Cymorth i frodyr a chwiorydd

Os ydy dy frawd neu dy chwaer newydd gael diagnosis o salwch meddwl, neu os ydy dy deulu wedi bod yn byw gyda salwch meddwl ers peth amser bellach, mae hi’n debygol fod gen ti dipyn o gwestiynau a phryderon.

Efallai y byddi di’n profi amrywiaeth o emosiynau neu faterion ymarferol pan fo dy frawd neu dy chwaer yn dangos symptomau o salwch meddwl, neu pan fo ganddyn nhw salwch meddwl. Mae’r rhain yn debygol o newid wrth i ti fynd yn hŷn ac wrth i amgylchiadau newid. Mae hi’n bwysig cofio nad wyt ti ar dy ben dy hun.

Mae’n bosib dy fod ti wedi teimlo fel hyn:

  • Yn ofnus, yn llawn cwestiynau, yn poeni am sut bydd dy berthynas â’th frawd neu dy chwaer yn newid ac yn ansicr sut i helpu dy frawd neu dy chwaer pan mae’n wael.
  • Yn ansicr ble bydd cymorth neu wybodaeth ar gael
  • Yn poeni am dy rieni a sut maen nhw’n ymdopi, a theimlo bod rhai cwestiynau nad wyt ti’n gyfforddus yn eu gofyn iddyn nhw
  • Yn teimlo colled a gofid am y gorffennol ac yn ansicr am y dyfodol
  • Â chymysgedd o deimladau o ddicter neu euogrwydd pam fod hyn wedi digwydd i dy frawd neu dy chwaer
  • Yn poeni y gallai’r un peth ddigwydd i ti. Er enghraifft, poeni am eneteg a salwch meddwl, a phoeni y gallet ti neu dy blant ddatblygu salwch meddwl yn y dyfodol
  • Yn teimlo cywilydd am ymddygiad dy frawd neu dy chwaer o flaen dy ffrindiau,  neu yn ansicr am sut i siarad â’th ffrindiau a dy deulu am salwch meddwl dy frawd neu dy chwaer
  • Wrth i ti a dy rieni fynd yn hŷn, efallai dy fod ti’n poeni pwy fydd yn gofalu am dy frawd neu dy chwaer, neu y byddi di’n gyfrifol am y gofal
  • Yn poeni nad wyt ti’n gweld dy frawd neu dy chwaer yn ddigon aml, neu’n poeni nad oes gen ti ddigon o amser i ti dy hun a dy ffrindiau neu dy deulu dy hun
  • Yn cael anhawster cysylltu â doctoriaid neu weithwyr proffesiynol yn y maes iechyd meddwl pan mae angen gwneud hynny
  • Yn ymdopi â’th iechyd meddwl neu dy lesiant dy hun, a bod ag angen amser i ofalu am dy iechyd dy hun
  • Yn llawn gobaith at y dyfodol

Gofalu am dy iechyd meddwl dy hun

Mae nifer o bethau y gelli di eu gwneud i ofalu am dy iechyd meddwl a dy lesiant emosiynol dy hun, os oes gen ti broblem iechyd meddwl ai peidio. Mae’n hynod bwysig gofalu am dy hun os wyt ti’n teimlo o dan straen neu’n bryderus – gan amlaf, mae hi’n hawdd anghofio am y pethau sylfaenol fel bwyta’n iach neu gael noson dda o gwsg. Mae hi hefyd yn bwysig dy fod ti’n dod o hyd i ddulliau ymdopi sy’n gweithio i ti. Mae pawb yn wahanol, ac mae sefyllfaoedd yn gallu newid gydag amser. Felly, yn aml mae angen trio pethau gwahanol. 

Siarad â’th ffrindiau

Mae siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo – aelod o’r teulu, ffrind, neu efallai athro neu diwtor yn y coleg – yn gallu helpu rhannu’r baich. Mae dweud wrth bobl sut wyt ti’n teimlo, gan gynnwys beth wyt ti’n poeni amdano, yn aml yn helpu i leihau’r teimlad dy fod ar dy ben dy hun.

