Gofyn i oedolyn am gymorth

Os oes gen ti broblem na alli di ei datrys ar ben dy hun, mae’n syniad da i ofyn i oedolyn ‘rwyt ti’n ymddiried ynddynt am help. Mae’r erthygl hon yn cynnwys gwybodaeth i dy helpu ddod o hyd i’r person cywir i ofyn, ac yn awgrymu ffyrdd i ddechrau sgwrs anodd.

Sut gall siarad gydag oedolyn helpu?

Weithiau, gall rhywun arall dy helpu i weld dy broblem mewn ffordd wahanol. Gallen nhw roi syniadau newydd i ti am sut i ymdopi gyda phethau. Efallai eu bod nhw wedi bod drwy rywbeth tebyg eu hunain. Efallai eu bod nhw’n gwybod yn union beth i wneud neu yn gwybod am rywun all dy helpu.

Mae rhoi pethau i mewn i eiriau yn aml yn helpu. Weithiau, gall rhannu beth sydd ar dy feddwl fod yn llesol. Gallai siarad â rhywun wneud i ti deimlo nad oes rhaid i ti ddelio gyda phethau ar ben dy hun.

Pethau i’w cofio:

  • Dewis rhywun rwyt ti’n teimlo’n ddiogel gyda nhw;
  • Paratoi beth rwyt ti eisiau ei ddweud;
  • Sicrhau ei fod yn amser da i siarad ac nad oes unrhyw beth arall yn tynnu eu sylw;
  • Ti sydd â’r rheolaeth dros faint rwyt ti’n dweud wrth rywun – does dim rhaid i ti ddweud popeth os nad wyt ti eisiau;
  • Os nad wyt ti’n siŵr a fyddant yn cadw’r hyn y byddi di’n ei ddweud wrthynt yn gyfrinach, galli di ofyn hynny iddyn nhw cyn dweud unrhyw beth.

Dod o hyd i’r oedolyn cywir i siarad â nhw

Os wyt ti eisiau gofyn i oedolyn am help, gwna’n siŵr eu bod nhw’n rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddynt ac yn teimlo’n ddiogel yn eu cwmni. Efallai eu bod wedi dy helpu di gyda rhywbeth o’r blaen. Gall siarad gyda chwnselydd dy helpu i weithio allan pwy fyddai’r person orau i ti siarad gyda. Efallai eu bod yn:

  • Rhiant / gofalwr
  • Aelod arall o’r teulu
  • Rhiant un o dy ffrindiau
  • Athro
  • Meddyg
  • Nyrs neu gwnselydd yn yr ysgol
  • Cymydog
  • Hyfforddwr chwaraeon
  • Arweinydd crefyddol

Sut i deimlo’n gyfforddus a hyderus

Paratoi

Gall paratoi beth rwyt ti eisiau ei ddweud fod o gymorth mawr i dy helpu i deimlo’n barod i siarad. Mae paratoi yn golygu dy fod yn gwybod beth rwyt ti eisiau ei ddweud, ac yn gwneud i ti deimlo’n llai nerfus am ei ddweud.

Wyt ti eisiau dweud popeth wrthyn nhw, neu dim ond ychydig? Meddylia am rai enghreifftiau o’r broblem sydd gen ti. Gallai hyn eu helpu i ddeall y sefyllfa. Esbonia sut wyt ti’n teimlo. Gall hyn hefyd helpu’r oedolyn i ddeall.

Ymarfer

Cer dros beth rwyt ti eisiau dweud. Ceisia ymarfer yn uchel o flaen drych neu ddweud y geiriau yn dy ben. Ceisia feddwl sut fydd y sgwrs gyda’r oedolyn yn swnio, a ble hoffet ti ei chael. Gall hyn dy helpu i deimlo’n fwy hyderus amdano. Gallet ysgrifennu beth hoffet ei ddweud i lawr er mwyn cofio.

Dod o hyd i’r amser cywir i siarad

Dylet ofyn am help pan fyddi di’n teimlo’n barod, ac ar ôl i ti feddwl am beth rwyt ti eisiau dweud. Ceisia ddod o hyd i amser pan na fydd yr oedolyn yn rhy brysur neu ar fin mynd i rywle. Er enghraifft, os wyt ti eisiau dweud wrth athro, gwna’n siŵr ei fod ar ôl gwers pan fyddant yn rhydd i wrando’n astud. Neu, os wyt ti’n mynd i ddweud wrth riant, ceisia peidio gwneud hynny pan fyddant yn gwneud rhywbeth fel coginio.

Sut i ddechrau sgwrs

Gallet drio’r pethau hyn i ddechrau’r sgwrs:

  • “Dwi eisiau dweud rhywbeth wrthot ti, ond dwi ddim yn gwybod sut.”
  • “Mae hyn yn anodd i mi ddweud, ond mae gen i rywbeth pwysig i ddweud wrthot ti.”
  • “Dwi angen ychydig o gyngor ar rywbeth sy’n fy mhoeni.”

Neu, galli di ddweud dy fod yn gofyn am gyngor i ffrind. Weithiau, mae’n haws esgus nad wyt ti’n siarad am dy hun. Os yw’r oedolyn yn gefnogol, galli ddweud wrthyn nhw dy fod ti wir yn siarad am dy hun.

Siarad am bethau eraill

Weithiau, mae’n anodd gwybod sut i ddechrau siarad am fater anodd. Felly, gallet ti wneud hynny drwy siarad am rywbeth arall sy’n cyfeirio at y broblem rwyt ti eisiau ei thrafod. Gall fod yn unrhyw beth, fel Facebook, raglen deledu, llyfr neu rywbeth yn yr ysgol.

A fyddant yn cadw’r hyn y byddai’n dweud yn gyfrinachol?

Mae gan bobl broffesiynol gwahanol (fel meddygon ac athrawon) reolau gwahanol am gadw pethau mae pobl wedi dweud wrthynt yn breifat neu’n gyfrinachol. Mae hefyd yn dibynnu ar beth fyddi di’n dweud wrthyn nhw. Weithiau, mae’n dibynnu ar eu dewis personol nhw.

Os ydyn nhw’n poeni am dy ddiogelwch, mae’n rhaid i rai oedolion ddweud wrth rywun arall. Y rheswm am hyn yw fel eu bod yn medru dy helpu di y ffordd orau.

Os wyt ti’n poeni am gyfrinachedd, gallet ofyn iddyn nhw am hynny cyn i ti ddweud unrhyw beth wrthynt. Mae gan y rhan fwyaf o bobl broffesiynol gyfrifoldeb i ddweud eu polisi wrthot ti.

Ddim eisiau siarad wyneb yn wyneb?

Gall siarad gyda rhywun am broblem bersonol fod yn frawychus. Gall gwneud hynny wyneb yn wyneb fod hyd yn oed anoddach. Mae hynny’n naturiol. Gallet ei wneud drwy ysgrifennu os yw hynny’n haws. Gallet ysgrifennu e-bost, llythyr neu neges destun.

Ond cofia bod ysgrifennu rhywbeth yn golygu bod cofnod o beth ddywedaist ti, felly mae’n bwysig i’w gadw’n breifat. Er enghraifft, mae e-bost rhyngddot ti a’r oedolyn yn unig, ond gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn fwy cyhoeddus.

Gallet hefyd dynnu llun. Gall tynnu lluniau fod yn ffordd dda i esbonio dy sefyllfa.

[Ffynhonnell: Childline]

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.