Allwch chi helpu gyda’r prosiect ‘Cymorth digidol i bobl ifanc gyda’u hwyliau a’u lles’?

Mae llawer o bobl ifanc yn cael problemau gyda’u hwyliau, a dyw’r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn cael unrhyw help. Rwy’n seiciatrydd ac ymchwilydd gyda Phrifysgol Caerdydd, ac yn arwain prosiect i dreiali rhaglen ac ap dwyieithog, HwbHwyliau. Rydyn ni wedi datblygu’r rhaglen gyda phobl ifanc a theuluoedd/gofalwyr i gefnogi eu hwyliau a lles (ac iselder a phryder).

Mae yna animeiddiad am y rhaglen yma. Mae’r rhaglen/ap yn llawn gwybodaeth i bobl ifanc ac i deuluoedd, gofalwyr, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol am iechyd meddwl, storiâu personol, hunangymorth, a ble i gael help. Mae’n llawn darluniau, animeiddiadau, ac adrannau rhyngweithiol e.e. dyddiadur hwyliau, creu targedau a dolenni i adnoddau defnyddiol eraill.

Mae’n gyfle i gynnig cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, a bydd yr adborth yn ein helpu i ddatblygu adnoddau yn y dyfodol. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn tocyn rhodd a thystysgrif. Mae’n rhad ac am ddim i gymryd rhan.

Mae pobl ifanc 13-19 oed sydd yn profi problemau gyda’u hwyliau a’u lles (e.e. hwyliau isel) a’u rhieni/gofalwyr yn gallu cymryd rhan yn y prosiect.

Os ydych chi â diddordeb, neu yn adnabod rhywun sydd efallai â diddordeb, gallwch fynd i’r wefan yma am fwy o wybodaeth ac i lenwi’r ffurflen gymryd rhan.

Bydd dwy ran o dair o’r rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn dolen i HwbHwyliau a bydd traean yn derbyn pecyn gwybodaeth digidol. Bydd cyfrifiadur yn penderfynu ym mha grŵp fyddwch chi. Byddwn wedyn yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi lenwi holiaduron ar y dechrau, ac yn gyrru dolenni i chi i’r adnoddau digidol. Byddwn yn gofyn i chi lenwi holiaduron eto ar ôl dau fis.

Mae fideo ar y prosiect ar y wefan hon, neu gallwch ei weld yma:

 

Gallwn hefyd anfon cardiau post a phosteri i chi i helpu i hyrwyddo’r prosiect. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr astudiaeth neu e- bostiwch: YmchwilPoblIfancArlein@caerdydd.ac.uk.