Dibyniaeth: “Nid pam y dibyniaeth, ond pam y boen”
Dyma erthygl gan Dr Gwyn Roberts, Meddyg Arbenigol mewn Dibyniaeth.
Beth yw Dibyniaeth?
Unrhyw ymddygiad y mae person yn chwennych ac yn canfod rhyddhad neu bleser dros dro ynddo, ond yn dioddef canlyniadau negyddol o’i ganlyniad, ac eto’n cael anhawster rhoi’r gorau iddi.
Pa fathau o ddibyniaeth sy’n bodoli?
Yn gyffredinol mae dibyniaeth wedi’i rhannu i ddibyniaeth ar sylweddau a dibyniaeth ymddygiadol.
Y sylweddau sy’n achosi’r niwed mwyaf yn ein cymdeithas, mewn trefn ddisgynnol, yw – alcohol, heroin, crack cocaine, tobacco, amphetamine, canabis, GHB, benzodiazapines (valium)….
Mae enghreifftiau dibyniaeth ymddygiadol yn helaeth – gamblo, gorfwyta, rhyw, technoleg/gaming, co-dependency (dibyniaeth emosiynol neu seicolegol yn orfodol ar unigolyn arall) ac yn y blaen.
Hynny yw, unrhyw sylwedd neu ymddygiad sy’n fferru poen y meddwl ac yn gwyro sylw’r unigolyn oddi wrth eistedd gyda’i hunan.
Rhai ystadegau ar ddibyniaeth (Deyrnas Unedig)
- 50%+ unigolion gyda salwch meddwl yn ddibynol ar rhyw fath o sylwedd
- 7.5m (6.5% o’r boblogaeth) yn ddibynnol ar alcohol
- 1 mewn 10 o bobl a dderbynnir i’r ysbyty yn ddibynnol ar alcohol
- 1.5 miliwn yn gaeth i benzodiazepines (e.e. diazepam/valium)
- 2 miliwn+ o bobl yn gaeth i gamblo
- 5.4% o boblogaeth yn cam-drin opiadau ar bresgripsiwn
- bob pum awr mae rhywun yn marw o effeithiau heroin
Mae nifer y bobl sydd wedi marw yng Nghymru oherwydd camddefnyddio cyffuriau wedi cynyddu 84% dros y deng mlynedd diwethaf.
Oes gen i ddibyniaeth?
Yn gyffredinol mae unigolion gyda dibyniaeth yn arddangos cyfuniad o’r arwyddion canlynol:
- Colli rheolaeth dros faint ac amlder y defnydd/ymddygiad, yn cynnwys yr angen am fwy i gael yr un effaith (“tolerance”)
- Chwant (cravings) a gorfodwyd i ddefnyddio/gweithredu
- Parhad i’w ddefnyddio yn wyneb canlyniadau niweidiol
- “Withdrawals” pan nad yw’r unigolyn yn defnyddio’r sylwedd. Gall y rhain fod yn gorfforol (chwysu, calon yn curo’n gyflym….) ac/neu seicolegol (gorbryder, newidiadau mewn hwyliau…)
Sut mae dibyniaeth yn effeithio ar unigolyn?
Gellir rhannu effeithiau dibyniaeth yn dri – corfforol, ymddygiadol ac emosiynol.
- Effaith corfforol – mae’r rhain yn amrywiol ac yn ddibynnol ar y sylwedd. Er enghraifft, alcohol yn achosi niwed i’r afu, y galon a’r ymennydd. (Mae hwn yn bwnc eang y gellir ei drafod mewn blog arall).
- Effaith ymddygiadol – problemau yn y gwaith, problemau ariannol, ynysu eu hunain, cuddio tystiolaeth, problemau cwsg, phroblemau cyfreithiol a straen ar berthnasau.
