Pedwar Awgrym ar gyfer Gwneud y Mwyaf o Gwnsela Ar-lein a Dros y Ffôn
Efallai, o ganlyniad i’r coronafeirws, bod eich therapydd wedi gofyn i chi newid i gwnsela dros y ffôn neu ar-lein.
I lawer ohonom, mae hyn yn brofiad hollol newydd, ac er y gallai peidio â chyfarfod â’ch therapydd mewn person ymddangos yn siomedig, mae ymchwil wedi dangos y gall cwnsela o bell fod yr un mor effeithiol. Mae yn wahanol, ond mae technoleg heddiw yn golygu y gallwn ddal i gael mynediad i’r cymorth sydd ei angen arnom, o gysur ein cartrefi ein hunain.
Er ei fod o bosib yn ddull brawychus o gael cefnogaeth, mae hefyd yn agor y drysau i bobl nad ydynt efallai wedi ystyried therapi o’r blaen, oherwydd diffyg amser neu leoliad, materion hygyrchedd a.y.b. Mae llawer o gwnselwyr, os nad oeddent eisoes, wedi trosglwyddo i ddarparu cwnsela ar-lein a dros y ffôn, sy’n golygu y gallant barhau i gwnsela, ond hefyd darparu’r cyhoedd â chymorth ac arweiniad yn ystod yr amser ansicr hwn.
Felly, p’un a ydych yng nghanol therapi ac yn wynebu’r newid o wyneb yn wyneb i ar-lein, neu yn newydd i gwnsela, dyma bedwar awgrym i’ch helpu chi gael y mwyaf o’ch therapi.
Cael eich hun yn gyfforddus
Pan fyddwch yn ymweld â therapydd mewn person, byddan nhw wedi meddwl am sut i wneud y lle yn gyfforddus i chi. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys seddi meddal, cael hancesi papur a lluniaeth wrth law, a darparu lle preifat. Felly, dewch o hyd i gadair gyfforddus mewn ystafell breifat, a gwneud yn siwr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch cyn i chi ddechrau eich sesiwn. Un o fanteision cwnsela o bell yw y medrwch fwynhau diod o’ch dewis, fel siocled poeth cysurus. Gall dal ffôn am 50 munud neu fwy fod yn heriol, felly os oes gennych gyfarpar di-afael, gwnewch y mwyaf ohono. Os na, gorffwyswch eich braich ar ochr cadair neu glustog, a newid dwylo’n aml.
Hefyd, ystyriwch sut y gallwch sicrhau bod eich lle yn rhydd o ymyriadau. Tawelwch eich hysbysiadau ffôn, caewch eich e-byst a rhowch anifeiliaid anwes a phlant mewn ystafell wahanol – dyma’ch amser penodedig chi. Os ydych wedi arfer â theithio i sesiwn ac yn ôl, yna efallai bod yr amser hwn fel arfer yn eich helpu i ymbellhau o fywyd dydd i ddydd a chanolbwyntio ar eich meddyliau a’ch teimladau. Gall cymryd seibiant o bethau eich helpu i gynnal y gofod seicolegol hwn, a elwir yn ‘byffro’. Ar ôl eich sesiwn, gall cymryd cawod neu fynd am dro eich helpu i brosesu yr hyn yr ydych wedi’i deimlo a’i drafod gyda’ch therapydd, a’i adael y tu ôl i chi wrth i chi fynd yn ôl i’ch diwrnod.
Derbyn y lletchwithdod
Os ydych yn siarad ar y ffôn, efallai y bydd y ddau/ddwy ohonoch yn ei chael hi’n anodd gwybod pryd i siarad, ac efallai y byddwch yn torri ar draws eich gilydd. Peidiwch â phoeni – bydd eich therapydd yn dal i fod eisiau clywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud a’ch annog i gario mlaen. Os ydych yn canfod eich hun yn pendroni sut maen nhw’n ymateb i’r hyn yr ydych chi’n ei ddweud gan nad ydych yn medru eu gweld, gallai gofyn iddynt am hyn fod yn fwy defnyddiol na cheisio dyfalu.
Er eich bod yn medru gweld eich gilydd pan yn defnyddio gwe-gamera, gall y syniad o ymddangos ar sgrîn fod yr un mor annifyr. Efallai y gallwch ddod o hyd i ffordd o ddiffodd y llun ohonoch chi eich hun wrth i chi siarad, neu drefnu eich ffenest sgwrsio fel na fedrwch weld y rhan honno o’r sgrîn. Gall hyn eich helpu i ganolbwyntio ar y sesiwn. Os yw meddyliau beirniadol yn codi o weld eich hun ar we-gamera, ceisiwch sylwi ar rhain a’u rhannu gyda’ch therapydd; efallai y byddant yn darparu deunydd diddorol i’w drafod. Efallai y bydd yn teimlo’n anodd, ond gosodwch y gwe-gamera fel eich bod yn medru gweld hanner uchaf eich gilydd, bydd hyn yn helpu y ddau/ddwy ohonoch i ddarllen iaith corfforol y person arall.
Aros yn ddiogel
Os ydych yn byw gyda rhywun a allai fod yn risg i chi pe byddent yn darganfod eich bod yn derbyn sesiynau therapi, yna efallai y byddai’n well trefnu eich sesiynau ar gyfer amser pan fyddent i ffwrdd o’r tŷ. Efallai y bydd o gysur i chi gytuno ar derm y medrwch ei ddefnyddio gyda’ch therapydd petai rhywun yn tarfu arnoch a’ch bod angen gorffen neu seibio eich sgwrs. Os yw hyn yn rhy frawychus, ystyriwch gyfuno eich therapi gyda thaith gerdded i leoliad diogel y tu allan i’r tŷ ble na ellir eich clywed. Os nad yw hyn yn bosib, mae yna hefyd sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau sgwrsio ac e-bost ar-lein, gweler ein tudalen gymorth i gael rhagor o wybodaeth.
Rhowch amser iddo
Yn olaf, cofiwch roi amser i’ch sesiynau ffôn ac ar-lein. Fel cwnsela wyneb yn wyneb, gall gymryd amser i addasu i’r broses ac i chi a’ch therapydd ddatblygu perthynas gyda’ch gilydd. Mae’r pandemig yn gyfnod hynod anodd i lawer o bobl, a gall hefyd olygu bod gennym amser ychwanegol ar ein dwylo i brosesu ein meddyliau. Y peth pwysicaf yw eich bod wedi gofyn am gymorth, ac yn rhoi mynediad i chi’ch hun at adnoddau a all eich helpu i gyflawni’r newidiadau yr ydych yn edrych amdanynt.
[Ffynhonnell: The Counselling Directory]