Iechyd meddwl yr arddegau yn ystod cyfnodau anodd
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd, gan effeithio ar iechyd meddwl pawb. Nid yw iechyd meddwl yr arddegau yn eithriad.
Mae pobl ifanc wedi wynebu rhai heriau nad yw oedolion wedi eu hwynebu. Ansicrwydd arholiadau a graddau, colli cyfoedion ar yr adeg y mae perthnasoedd gyda chyfoedion yn dod yn bwysicach fyth, ac ymdopi a dysgu o bell/yn yr ysgol/cyfunol. Mae llawer ohonom ni heb gael blwyddyn ysgol arferol ers 2018/19. Mae hi wedi bod yn anodd.
Dysgu o bell
Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n ôl mewn ystafelloedd dosbarth nawr, ond yn dal i wynebu cyfnodau o ynysrwydd oherwydd salwch, anabledd neu gyflwr iechyd cronig.
Gall dysgu o bell fod yn anodd. Mae’n anodd peidio gallu gweld ein ffrindiau wyneb-i-wyneb. Mae cymell ein hunain i wneud gwaith ysgol pan ydym ni’n eistedd adre yn aml yn anodd, a hynny os ydyn nhw hyd yn oed yn anfon unrhyw waith atom o gwbl! Yr hyn sy’n ei gwneud hi’n anoddach yw’r ffaith nad ydym ni’n gallu cynllunio – dydyn ni ddim yn gwybod os byddwn ni yn yr ysgol neu adre, gall newid o wythnos i wythnos.
Er bod ysgolion yn aml yn ceisio cefnogi ein hiechyd meddwl, mae hyn yn dal i fod yn anodd. Weithiau, mae ysgolion yn ein gofyn sut y gallan nhw ein cefnogi – ond dydyn ni ddim bob amser yn gwybod. Efallai y byddwn ni’n gwybod ein bod ni’n cael trafferth, ond dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd ei angen arnom ni, ac mae hynny’n iawn. Pan fyddwn ni’n teimlo ein bod ni’n gallu, mae cadw deialog agored gyda’n hysgol yn gallu helpu nhw i’n helpu ni.
Gorbryder a dysgu
Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi teimlo’n fwy pryderus nag arfer dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae gorbryder yn gwneud astudio yn anodd iawn.
Mae hyd yn oed ychydig o orbryder yn gallu effeithio ar ein cof; mae angen i ni ail-wneud darnau o ddysgu rydym ni eisoes wedi ceisio gwneud unwaith.
Weithiau, mae hyn yn arwain at gylch o bryder. Rydym ni wedi colli cymaint o ysgol dros y blynyddoedd diweddaf, yn aml rydym ni’n dod ar draws pethau nad ydym ni wedi gweld o’r blaen sy’n ein gwneud ni’n bryderus iawn. Po fwyaf pryderus ydym ni, y mwyaf rydym ni’n cael trafferth wrth astudio. Po fwyaf y rydym ni’n cael trafferth wrth astudio, y mwyaf pryderus ydym ni.
Pan fydd hyn yn digwydd, y peth gorau allwn ni ei wneud yw stopio, anadlu, a chymryd eiliad (ie, hyd yn oed mewn arholiad!). Os ydym ni mewn arholiad, mae’n bwysig i gofio rydym ni wedi gwneud ein gorau gyda’r amser sydd gennym, a bod unrhyw gwestiynau rydym ni wedi’u hateb yn barod wedi’u cwblhau. Mae unrhyw amser sy’n weddill yn gyfle i adeiladu ar ein gwaith a’i wella ymhellach.
Dangos teimladau…neu beidio
Yn yr ysgol gynradd, yn aml mae’n teimlo fel petai’n iawn i lefain. Ond pan rydym ni’n cyrraedd yr ysgol uwchradd, gall dangos gormod o emosiwn achosi problemau. Mae nifer ohonom ni’n pryderu os ydym ni’n llefain neu’n dangos emosiwn ‘annerbyniol’, y byddwn ni’n darged ar gyfer bwlio. I osgoi hyn, rydym ni’n cadw popeth tu fewn.
Pan nad ydym ni’n rhyddhau ein hemosiynau, mae ein hemosiynau anodd yn cadw dychwelyd. Os ydym ni’n dysgu i beidio â llefain yn yr ysgol, gall fod yn anodd llefain yn y tŷ hefyd, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn i ryddhau emosiynau sydd wedi bod yn adeiladu i fyny mewn ffordd iachus.
Gall hyn fod yn waeth i’r rhai hynny sy’n cyflwyno eu hun fel gwrywod, ac mae hyn yn dueddol o waethygu wrth i ni fynd yn hŷn. Rydym ni’n clywed negeseuon fel “ti’n 15 oed, dylet ti ddim llefain, dwyt ti ddim yn blentyn rhagor” (er nad ydym ni’n oedolion, does dim byd o’i le o gwbl â llefain, ac wrth gwrs, bydd cyfnodau lle mae emosiynau’n llethol – rydym ni yn ein harddegau.)