- Effaith emosiynol – troi yn fwy dadleuol ac amddiffynnol, a cholli diddordeb mewn gweithgareddau a phobl a arferai fod yn rhan o’u bywydau. Yn ychwanegol:
- Rhesymoli – cynnig alibi, esgusodion, cyfiawnhad neu esboniadau eraill am eu hymddygiad
- Lleihau’r broblem – cyfaddef yn arwynebol ond heb gyfaddef i ddifrifoldeb eu sefyllfa
- Gosod y bai am yr ymddygiad ar rywun arall neu ryw ddigwyddiad
- Gwyro – Newid y pwnc er mwyn osgoi trafod y broblem
Beth sydd wrth wraidd dibyniaeth?
Mae hyn yn gymhleth a gellir ei grynhoi gan y model Bio-psycho-social:
- “Bio” (Biolegol e.e. effaith genynnau/geneteg, newidiadau niwrocemegol yn yr ymennydd…)
Mae rhai astudiaethau yn awgrymu fod bron i 50% o ddibyniaeth o dan ddylanwad genynnau. Ond mae perygl rhoi gorbwyslais ar hyn, ac yn fy marn i does dim mantais mewn trafod yr ochr geneteg o’r salwch gyda’r unigolyn sy’n gaeth oherwydd nid yw hyn yn annog adferiad. Yn wir, mae yna berygl eu bod yn gweld y salwch fel eu tynged os yw’r salwch “yn y teulu”.
Mae agweddau meddygol o drin dibyniaeth, i raddau, yn canolbwyntio’n ormodol ar newidiadau niwrocemegol a biolegol yn yr ymennydd. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod triniaeth yn tueddu i fod yn seiliedig ar y “brain disease model” seiciatryddol. Mae’n bwysig deall y newidiadau hyn a derbyn meddyginiaethau a roddir ond mae’r un mor bwysig ymgymryd â chefnogaeth seicotherapi. Mae cael cydbwysedd rhwng y triniaethau hyn yn bwysig yn ogystal ag addasu’r driniaeth i anghenion yr unigolyn.
- “Psycho” (Seicolegol – e.e. dylanwad straen neu drawma mewn bywyd, personoliaeth, agwedd at fywyd, sgiliau ymdopi…)
Mae hyn yn cyfeirio at ymddygiad, meddyliau ac emosiynau unigolyn. Yn gysylltiedig â hyn yw’r “credoau craidd” mae unigolyn yn dysgu o’u plentyndod cynnar – sef credoau sylfaenol amdanon ni ein hunain, pobl eraill a’r byd rydyn ni’n byw ynddo. Mae’r credoau craidd yma yn cael eu dylanwadu gan drawma mewn plentyndod.
Mae astudiaethau wedi dangos yn glir y cysylltiad rhwng trawma yn ystod plentyndod (Adverse Childhood Experiences–ACE) â phroblemau dibyniaeth, salwch meddwl a hyd yn oed salwch corfforol yn hwyrach mewn bywyd. Rwyf wedi rhestru’r ACE hyn fel a ganlyn:
- Cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol
- Esgeulustod corfforol neu emosiynol
- Trais domestig
- Cam-drin sylweddau yn y cartref
- Salwch meddwl yn y cartref
- Rhieni’n gwahanu/ysgaru
- Aelod o’r cartref wedi’i garcharu
Roedd cael profiad o bedwar o’r ffactorau ACE uchod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â chynnydd o 700% mewn alcoholiaeth, yn dyblu’r risg o gael diagnosis o ganser, a chynnydd pedair gwaith mewn emffysema; roedd cael profiad o chwech o’r ACE uchod yn gysylltiedig â chynnydd o 3000% mewn ymgais i gyflawni hunanladdiad.
Mae rhaid pwysleisio fod pob un o’r ACE yma r’un mor ddinistriol a’i gilydd.
Yn ychwanegol gall digwyddiadau trawmatig yn ddiweddarach mewn bywyd hefyd gyfrannu at ddatblygiad dibyniaeth a salwch meddwl.
- “Social” – (e.e.. dylanwad cymdeithas, diwylliant, diffyg cefnogaeth gymdeithasol, problemau ariannol, diweithdra, problemau perthynas, diffyg addysg…)
Mae’r effeithiau hyn yn amlwg yn y nifer uwch o faterion dibyniaeth mewn ardaloedd o dlodi ac amddifadedd cymdeithasol.
