Mae achosion o glefydau heintus, fel Coronafeirws (COVID-19), yn gallu codi ofn arnom ac effeithio ar ein hiechyd meddwl.
Er ei fod yn bwysig i fod yn wybodus, mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud i gefnogi a rheoli ein lles yn ystod adegau fel hyn.
Dyma rai awgrymiadau a all eich helpu chi, eich ffrindiau a’ch teulu i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod adeg pan fo cymaint o drafodaeth am fygythiadau potensial i’n hiechyd corfforol.
Ceisiwch osgoi dyfalu ac ymchwiliwch i ffynonellau dibynadwy
Mae straeon a dyfalu’n gallu ychwanegu at orbryder. Mae cael mynediad i wybodaeth o ansawdd da am y firws yn gallu eich helpu i deimlo mewn rheolaeth.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chyngor cyfredol am y firws yma:
Dilynwch y cyngor am hylendid, er enghraifft golchi eich dwylo’n amlach nag arfer, am 20 eiliad gyda sebon a dŵr cynnes (canwch ‘Penblwydd Hapus’ i’ch hun ddwywaith i sicrhau eich bod yn gwneud hyn). Dylech wneud hyn pan fyddwch yn cyrraedd y gwaith neu’n dychwelyd o’r gwaith, yn chwythu eich trwyn, yn tisian neu’n peswch, yn bwyta, neu’n ymdrin â bwyd. Os na allwch chi olchi eich dwylo’n syth, defnyddiwch hylif diheintio (hand sanitiser) ac yna’u golchi pan gewch chi’r cyfle.
Dylech hefyd ddefnyddio hancesi papur os ydych chi’n tisian a sicrhau eich bod yn eu gwaredu’n gyflym; ac aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl.
Ceisiwch aros mewn cysylltiad
Yn ystod adegau o straen, rydym yn gweithio’n well mewn cwmni a chyda cefnogaeth. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch teulu neu cysylltwch â llinell gymorth i gael cymorth emosiynol.
Cadwch mewn cysylltiad â ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol ond ceisiwch beidio â gorgynhyrfu pethau. Os ydych chi’n rhannu erthyglau ac ati, defnyddiwch ffynonellau dibynadwy, a chofiwch efallai bod eich ffrindiau’n poeni hefyd.
Cadw trefn feunyddiol
Mae’n syniad da i gadw at eich trefn feunyddiol. Efallai eich bod am ganolbwyntio ar y pethau allwch chi eu gwneud os ydych chi’n teimlo y gallwch:
- technegau rheoli straen ac ymlacio
- gwneud ymarfer corff
- bwyta deiet cytbwys
Siaradwch â’ch plant
Mae cynnwys ein teulu a’n plant yn ein cynlluniau ar gyfer iechyd da yn hanfodol. Mae angen i ni wrando a gofyn i’n plant beth y maen nhw wedi ei glywed am y firws a’u cefnogi, heb eu dychryn.
Mae angen i ni leihau’r effaith negyddol y mae’n ei gael ar ein plant ac esbonio’r ffeithiau iddynt. Trafodwch y newyddion â nhw ond ceisiwch ag osgoi eu gorlwytho â gwybodaeth am y firws. Byddwch mor onest ag y gallwch. Ceisiwch drafod â nhw mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.
Mae rhywfaint o ofid yn normal
Mae’n normal i deimlo’n fregus ac wedi’ch gorlwytho wrth ddarllen newyddion am y firws, yn enwedig os ydych chi wedi profi trawma neu broblem iechyd meddwl yn y gorffennol, neu os oes gennych chi gyflwr iechyd corfforol hirdymor sy’n eich gwneud yn fwy agored i effeithiau’r coronafeirws.
Mae’n bwysig cydnabod y teimladau hyn ac atgoffa’n gilydd i ofalu am ein hiechyd corfforol ac iechyd meddwl. Dylem hefyd fod yn ymwybodol o arferion nad ydynt yn fuddiol yn yr hirdymor, fel ysmygu ac yfed, ac osgoi cynyddu ein defnydd o’r rhain.
Ceisiwch dawelu meddwl y bobl rydych yn gwybod sy’n bryderus a chadw mewn cysylltiad â phobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
Ceisiwch beidio â gwneud rhagdybiaethau
Peidiwch â dod i gasgliadau am bwy sy’n gyfrifol am ledaenu’r clefyd. Gall Coronafeirws effeithio ar unrhyw un, waeth eu rhyw neu hil.
Ceisiwch reoli sut rydych yn dilyn y newyddion
Mae llawer o sôn am y firws ar y newyddion ar hyn o bryd. Os ydych chi’n teimlo bod y newyddion yn peri straen i chi, mae’n bwysig i gael cydbwysedd. Does dim rhaid i chi osgoi’r newyddion yn gyfangwbl, mae’n bwysig i fod yn wybodus, ond gallwch gyfyngu ar faint o’r newyddion yr ydych chi’n ei weld.