Mae’n bwysig cofio, er efallai nad ydym ni’n teimlo’n gyfforddus i ddangos ein hemosiynau yn yr ysgol, does dim byd o’i le â llefain neu ddangos emosiwn.
Pethau sy’n helpu: Lles Corfforol
Gall gofalu am ein hiechyd corfforol helpu ein hiechyd meddwl.
Gall bwyta deiet cytbwys ac yfed digon o ddŵr wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydym ni’n teimlo. Mae’n bwysig cynnwys danteithion yn awr ac yn y man – gall bwyta pethau neis godi ein hysbryd!
Gall gwneud ymarfer corff ein helpu i gysgu’n well, a phan rydym ni wedi bod yn astudio drwy’r dydd, mae’n ein helpu i deimlo ein bod ni wedi cyflawni rhywbeth, ac wedi gwneud rhywbeth heblaw am eistedd i lawr.
Nid yw hyn bob amser yn hawdd. Mae gwneud ymarfer corff gyda ffrindiau yn gallu bod yn hwyl – cymaint felly ein bod ni’n anghofio bod hyn yn dda i ni!
Mae rhai ymarferion y gallwn eu gwneud adre. Os oes gennym ni gyfarpar, mae modd i ni wneud pethau fel codi pwysau. Os na, mae digon o wahanol ymarferion y gallwn ni eu gwneud heb gyfarpar o gwbl. Mae gan YouTube a TikTok fideos ymarfer corff gwych y gallwn ni eu dilyn.
Weithiau, y rhan anoddaf o wneud ymarfer corff yw cychwyn arni. Mae’r pethau canlynol yn gallu helpu: gosod targedau bach, cyraeddadwy, gwrando ar restr chwarae fywiog, a dilyn pobl ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n ein hannog i ddechrau symud.
Pethau sy’n helpu: Iechyd Meddwl
Mae eiliadau o fyfyrdod tawel yn gallu helpu lleddfu ein pryderon. Os ydym ni’n berchen arnynt (ac yn gallu gwneud hyn yn ddiogel), gall canhwyllau helpu dod â ni i’r foment. Gall cael amser i ffwrdd o bobl eraill a phryderon bywyd o ddydd i ddydd fod yn bwysig.
Weithiau, mae pobl yn dweud bod chwarae gemau’n beth gwael, ond gall fod yn ffordd wych o ymlacio a ffoi o’r byd go iawn am ychydig. Yn yr un modd, gall darllen llyfrau ffantasi fynd â ni i fyd arall i ffwrdd o straen y byd hwn.
Arferion Dyddiol
Yn aml mae pobl yn dweud bod arferion dyddiol yn dda ar gyfer iechyd meddwl, a gall hynny fod yn wir. Fodd bynnag, weithiau, rydym ni’n rhoi gormod o bwysau ar ein hunain i lynu wrthynt, sy’n creu hyd yn oed mwy o straen.
Mae arferion yn bwysig – ond mae cydbwysedd hefyd yn bwysig. Er enghraifft, mae angen i ni wneud hunanofal sylfaenol bob dydd, ond does dim byd yn bod ar ohirio ein cawod yn y nos i’r bore canlynol a chipio noson gynnar os ydym ni wedi blino.
Y Cyfryngau Cymdeithasol
Yn yr un modd ag arferion, gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn fuddiol neu’n anfuddiol yn ddibynnol ar sut rydym ni’n eu defnyddio nhw.
Gall fod yn ffordd i ymlacio. Gallwn eu defnyddio i siarad â ffrindiau, yn enwedig y rhai hynny sy’n byw’n bell. Gall fod yn hwyl, does dim prinder o fideos doniol.
Mae’r rhan fwyaf o apiau a gwefannau yn defnyddio algorithmau i benderfynu ar yr hyn sy’n ymddangos ar ein ffrwd. Po fwyaf yr ydym ni’n edrych ar bwnc, y mwyaf mae’n ymddangos ar ein ffrwd.
Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn beth da, ond mae pethau y gallwn wneud am amdano. Gallwn ddewis pwy rydym ni’n eu dilyn, a mudo neu rwystro cyfrifon di-fudd. Ar rai gwefannau, gallwn hyd yn oed rhwystro geiriau penodol. Os ydym ni’n canfod bod llawer o bostiadau yn ymddangos ar bwnc penodol nad ydym ni eisiau eu gweld, yna gallwn ni glicio ar y post a dweud wrth y wefan neu’r ap nad ydym ni eisiau gweld pethau fel hyn. Dros amser, mae’r algorithm yn dysgu peidio â dangos pethau fel hyn i ni.
Cwsg
Mae’n debyg nad oes person ifanc yn ei arddegau sydd wedi llwyddo osgoi trafodaeth am faint y maen nhw’n cysgu. Mae llawer ohonom yn hoffi aros i fyny’n hwyr a chysgu mewn. Y broblem yw, rydym ni’n aml yn gorfod codi’n gynnar er mwyn mynd i’r ysgol.
