Dau Begwn Lleuwen Steffan : BBC Cymru Fyw

Cafodd Lleuwen Steffan ddiagnosis anhwylder deubegwn yn 27 oed, a bu’n trafod ei chyflwr am y tro cyntaf ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru…

“Roeddwn i’n meddwl bod pawb yn rhy araf a doeddwn i methu deall pam bod neb yn deall beth o’n i’n deall – yn gweld côds ym mhob man oedd yn cysylltu popeth efo’i gilydd.

Mwya’ sydyn wedyn mae popeth yn troi ar ben i lawr. Y gwrthwyneb. Pob brwdfrydedd yn troi i ddim a phopeth yn troi mor araf. ‘Da chi’n methu dod allan o’r gwely a ddim isio gweld neb.

Mae brwsio gwallt ar ôl cyfnod fel yna yn beth mor hyfryd… fel cliro’ fy ngwely, mynd a’r ci am dro, gwneud paned. Pan da chi wedi bod yn sâl mae pleserau mawr yn y pethau syml a dwi’n ddiolchgar mod i wedi cael y profiadau yma yn y pendraw achos mod i’n gweld yr harddwch.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Gadael Ymateb