Felly, i grynhoi, gall nifer o’r ffactorau uchod weithio gyda’i gilydd i gynhyrchu’r amodau ffafriol – y “storm berffaith” – i ddibyniaeth datblygu.
Oes ffordd allan o ddibyniaeth?
Wrth gwrs! – a rhaid credu hyn o ddechrau’r siwrne adferiad. Y gobaith yma yw’r goleuni ar ddiwedd y twnnel, a heb y gred hon mae’r twnnel yn troi’n ogof a’r peryg yw bod yr unigolyn yn colli ei ffordd ar hyd y daith.
Rhaid i’r unigolyn sy’n gaeth dderbyn fod ganddo ef neu hi’r salwch. Yn anffodus, ac yn eithaf aml, mae’r “ego” yn gwadu fod yna broblem ac mae’r unigolyn yn rhoi unrhyw esgus am eu hymddygiad – er bod tystiolaeth am eu salwch yn amlwg mewn sawl agwedd o’u bywydau.
Mae llawer o bobl gyda salwch dibyniaeth yn dioddef i wahanol raddau ac mae nifer o unigolion sydd wrthi’n adfer yn credu bod dioddefaint yn rym pwerus sy’n eu galluogi i ddarganfod y gostyngeiddrwydd sy’n angenrheidiol i ofyn am yr help i oresgyn eu salwch.
Neges i’r rhai sydd â chaethiwed – peidiwch ag ynysu eich hunan gan fod hynny’n bwydo’r salwch – cysylltiad yn fy marn i yw gwrthwyneb dibyniaeth. Y diwrnod nad ydych chi’n teimlo fel cysylltu a rhywun yw’r diwrnod mae angen i chi gysylltu fwyaf. Gweler erthygl meddwl.org ar “Sut i ofyn am gymorth” yma.
Beth am y teulu?
Mae dibyniaeth yn cael effaith niweidiol ar y teulu cyfan – salwch yr “holl deulu” yw dibyniaeth. Felly mae’n bwysig fod aelodau’r teulu yn cael cefnogaeth hefyd. Y duedd yw i deuluoedd guddio’r salwch tu ôl i ddrysau caeëdig ond gall hyn niweidio aelodau’r teulu yn emosiynol. Hefyd, mae’n bwysig nad yw aelodau’r teulu’n ceisio “trwsio” y person sy’n gaeth – nid yw hyn yn gweithio yn yr hir dymor – mae rhaid cael cefnogaeth gan rai sydd â phrofiad yn trin y salwch.
Fy nghyngor i aelodau’r teulu yw cofio rhoi’r “oxygen mask” iddyn nhw’u hunan yn gyntaf tra hefyd yn sefyll wrth ochr a chefnogi’r unigolyn gyda’r salwch o ddibyniaeth, fel gyda phob salwch arall – ond dwi’n gwerthfawrogi nid yw hyn yn hawdd weithiau. Mae cysylltu gyda theuluoedd eraill yn yr un sefyllfa yn gallu bod yn help mawr hefyd.
Oes rhagfarn gymdeithasol tuag at ddibyniaeth?
Yn anffodus – Oes.
Mae rhagfarn yn y gymdeithas, rwy’n credu, wedi ei wreiddio mewn camddealltwriaeth, ac o bosibl, ymddygiad dysgedig tuag at y salwch. Mae pobl yn tueddu i ofni’r hyn nad ydyn nhw’n ei ddeall. Felly mae addysgu cymdeithas am y salwch yn holl bwysig i oresgyn rhagfarn.
Effaith mwyaf dinistriol rhagfarn yw bod unigolion gyda dibyniaeth yn cuddio yn y cysgodion ac yn dioddef mewn distawrwydd. Canlyniad hyn yw fod llawer o bobl gyda’r cyflwr yn cyflwyno am help llawer rhy hwyr yn eu salwch – gyda phroblemau corfforol â/neu seicolegol difrifol. Yn anffodus mae sawl un yn colli’r frwydr yn erbyn y salwch ac yn ein gadael llawer rhy fuan. Mae’n amser i ni fel Cymry drafod dibyniaeth – salwch sydd mor dreiddiol yn ein cymdeithas.