallu eich helpu chi i osgoi sefyllfaoedd fel hynny, ac yn gwneud i chi deimlo’n fwy parod pan fydd ôl-fflachiau yn digwydd.

Awgrymiadau ar gyfer helpu rhywun sy’n cael ôl-fflachiau

Mae ôl-fflachiau yn brofiadau byw lle mae rhywun yn ail-fyw agweddau o ddigwyddiad trawmatig. Gall fod yn anodd gwybod sut i helpu, ond nid oes angen hyfforddiant arbennig i gefnogi rhywun sy’n cael ôl-fflachiau.  Gallwch helpu drwy:

  • ceisio aros yn ddigyffro
  • dweud wrthynt yn dyner eu bod yn cael ôl-fflachiau
  • osgoi gwneud unrhyw symudiadau sydyn
  • eu hannog i anadlu’n araf ac yn ddwfn
  • eu hannog i ddisgrifio eu hamgylchedd.

Parchwch eu gofod personol

Yn aml, gall pobl sydd yn dioddef o PTSD deimlo eu bod wedi cynhyrfu neu ar bigau’r drain.  Gallant gael eu cynhyrfu’n hawdd neu deimlo’r angen i gadw golwg am berygl drwy’r amser. Gallwch helpu drwy:

  • osgoi gorlwytho’r person
  • peidio â chyffwrdd neu roi cwtsh iddynt heb ganiatâd
  • ceisio peidio â’u dychryn neu roi sioc iddynt.

Gofalwch am eich hunan

Gall digwyddiad trawmatig gael effaith fawr, nid yn unig ar y rhai sydd wedi byw drwyddo, ond hefyd ar deulu, ffrindiau neu gydweithwyr y person hwnnw. Mae’n bwysig cofio bod eich iechyd meddwl chi yn bwysig hefyd.

[Ffynhonnell: mind.org]