Sut y dylai pobl ymdopi â hunan-ynysu neu bod mewn cwarantîn?
Os oes posibilrwydd bod gennych Coronafeirws, mae’n bosib y gofynnir i chi aros gartref (hunan-ynysu).
I bobl sy’n hunan-ynysu neu mewn cwarantîn, efallai y bydd hyn yn anodd iawn. Gall fod o gymorth i geisio ei ystyried fel cyfnod gwahanol o amser yn eich bywyd, ac nid un sy’n wael o reidrwydd, hyd yn oed os na wnaethoch ei ddewis.
Bydd hyn yn golygu rhythm bywyd gwahanol, cyfle i gadw mewn cysylltiad ag eraill mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer. Cysylltwch ag eraill yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost neu ar y ffôn, gan eu bod o hyd yn ffyrdd da o fod yn agos i’r bobl sy’n bwysig i chi.
Crëwch drefn feunyddiol sy’n blaenoriaethu hunan-ofal. Efallai byddwch am ddarllen mwy neu wylio ffilmiau, gwneud ymarfer corff, rhoi cynnig ar dechnegau ymlacio, neu ddysgu am bwnc newydd ar y we. Ceisiwch ymlacio a gweld hyn fel profiad newydd, anarferol, a all fod o fudd i chi.
Sicrhewch fod eich anghenion iechyd ehangach yn cael eu gofalu amdanynt, fel sicrhau bod gennych ddigon o’ch meddyginiaethau presgripsiwn.
Daw’r wybodaeth uchod o wefan y Mental Health Foundation

Coronafeirws ac Iechyd Meddwl – Dr. Llinos Roberts
OCD a’r Coronafeirws
Dydy teimlo’n bryderus am bandemig ddim yn unigryw i Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD). Ond wrth gwrs gall ymateb y rhai hynny ohonom sy’n orbryderus, yn enwedig os yw’n ymwneud â heintio, i argyfwng iechyd fod yn eithafol.
Yn ystod achosion iechyd rhyngwladol o’r math yma, cyngor gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, fel arfer, yw i osgoi cyffwrdd ein trwyn a’n ceg ac i olchi’n dwylo yn fwy aml am rhyw 20 eiliad. Cyngor iechyd digon cadarn, ond gydag OCD, yn enwedig i’r rhai â phryder am heintio, gall agor y llifddorau i’r meddyliau ymwthiol (intrusive thoughts) nad ydyn ni eu heisiau ond mae OCD yn eu taflu aton ni.
Nid yn unig bod OCD yn gwneud i ni deimlo ei bod yn debygol iawn i ni ddal y feirws newydd, ond yn waeth byth, bod yn rhaid i ni gymryd pob gofal er mwyn peidio’i drosglwyddo i’r rhai rydyn ni’n eu caru. Mae’r teimlad o risg yn cael ei chwyddo ac yn ein boddi ag euogrwydd am bod posibilrwydd y byddwn ni ar fai am rannu’r feirws, a’r teimladau dwys o euogrwydd yn arwain at ymddygiad sydd y tu hwnt i’r arfer i’r rhai nad yw OCD yn effeithio arnynt. Gall hyn ein llethu yn feddyliol ac yn gorfforol. [parhau i ddarllen]
Cyngor Menter Gorllewin Sir Gâr ar edrych ar ôl ein lles
(cliciwch ar y lluniau i agor copi pdf o’r poster)
Gwybodaeth i blant
Rhagor o wybodaeth:
- Gwybodaeth a chyngor gan Mind
- Gwybodaeth a chyngor gan y Sefydliad Iechyd Meddwl
- Erthyglau i blant a phobl ifanc am y feirws : Meic
- Sut i ofalu am eich iechyd meddwl wrth hunan-ynysu : BBC Cymru Fyw
- Pum tip ar gyfer gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod yr argyfwng coronafeirws : Hafal
Profiadau:
- Bod yn fam yn ystod y cyfnod cloi : Mind
- Sut rwy’n delio gyda fy ngorbryder a fy iselder yn ystod y cyfnod ynysu : Mind
- Rheoli Anhwylder Deubegwn yn ystod yr achosion o Coronafeirws yng Nghymru : Amser i Newid Cymru
- Cyngor Sioned Davies ar ymdopi gydag anhwylder bwyta yn y cyfnod yma : BBC Cymru Fyw
- BLOG: Caethineb iselder yng nghanol sefyllfa coronafirws : meddwl.org
- Coronafeirws: Goroesi gyda gorbryder – Arddun Rhiannaon : Lysh
- Coronafeirws: Vox Pops : Lysh
- Y byd mor dawel a’r meddwl yn sgrechian cymaint o ofnau – Malan Wilkinson : BBC Cymru Fyw
- Mam, dwi ofn y Coronavirus : Mam Cymru
Fideos:
- Cyngor Greta Isaac : Hansh
- 5 tip i gadw iechyd meddwl iach : Hansh
- Rheoli straen a phryder wrth hunan ynysu : Ffit Cymru
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.