Cefnogi lles staff mewn ysgolion
Mae dysgu yn swydd anodd. Gall fod yn werth chweil ond gall flino rhywun yn gorfforol ac emosiynol hefyd. Os ydyn ni eisiau i’n staff wneud yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt, rhaid i ni sicrhau bod digon o adnoddau er mwyn cynnal eu hiechyd meddwl a’u llesiant.
Mae’r llyfryn hwn yn cynnig arweiniad ymarferol am yr hyn all staff a’r uwch-dîm rheoli mewn ysgolion wneud er mwyn cefnogi llesiant eu cydweithwyr.
Datblygwyd y llyfryn hwn gydag arbenigwyr iechyd meddwl Canolfan Anna Freud, ac mae’n anelu i roi arweiniad syml ac enghreifftiau ymarferol i staff o arferion da mewn ysgolion eraill wrth roi strategaeth llesiant ar waith. Mae’n rhoi sylw i faterion fel: “Beth mae lles staff yn ei olygu?”, “Sut beth yw goruchwyliaeth mewn ysgolion?” a “Gofalu am eich lles eich hun”.
Gallwch lawrlwytho’r pecyn Cymraeg yn ei gyfanrwydd am ddim yma.