Iselder: Sut a phryd i ofyn am gymorth

Gall iselder fod yn salwch unig iawn. Gall ofyn am gymorth gan eraill ein helpu i gario ymlaen. Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwybod pryd i ofyn amdano, a sut i wneud hynny.

Pryd i ofyn am gymorth

Mae’r GIG yn dweud ei fod yn bwysig i ofyn am gymorth gan feddyg teulu cyn gynted ag ydym ni’n credu ein bod yn dioddef ag iselder. Mae amrywiaeth o symptomau yn gysylltiedig ag iselder. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyng iddynt:

  • Teimlo’n isel neu’n drist
  • Teimlo’n emosiynol yn aml
  • Hunan-barch isel
  • Teimlo’n euog
  • Diffyg cymhelliant i wneud unrhyw beth
  • Diffyg wrth wneud penderfyniadau
  • Meddyliau o hunanladdiad
  • Poenau nad ydych yn gallu esbonio
  • Diffyg cwsg neu gysgu’n ormodol

Os ydym wedi bod yn profi’r mathau hyn o symptomau am fwy na chwpwl o wythnosau, mae’n werth gweld eich meddyg teulu. Hyd yn oed os nad ydynt yn rhoi diagnosis o iselder i ni – mae’n syniad da i gael sgwrs beth bynnag. Gall fod yna gymorth arall ar gael.

Wrth ystyried siarad ag eraill, mae’n fater o beth sy’n addas i chi’n bersonol. Mae gan rhai ohonom deuluoedd a ffrindiau cefnogol a byddwch am ddweud wrthyn nhw yn syth. Efallai bydd angen mwy o amser ar rai ohonom i ystyried yr hyn sy’n digwydd cyn dweud wrth eraill.

Yn y gwaith, efallai y bydd yn werth dweud wrth ein rheolwr llinell cyn gynted ag y byddwn yn cael trafferth, neu pan fyddwn yn derbyn diagnosis. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi rannu eich salwch yn gyfreithiol os fyddai well gennych i’w gadw’n gyfrinachol.

Gyda phwy y gallwch chi siarad

Mae sawl person gwahanol y gallwn ni siarad â nhw os ydym yn teimlo’n isel. Pan rydym yn sâl, mae’n aml yn teimlo fel ein bod ar ben ein hunain, fel petai neb wedi teimlo fel hyn erioed. Ond nid yw hynny’n wir. Mae yna bobl sy’n ein caru. Mae yna bobl a fydd eisiau gwrando.

Gallwn ni geisio siarad â theulu neu ffrindiau agos. Os ydyn ni’n dilyn crefydd, efallai bydd arweinydd crefyddol y gallwn ni fynd atynt. Os ydym yn yr ysgol, gallwn ni drafod â thiwtor dosbarth, athro penodol neu nyrs yr ysgol. Gall y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr helpu’r rhai hynny sydd yn y brifysgol. Gallwn ni hefyd ystyried elusennau lleol, i weld os ydynt yn cynnig unrhyw grwpiau cymorth neu sesiynau hunangymorth. Os ydym yn gallu ei fforddio, gallwn ni hefyd edrych ar therapi preifat.

Os ydym am ddefnyddio gwasanaethau’r GIG, ein meddyg teulu yw’r lle gorau i ddechrau fel arfer. Bydd argaeledd gwasanaethau, a’r broses gyfeirio’n amrywio o ardal i ardal, sef y rheswm pam y gall y meddyg teulu fod yn le llai brawychus i ddechrau.

Ffyrdd o gyfathrebu

Mae gan bobl gwahanol ffyrdd gwahanol o ran cyfathrebu. Mae rhai ohonom yn hoff o siarad; rydym yn teimlo bod siarad yn helpu i ni brosesu pethau. Mae rhai’n teimlo bod siarad yn anodd; efallai byddwn yn cael hi’n anodd cofio pethau neu’n baglu dros ein geiriau. Yn yr achos hwn, gall fod yn haws i ysgrifennu ein meddyliau ar bapur – gall fod o gymorth wrth brosesu pethau neu i’w cofio.

Mae’r ffordd yr ydym yn trafod iselder gyda’n teulu a’n ffrindiau yn amrywio o berson i berson. Os rydym yn cyfarfod â nhw, gallwn ni gynllunio mynd am goffi neu am dro a dweud wrthyn nhw bryd hynny. Pan fyddwn ni’n siarad am ein hiselder ag eraill, does dim angen gwneud unrhyw beth arbennig neu wahanol. Gallwn ni siarad â’r rhai hynny o’n hamgylch yn yr un ffordd ag arfer.