Neilltuo amser ar gyfer dy ddiddordebau

Mae nifer o bobl ifanc yn gweld bod gwneud y pethau maen nhw’n eu mwynhau fel gwylio’r teledu, mynd i’r sinema neu wrando ar gerddoriaeth, yn gallu eu helpu i ymlacio a meddwl am y pethau sy’n eu poeni nhw. Felly, os wyt ti’n mwynhau’r gweithgareddau hyn, mae hi’n bwysig dy fod ti’n neilltuo amser yn rheolaidd ar eu cyfer nhw. Mae pobl yn cydnabod bod cymryd seibiant yn rheolaidd i wneud y pethau hyn – yn enwedig os ydy popeth yn mynd yn drech na thi – yn ffordd o ddelio â straen.

Gwybod pryd i gael help ac o ble

Gall dawelu dy feddwl os wyt ti’n gwybod pa gymorth sydd ar gael yn dy ardal leol os wyt ti’n dechrau teimlo bod angen help neu gymorth ychwanegol arnat ti, dy frawd neu dy chwaer. Yn aml, mae’r we neu dy lyfrgell leol yn lleoedd da i gael gwybodaeth. Byddai hefyd yn ddefnyddiol i ti siarad â’th rieni, athro neu gynghorydd yn yr ysgol am dy bryderon.

Cymorth Emosiynol

Efallai dy fod di’n rhoi cymorth emosiynol i dy frawd neu dy chwaer, ac efallai bod angen i ti roi mwy o gymorth emosiynol na’r arfer pan maen nhw’n wael. Efallai dy fod ti hefyd yn rhoi cymorth i aelodau eraill o’r teulu pan fo gennyt ti dy anghenion emosiynol dy hun.

Gall hyn dy lethu di weithiau ac efallai bod angen help arnat ti dy hun, neu amser i ystyried faint o gymorth y galli di ei roi wrth i ti gynnal dy iechyd meddyliol a dy lesiant emosiynol dy hun. Gall hyn arwain at deimlo’n euog weithiau, er enghraifft teimlo y dylet ti fod yn gwneud mwy drwy’r amser, neu ddal dig wrth iddi fod yn anodd cael amser i ti dy hun ac i bobl eraill yn dy fywyd.

Os wyt ti’n teimlo dy fod ti eisiau rhoi rhagor o gymorth i dy frawd neu dy chwaer, ond dydyn nhw ddim yn gofyn am y cymorth rwyt ti’n barod i’w roi iddyn nhw, gallet ti adael iddyn nhw wybod dy fod ti’n fodlon gwrando pan maen nhw’n barod i siarad.

Dod o hyd i gydbwysedd

Weithiau, mae hi’n gallu bod yn anodd i bobl ddod o hyd i’r cydbwysedd rhwng y cymorth y maen nhw’n gallu ei roi i’r teulu neu’n fodlon ei roi iddyn nhw. Mae hyn yn gallu newid gydag amser ac yn dibynnu ar amgylchiadau.

Weithiau, mae brodyr a chwiorydd yn teimlo eu bod nhw’n methu rhoi’r cymorth mae disgwyl iddyn nhw ei roi neu sydd ei angen ganddyn nhw, yn eu barn nhw. Gall hyn fod  oherwydd bod ganddyn nhw eu cyfrifoldebau, eu teuluoedd a’u hemosiynau eu hunain i ymdopi â nhw, eu bod yn byw’n bell i ffwrdd, neu nad oes ganddyn nhw berthynas agos â’u brawd neu eu chwaer. Ar adegau eraill, gall brodyr neu chwiorydd drio gwneud gormod heb ystyried bod pen draw ar y cymorth y maen nhw’n gallu ei gynnig yn rhesymol.

Mae’n bwysig asesu ac ailasesu’r lefel o gymorth y gallet ti ei roi a’r help sydd ei angen arnat ti. Cofia y dylet ti ofalu amdanat ti dy hun hefyd. Os nad wyt ti’n gofalu amdanat ti dy hun, gallai fod yn anodd rhoi cymorth i dy deulu a dy frawd neu dy chwaer.

[Ffynhonnell: rethink.org]

Dolenni allanol