Gwneud yr anweledig yn weladwy : Codeword Pineapple
Diffinnir person ag anabledd fel rhywun sydd â nam corfforol neu feddyliol sydd ag effaith sylweddol ar fywyd, yn enwedig yn y gweithle.
Mae 96% o bobl sy’n byw ag anabledd yn byw ag anabledd anweledig, a nifer sylweddol o’r achosion hynny ynghlwm â phroblemau iechyd meddwl.
Ar ôl symud i Lundain profodd Jess, sylfaenydd Codeword Pineapple, werth amhrisiadwy’r bathodyn TFL Please Offer me a Seat wrth gymudo. O ganlyniad, dechreuodd ystyried mor ddefnyddiol fyddai rhywbeth tebyg ar gyfer gweddill y diwrnod.
Mae gan bobl sydd ag anableddau anweledig yr un hawl i dderbyn addasiadau yn y gweithle â phobl ag anableddau gweladwy.
Yn anffodus, anaml gwneir addasiadau tebyg am ddau reswm. Yn gyntaf, gall dechrau sgwrs o’r fath â chyflogwr fod yn anodd, ac yn ail, yn aml nid yw problemau cronig yn unionlin. O ganlyniad, gall bobl weithiau fod yn amharod i wneud addasiadau yn ôl anghenion y gweithiwr pan nad yw’r addasiadau yn angenrheidiol drwy’r amser. Gall cyfathrebu’r gwahaniaeth rhwng diwrnod da a diwrnod gwael i eraill pan fo angen cymorth ychwanegol fod yn anodd.
Mae Codeword Pineapple yn fenter sydd am helpu datrys y problemau hyn.
Rydym yn darparu bathodynnau pin am ddim a cherdyn wybodaeth (yn Gymraeg neu’n Saesneg) i unrhyw un sydd eu hangen: gellir dangos y cerdyn wybodaeth i gydweithwyr, cyflogwyr neu athrawon.
Mae’r pin pinafal yn gweithredu fel symbol – neu codeword! – i ddangos pan fo angen cymorth ychwanegol neu addasiad mewn ffordd syml. Rydym yn gobeithio, dros amser, y bydd y pinafal y tyfu i fod yn symbol hawdd i’w adnabod ar gyfer anabledd anweledig.
Pam pinafal? Am eu bod nhw’n ymladd yn ôl!
Pinafal yw’r unig ffrwyth sydd ag ensym sy’n ceisio torri i lawr tu fewn i’n ceg wrth i ni eu bwyta. Roeddem ni am angori ein prosiect â’r un ymdeimlad o wydnwch!
Os ydych am archebu pin, ewch i’n gwefan i lenwi ffurflen archebu, ac fe wnewn ni bostio pin am ddim i’r cyfeiriad a nodwyd ar y ffurflen archebu o fewn wythnos. I glywed mwy am y fenter, dilynwch ni ar Facebook, Instagram neu Twitter.
Tîm Codeword Pineapple