Os nad ydym am ddweud wrth rywun wyneb yn wyneb yn y lle cyntaf, gallwn ni ddefnyddio ffyrdd arall o gyfathrebu. Gall hynny fod yn neges destun neu e-bost at deulu neu ffrindiau. Gallwn ni ysgrifennu nodyn at arweinydd crefyddol neu athrawon. Mae’n debyg y bydd gan elusennau lleol, meddygfeydd teulu a thimau iechyd meddwl ffurflenni y gallwn ni eu llenwi.

Mae sawl ffordd wahanol o gyfathrebu, ac mae’n iawn i wneud hynny yn y ffordd sy’n teimlo orau i ni.

Sut i ddweud wrthyn nhw

Gall fod yn anodd dod o hyd i’r geiriau i ddweud wrth rywun nad ydym yn teimlo mor dda ag y dylwn. Yn aml rydym yn teimlo nad oes gennym y geiriau sy’n disgrifio ein teimladau.

Wrth drafod â meddyg teulu, gall fod o gymorth i fynd â rhestr o bethau sydd wedi ein harwain i gredu fod gennym iselder. Mae apwyntiadau â’r meddyg teulu’n fyr, felly mae’n dda i grybwyll ein pryderon ynghylch ein hwyliau ar ddechrau’r apwyntiad.

Mae’n naturiol i deimlo’n nerfus am siarad â phobl am iselder. Gall achosi pryder oherwydd nid yw fel arfer yn rhan o sgyrsiau bob dydd. Does dim angen teimlo cywilydd am sut yr ydym yn teimlo. Rydym ni o hyd yr un person, boed bod gennym ni iselder neu beidio. Ond gydag iselder, mae gennym salwch sy’n effeithio sut yr ydym yn teimlo, a sut yr ydym yn profi’r byd.

Pan fyddwn ni’n dweud wrth ffrindiau, efallai bydd ganddynt lawer o gwestiynau. Gall fod o gymorth i roi dolenni iddynt i wefannau a fydd yn eu helpu i ddeall. Gall deimlo’n aruthrol o anodd, ond mae’n iawn i gymryd pwyll wrth ateb unrhyw gwestiynau. Mae hefyd yn iawn i ddweud nad oes gennym yr atebion ar hyn o bryd.

Pan nad ydym yn derbyn yr ymateb roedden ni’n gobeithio ei dderbyn

Ambell waith, pan fyddwn ni’n siarad â rhywun, nid ydym yn derbyn yr ymateb roedden ni’n gobeithio ei dderbyn.

Er enghraifft, gyda’r meddyg teulu, gall deimlo fel pe nad ydynt wedi deall, neu heb ei gymryd yn ddifrifol. Gallwn ni ddychwelyd atynt ar ôl ystyried sut i esbonio mewn ffordd arall. Gallwn ni hefyd ei ysgrifennu ar bapur, i weld os gallwn ni eu helpu i ddeall. Fel arall, gallwn ni fynd at feddyg arall.

Efallai bydd teulu a ffrindiau’n ymateb mewn ffordd nad ydym yn gallu ymdopi ag ef. Efallai byddant yn dweud pethau sy’n ein hanafu, neu nad ydynt yn cytuno â nhw. Ambell waith, mae hyn yn deillio o ofn – nid ydynt yn gwybod sut i’n helpu. Efallai bydd gan rai syniadau rhagdybiedig am iselder.

Gallwch chi eu cyfeirio at ddolenni gwefannau neu fideos sy’n esbonio ein symptomau i’w helpu i ddeall. Efallai bydd rhai am ddod o hyd i grwpiau cymorth i ofalwyr sy’n gallu eu haddysgu ynghylch yr hyn yr ydym yn profi. Gobeithio bydd y pethau hyn yn gallu helpu dileu ychydig o’r stigma a’r ofn y gall godi.

Nid yw gofyn am gymorth yn wendid

Nid yw gofyn am gymorth yn arwydd o wendid.

Ambell waith mae’n teimlo fel bod angen i ni ‘gario ymlaen’ neu ddelio â’r broblem ar ben ein hunain. Nid ydym am roi baich ar eraill, ac rydym yn gosod stigma ar ein hunain. Rydym yn dweud pethau wrth ein hunain na fyddwn ni erioed yn dweud wrth eraill. Os fyddai ffrind yn ddioddef, byddwn am eu helpu. Mae’r bobl sy’n agos i ni am ein helpu hefyd.

Ni ddylem deimlo unrhyw gywilydd am ofyn am gymorth ag iselder. I nifer ohonom, gall hyn fod y peth mwyaf cryf rydym erioed wedi gwneud.

[Ffynhonnell: blurtitout.org]