Emetoffobia: ‘Mae arna’i ofn chwydu’ : BBC

_94919095_hannah2

Does neb yn hoffi bod yn sâl, ond mae ar Hannah Ellis ofn chwydu i’r fath raddau bod arni ofn ieir, ac mae hi’n mynd i banig os oes ffrind iddi neu aelod o’r teulu yn mynd yn sâl. Mae gan y ferch 19 mlwydd oed o Sheffield Emetoffobia, cyflwr sy’n effeithio ar filoedd o bobl yn y DU.

“Mae’n siŵr bod fy ffrindiau’n pendroni pam ‘mod i’n bwyta pasta a saws tomato am y bedwaredd noswaith yn olynol. Nid oherwydd ‘mod i’n dlawd, y gwir yw bod ieir, neu feddwl am ailgynhesu bwyd, yn fy nychryn. Mae fy ffobia o chwydu – mae hyd yn oed y gair yn troi fy stumog – yn rheoli bron pob agwedd o ‘mywyd.

“Mae’n gwneud i mi deimlo’n euog”

Mae bod yn fyfyriwr yn y flwyddyn gyntaf mewn prifysgol yn anodd i bawb, ond mae hi wedi bod deg gwaith anos i mi. Mae nosweithiau allan yn heriol oherwydd alla’i ddim yfed gormod nac edrych ar ôl fy ffrindiau os ydyn nhw’n sâl. Os ydy fy nghariad, ffrindiau neu fy nheulu yn mynd yn sâl dw’i ddim yn meddwl: “Ydyn nhw’n iawn?” Fy meddwl cyntaf yw: “O na, ydw i’n mynd i fynd yn sâl?” Mae’n gwneud i mi deimlo’n euog.

Roeddwn i’n arfer bod ag ofn bwyta o gwbl rhag ofn y byddwn yn chwydu. Nawr, pan rwy’n gwneud brechdan mae’n rhaid iddo fod wedi crasu ychydig oherwydd rwy’n cadw fy mara yn y rhewgell rhag ofn iddo lwydo.

Y diagnosis

Dechreuodd pan oeddwn i’n 10 mlwydd oed pan gefais wenwyn bwyd tra roeddwn ar fy ngwyliau yn yr Aifft, ond rwy’n gwrthod meddwl am hynny bellach. Dw’i ddim wedi bod yn sâl ers hynny.

Roeddwn i’n lwcus oherwydd roedd merch ffrind i’r teulu wedi ei gael. Dywedodd wrth fy mam beth oedd e, a bod enw i’r peth. Dywedodd y meddygon yr es i i’w gweld bod gen i orbryder, ond dw’i ddim yn berson pryderus, dim ond chwydu sy’n codi ofn arna’i. Ces i gwnsela ond ni wnaeth hynny helpu, roedden nhw’n meddwl ei fod yn broblem fwy dwys. Ces i fy hypnoteiddio ond ni weithiodd hynny chwaith – efallai ‘mod i’n rhy sinigaidd.

Rwyf wedi canfod fy ffordd fy hun o ymdopi ag e, ceisio peidio meddwl amdano drwy’r dydd a pharhau gyda ‘mywyd. Rwy’n llawer gwell nag oeddwn i. Roedd hi’n anodd iawn gwneud ffrindiau newydd yn yr ysgol uwchradd oherwydd roedd arnaf ofn bwyta yn nhai pobl, ac roedd yn rhaid i mi ddewis y bwyty bob tro. Nawr dw’i ‘mond yn mynd i banig pan fo rhywun ar fy mwys yn dioddef o salwch heintus, neu pan dw’i wirioneddol yn teimlo’n sâl.

Ond weithiau dwi’n meddwl, “Ydw i byth yn mynd i gael teulu?” oherwydd alla’i ddim dychmygu meddwl am fod yn sâl yn y boreau na bod fy mhlant fy hun yn mynd yn sâl. Dywedodd fy rheini wrtha’i y bydd yn teimlo’n wahanol pan fydd gen i fy mhlant fy hun – felly dwi’n dal yn dynn ar y syniad hwnnw.”

Beth yw emetoffobia a pha mor gyffredin ydyw?

Efallai bydd dioddefwyr emetoffobia yn cyfyngu eu deiet, yn osgoi bwyta allan a hyd yn oed yn atal beichiogrwydd oherwydd bod arnynt ofn bod yn sâl yn y boreau. Efallai eu bod yn gwrthod mynd i’r ysgol neu i’r gwaith os oes salwch yn mynd o gwmpas.

Credir bod cannoedd ar filoedd o ddioddefwyr yn y DU, gyda 80% o’r rhain yn fenywod.

A ellir gwella o emetoffobia?

Mae emetoffobia fel arfer yn datblygu yn dilyn profiad trawmatig o chwydu, yn enwedig yn ystod plentyndod. Y driniaeth fwyaf cyffredin yw CBT (Therapi Ymddygiad Gwybyddol), ac mae ar gael ar y GIG.

Stori wreiddiol : BBC

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb