Goroesi gŵyl fawr

Er y gall gwyliau mawr, fel yr Eisteddfod, fod yn llawn hwyl, gallant hefyd fod yn anodd i rai am sawl rheswm.

Dyma rai tips gan meddwl.org a Lysh ar sut i oroesi’r wythnos.

  • Paid â theimlo pwysau i ddilyn pawb arall – gwna beth sy’n dy wneud di’n hapus.
  • Paid â gor-ymrwymo, a chynllunia ddigon o amser ar gyfer cyfnodau tawel.
  • Ysgrifenna dy deimladau lawr bob dydd.
  • Chwilia am ofod tawel
  • Siarada am sut wyt ti’n teimlo – mae’n debygol bydd eraill yn teimlo yr un peth.
  • Paid â gwthio dy ffiniau rhy bell – cofia nad oes rhaid gwneud pethau ti ddim yn gyfforddus yn gwneud.
  • Cynllunia amserlen a pharatoi.
  • Cer ar gyflymder dy hun a gwna beth sydd orau i ti.