Efallai ein bod ni’n rhywun nad oes angen llawer o gwsg arnom. Ond os, er enghraifft, y gwyddom ein bod ni’n teimlo’n ofnadwy gyda llai nag wyth awr o gwsg, ac mae angen i ni godi erbyn 6:30yb ar gyfer yr ysgol, dylem anelu at fynd i’r gwely erbyn 10:30yh.
Pan fydd iechyd meddwl yn dechrau gwaethygu
Mae gennym ni i gyd arwyddion rhybudd cynnar sy’n dweud wrthym fod ein hiechyd meddwl yn gwaethygu ychydig. Gallem ddod yn obsesiynol dros arferion, neu ollwng yr arferion yn gyfangwbl ar draul ein hiechyd a hunanofal. Gall cynnal ein hylendid fod yn anodd. Efallai na fyddwn ni’n bwyta neu’n syrthio i batrymau o fwyta emosiynol. Mae cael hi’n anodd codi o’r gwely a mynd i gysgu, cyfnodau aml o orbryder a theimlo’n flin drwy’r amser hefyd yn arwyddion nad yw pethau’n iawn. Weithiau, rydym ni’n stopio gwneud pethau roeddem ni’n arfer eu hoffi.
Pan fydd iechyd meddwl yn gwaethygu: pethau sy’n helpu
Gall sylwi ar ein harwyddion rhybudd cynnar ein helpu i wneud rhywbeth amdanynt.
Os oes gennym ni rywun yr ydym yn ymddiried ynddyn nhw, naill ai ffrind neu oedolyn, gallwn siarad â nhw am sut rydym ni’n teimlo. Weithiau, dim ond rhyddhau ein teimladau sydd angen i ni ei wneud. Ar brydiau eraill, mae angen ychydig mwy o gymorth arnom ni a gall fod yn ddefnyddiol i ddatrys problemau gyda’n gilydd.
Mae amser i ymlacio yn hanfodol. Gall hwn fod yn anodd os oes gennym ni lawer o waith ysgol neu os ydym ni’n jyglo gwaith ysgol gyda swydd. Ond mae amser oddi wrth waith ysgol a gwaith yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’n hwyliau.
Mae cael llyfr nodiadau o “fuddugoliaethau bach” yn helpu i’n hatgoffa ein bod ni’n gwneud llawer yn well nag yr ydym ni’n meddwl. Y gair allweddol yma yw ‘bach’. Does dim angen iddynt fod yn ddarganfyddiadau arloesol neu’n llwyddiannau sydd wedi torri record byd. Gall gynnwys pethau fel “Cefais gawod” neu “Codais o’r gwely”. Efallai bydd ein buddugoliaethau bach yn wahanol i rai pobl arall oherwydd mae gwahanol bethau’n anodd i wahanol bobl – ac mae hynny’n iawn. Cofiwch – mae gwahanol bethau yn gweithio i bobl wahanol.
Pan fyddwn yn teimlo’n wael, mae angen i ni flaenoriaethu ein hunain a gwneud yr hyn sy’n iawn i ni – nid yr hyn sy’n iawn i’n ffrind gorau.
Pan fydd iechyd meddwl yn gwaethygu: helpu ffrind
Os yw ffrind yn cael trafferth, efallai gallwn ni eu helpu gyda rhai agweddau o hunanofal, fel eu hannog i yfed neu fwyta digon.
Gallwn fynd â nhw allan am eu hoff fwyd, neu ddod â’u hoff fyrbryd i mewn i ginio os ydym yn yr ysgol.
Gall atgoffa nhw ein bod ni’n eu caru ac yn eu gwerthfawrogi feddwl mwy nag yr ydym ni’n gwybod. Gall eu hatgoffa am jôcs mewnol neu atgofion yr ydym ni’n eu rhannu â nhw helpu codi eu hwyliau a’u hatgoffa pa mor bwysig ydyn nhw i ni.
Pan fydd hi’n anodd gofyn am help
Weithiau, mae gofyn am help yn anodd iawn oherwydd efallai byddwn ni’n poeni am beth mae eraill yn ei feddwl. Mae pobl yn fwy ymwybodol o iechyd meddwl ers y cyfnod clo, ond gall hyn dal i fod yn anodd. Mewn gwirionedd, mae gennym ni i gyd iechyd meddwl ac, yn union fel iechyd corfforol, weithiau mae angen cymorth arnom.
Efallai nad ydym ni’n teimlo ein bod ni’n haeddu cymorth neu gefnogaeth, neu’n teimlo bod bai arnom ni am y ffordd rydym ni’n teimlo. Gall hyn greu cylch negyddol gan wneud i ni deimlo’n waeth ac yn waeth. Ond rydym ni’n haeddu cymorth a chefnogaeth ac nid ein bai ni ydyw.
Ffynhonnell: blurtitout.org
(Chwefror 2022)