Hunan-niweidio – Sut alla i helpu?

RHYBUDD: Darllenwch gyda gofal gan fod yr erthygl hon yn sôn am hunan-niweidio a allai eich atgoffa o deimladau anodd. Os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid neu’r gwasanaethau brys ar 999.

P’un ai yw rhywun yn dweud wrthoch chi yn uniongyrchol, neu os ydych chi’n amau bod rhywun yn niweidio eu hunain, gall fod yn anodd gwybod beth i ddweud a sut i ymdrin â’r sefyllfa. Efallai eich bod yn teimlo sioc, yn flin, yn ddiymadferth, yn gyfrifol neu nifer o emosiynau anodd eraill.

Bydd person sy’n hunan-niweidio yn aml yn meddwl nad ydynt yn niweidio pobl eraill drwy gymryd eu poen emosiynol arnyn nhw eu hunain. Wrth gwrs bydd eu hunan-niweidio yn brifo’r rhai sy’n poeni amdanynt, ond cofiwch nad dyma yw eu bwriad.

Cofiwch fod hunan-niweidio fel arfer yn ffordd i rywun ymdopi â theimladau neu brofiadau anodd iawn, ac yn y rhan fwyaf o achosion mae’n wahanol i deimladau hunanladdol. 

Beth sydd o gymorth?

Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud gwahaniaeth i anwylyn sy’n hunan-niweidio. Eich agwedd chi yw un o’r pethau pwysicaf a allai eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Bydd y modd yr ydych chi’n ymateb yn cael effaith ar faint fyddant yn rhannu gyda chi ac eraill am eu hunan-niweidio yn y dyfodol.

Dyma rai pethau i’w cofio:

  • Peidiwch â’u beirniadu.
  • Ceisiwch beidio â mynd i banig na gorymateb.
  • Gadewch iddynt wybod eich bod chi yno iddyn nhw ac yn barod i wrando.
  • Ceisiwch ddeall pam eu bod yn ei wneud.
  • Gadewch iddyn nhw reoli eu penderfyniadau.
  • Cynigiwch eu helpu i gael cymorth proffesiynol.
  • Atgoffwch nhw o’u rhinweddau cadarnhaol a’r pethau maen nhw’n eu gwneud yn dda.
  • Anogwch nhw i siarad, ac i dderbyn cymorth proffesiynol, ond peidiwch â’u gorfodi. Er eich bod eisiau iddynt roi’r gorau i niweidio eu hunain, gall hyn fod yn broses hir.
  • Dywedwch wrthynt, er nad ydych yn cymeradwyo eu hymddygiad, eich bod yn eu caru yn ddiamod.
  • Byddwch yn amyneddgar, hyd yn oed os na allwch ddeall pam y byddent eisiau niweidio eu hunain.
  • Edrychwch ar ôl eich hun. Gall cefnogi rhywun sy’n hunan-niweidio fod yn broses hir. Bydd edrych ar ôl eich hun yn eich galluogi i’w cefnogi nhw ac i gadw’n iach eich hun am amser hirach.

Beth sydd ddim yn helpu?

Weithiau, hyd yn oed gyda’r bwriadau gorau, gallai ymdrechion i gefnogi rhywun fod yn niweidiol. Dyma rai pethau i’w hosgoi:

  • Ceisio gorfodi newid.
  • Ymddwyn neu gyfathrebu mewn modd sy’n peryglu cymryd rheolaeth oddi wrthynt.
  • Naill ai anwybyddu eu hanafiadau neu ganolbwyntio’n ormodol arnynt.
  • Labeli hunan-niweidio fel ffordd o fynnu sylw. Weithiau, gall hunan-niweidio fod yn ffordd o ofyn am gymorth. Os felly, mae’n bwysig cofio nad oes dim byd o’i le ar fod eisiau sylw, ac y gallai trallod difrifol fod yn rhwystr i ddweud yn uniongyrchol sydd arnynt eu hangen.
  • Peidiwch â mynnu eu bod yn rhoi’r gorau i niweidio eu hunain. Gallai wltimatwm o’r fath eu gyrru ymhellach oddi wrthoch chi, gan eich bod yn dangos nad ydych chi’n deall nac yn gwrando. Mae’n bosib bod person sy’n hunan-niweidio yn teimlo’n ynysig ac yn unig; gallai wltimatwm gryfhau’r teimladau hyn o unigrwydd. Gan fod hunan-niweidio yn ffordd o ymdopi nid yw’n rhesymol i gymryd hynny oddi arnynt heb gynnig ffordd neu strategaeth newydd o ymdopi iddynt.
  • Peidiwch â bychanu’r hyn maen nhw’n ei wneud. Cofiwch fod hunan-niweidio yn dod yn arferiad, ac unwaith mae rhywun yn nghylchred hunan-niweidio gallai’r pethau lleiaf fod yn sbardun (trigger) iddynt.

[Ffynonellau: mind.org a lifesigns.org]

Os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid neu’r gwasanaethau brys ar 999.