“Jyst siaradwch gyda rhywun” : BBC Cymru Fyw

_92850183_15109571_1263200400385539_4500690509329571877_n-1Mae cyfnod y Nadolig yn dod ag atgofion tywyll yn ôl i un ferch o Sir Gaerfyrddin, wedi i ffrind ladd ei hun dros gyfnod yr ŵyl ddwy flynedd yn ôl.

Eleni mae Sioned Thomas, 21 oed, o Lanpumsaint ger Caerfyrddin yn gobeithio codi arian at elusen Mind trwy greu calendr arbennig er cof am ei chyfaill.

Bu farw Dafydd Llyr Owain Jamieson ychydig wythnosau cyn y Nadolig yn 2014. Cafodd corff y sprintiwr 19 oed ei ddarganfod yng Nghaerdydd lle’r oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan y brifddinas.

“Mae e wedi bod yn wake-up call mawr. Mae mor bwysig i siarad, hyd yn oed os ydych chi’n cael diwrnod gwael yn y gwaith neu’r ysgol, jyst siaradwch gyda rhywun, achos os ydy popeth yn adeiladu lan, bydd e’n rhy hwyr.”

Mwy: bbc.co.uk/cymrufyw

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb