Kariad – Hud sy’n rhoi gwên yn eich calon
Tybed beth sy’n helpu chi deimlo’n well pan fyddwch chi’n teimlo’n drist?
Pan roeddwn yn yr ysgol gynradd, dechreuodd Dad fy nysgu sut i wneud triciau hud a lledrith. Yn sgil dysgu gwneud y triciau, roeddwn i’n cael hwb o ddysgu sgil newydd ac yna yn cael pleser mawr wrth rannu’r triciau a gweld y wên a’r rhyfeddod fel heulwen yn dod yn ôl ataf o’r gynulleidfa.
Fel ymarferydd celf mewn iechyd, mae llês ac iechyd meddwl plant yn hollbwysig i mi. Trwy gyfuno hyn â dros 40 mlynedd o berfformio fel consuriwr, rwyf wedi datblygu sesiynau hud sydd yn hybu hunanhyder plant, yn ddeinamig, difyr, sensitif ac hefyd yn gyfle i gael hwyl mewn amgylchedd diogel.
Er nad yw’n bosib teimlo’n hapus trwy’r amser, ac mewn rhai sefyllfaoedd, nad yw’n bosib cael gwared o’r teimlad o dristwch i gyd, rwy’n awyddus i helpu plant a phobol ifanc sylweddoli bod modd gwneud pethau sydd yn medru gwneud gwahaniaeth, boed hynny i helpu teimladau ein hunain neu i helpu teimladau bobol eraill.
“Mae Kariad wedi gwneud imi wenu a chredu ynaf fi’n hun” – disgybl Ysgol y Gorlan, Tremadog.
Profiadau sydd wastad yn blaenoriaethu iechyd meddwl a llês y plant, yn gwarchod eu teimladau ac yn meithrin eu hunan hyder. Trwy fachu eu sylw, ennyn sgwrs a chyffro, datblygir sgiliau iaith, creadigrwydd, caredigrwydd a phrofiad sy’n rhoi hwb i’r teimlad o falchder yn eu hunain i’r plant.
Dwi’n cofio Dad yn holi fi “Sut fyddi di’n dewis cael gwared o chwyn o’r ardd?”. Finne wedyn yn son am chwynnu, chwynladdwr a ballu. Fyntau wedyn yn dweud “Ond mae’r chwyn yn medru tyfu’n ôl! Un ffordd o sicrhau nad oes modd iddo dyfu’n ôl yn yr union fan yw trwy blannu blodyn yno.”
Dyna fyddaf i’n ceisio gwneud trwy rannu yr hud a lledrith. Cynnig profiad sy’n helpu rhoi gwên yn y galon, yn helpu creu y teimlad o ryfeddod ac agor y meddwl i bosibiliadau bendigedig. Plannu’r blodyn!
Cysylltwch gyda Karen Hughes am rhagor o wybodaeth:
✆ 07979 547304
📧 karen@kariad.org
💻 kariad.org