Delio gyda gorbryder ar ôl cael babi : BBC Cymru Fyw

Nesdi Jones

Mae Nesdi Jones o Gricieth wedi gwneud enw i’w hun fel cantores Bhangra gan gyrraedd brig y siartiau Asiaidd ond drwy’r cyfan mae wedi bod yn dioddef o orbryder sydd wedi ei “bwyta’n fyw” ar brydiau.

Erbyn hyn, mae hi’n fam i ferch fach, Cadi-Glyn, ac mae’r pwysau wedi bod yn aruthrol arni wrth geisio ymdopi gyda’i gorbryder sydd weithiau’n ei rhwystro rhag gadael y tŷ.

“Ges i ddiagnosis o PTSD, iselder a gorbryder pan o’n i’n bymtheg oed. Roedd hynny ddeng mlynedd yn ôl, bellach. Wnaeth pethau waethygu pan ro’n i’n feichiog, roedd fy hwyliau i’n uffernol o isel ac roedd y PTSD allan o reolaeth.

“Roedd digwyddiadau o’r gorffennol yn dod yn ôl yn fyw yn aml iawn. Ond wnes i sôn wrth y fydwraig a diolch byth fe wnaeth tîm iechyd meddwl mamolaeth fy helpu.

“Ar fy ngwaethaf dwi’n taflu i fyny ac yn llewygu. Ac mae o’n cymryd tridiau i deimlo’n ‘iawn’ unwaith eto oherwydd mae o’n sugno’r egni allan ohona i jest i gwffio yn erbyn yr attacks.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb