Yn effro i’r gwirionedd: sut gall diffyg cwsg effeithio ar iechyd meddwl mam

Fel mam i efeilliaid, dw i wedi cael fy siâr o nosweithiau heb gwsg. A dweud y gwir, dydi’r term “noson heb gwsg” ddim cweit yn disgrifio realiti’r diffyg cwsg ges i yn ystod fy nyddiau cynnar o fod yn fam. Roedd hyn yn fwy na dim ond cael fy neffro ganol nos ambell waith; roedd yn gylch didrugaredd o newid, bwydo, a chysuro, a’r cwbl yn fy ngadael i’n teimlo fel sombi yn chwilio’n daer am lymaid o goffi, neu’n well fyth, am noson iawn o gwsg.

Ond mae ‘na agwedd ar ddiffyg cwsg sy’n mynd y tu hwnt i’r blinder corfforol yn unig. Yn aml iawn, dydi’r effaith mae’n ei gael ar iechyd meddwl mamau ddim yn cael ei ystyried. Yn yr erthygl hon, mi fydda i’n trafod sut gall diffyg cwsg fod yn un o achosion sylfaenol problemau iechyd meddwl ymysg mamau, a pham mae hi’n hen bryd i ni daflu goleuni ar y mater hwn sy’n cael ei anwybyddu’n rhy aml o lawer.

Effeithiau dinistriol diffyg cwsg

Rydan ni oll wedi clywed y dywediad, “Cysga pan fo’r babi’n cysgu”. Swnio’n syml, dydi? Wel, mae’n haws dweud na gwneud. Y realiti ydi bod diffyg cwsg yn gallu cael effaith ofnadwy ar lesiant meddyliol mam. Gall yr effeithiau amrywio o newid yn ei hwyliau a bod yn oriog, i gyflyrau mwy difrifol fel iselder a gorbryder ôl-enedigol.

Pan wyt ti’n rhedeg ar danc gwag drwy’r amser, nid dy gorff yn unig sy’n dioddef; mae dy feddwl yn dioddef hefyd. Gall diffyg cwsg arwain at fod yn fwy pigog, lefelau uwch o straen, a theimlad o fod wedi dy orlethu sy’n teimlo’n amhosib ei orchfygu. Fel mam newydd, roeddwn i’n aml yn teimlo fy mod yn sefyll ar ymyl dibyn anobaith, yn meddwl tybed fuaswn i fyth yn teimlo fel “fi” eto.

Cyfyng-gyngor camddiagnosis

Un o ganlyniadau anffodus effeithiau diffyg cwsg ar iechyd meddwl yw’r cyfyng-gyngor camddiagnosis. Yn rhy aml, caiff mamau blinedig eu cyfeirio at eu meddyg teulu a chael meddyginiaeth i drin iselder neu orbryder. Er bod meddyginiaeth yn gallu bod yn achubiaeth i rai, mae’n hollbwysig inni ystyried gwraidd go iawn y symptomau hyn.

Ar fy siwrne i, fe wnes i sylweddoli efallai nad meddyginiaeth oedd ei angen fel opsiwn cyntaf ar lawer o famau a oedd yn chwilio am help gyda’u pryderon iechyd meddwl. Yn hytrach, mwy o gwsg oedd ei angen arnyn nhw! Mae’n ateb syml, sy’n aml yn mynd heb ei ystyried, ac mae’n gallu gwneud byd o les.

Fy siwrne i tuag at fod yn Ymgynghorydd Cwsg

Fe wnaeth fy mhrofiad i fy hun o ddiffyg cwsg ar ôl cael gefeilliaid agor fy llygaid i bŵer cwsg. Wrth imi lywio’r heriau a ddaw wrth fagu dau fabi, deffrodd fy angerdd dros ddod o hyd i ffyrdd o helpu mamau fel fi gael y gorffwys y mae cymaint o’i angen arnynt.

Fe wnes i benderfynu mynd yn ymgynghorydd cwsg ardystiedig, wedi fy arfogi â’r wybodaeth a’r strategaethau i helpu teuluoedd gael noson well o gwsg. Fy nghenhadaeth yw rhannu’r neges nad rhyw foethusrwydd yw noson dda o gwsg; ond rhywbeth cwbl hanfodol, yn enwedig i famau newydd.

Taflu goleuni ar ddiffyg cwsg

Mae’n hen bryd i ni daflu goleuni ar y berthynas rhwng diffyg cwsg ac iechyd meddwl mamau, perthynas sy’n cael ei hanwybyddu’n rhy aml. Er y gall meddyginiaeth fod yn arf hollbwysig wrth drin cyflyrau iechyd meddwl, dylem ystyried hefyd fynd i’r afael â’r mater sydd wrth wraidd y peth: y diffyg cwsg.

Fel ymgynghorydd cwsg, rydw i wedi cael y fraint o helpu teuluoedd i drawsnewid eu bywydau drwy wella ansawdd eu cwsg. Ac rydw i wedi gweld gyda fy llygaid fy hun sut gall rhywbeth mor syml â noson dda o gwsg adfer egni a llawenydd mam wrth iddi deimlo fel hi ei hun unwaith eto.

Felly, i bob mam sy’n brwydro nosweithiau heb gwsg, cofia nad wyt ti ar dy ben dy hun, ac mae ‘na obaith. Chwilia am y gefnogaeth y mae ei angen arnat ti, a chofia efallai mai noson dda o gwsg ydi’r allwedd i adennill dy les ac ailddarganfod y chdi go iawn yng nghanol yr anhrefn hyfryd o fod yn fam.


@SaraDaviesSleepConsultantsarasleep.com