Mae Prosiect Pryder wedi bod yn brosiect ymchwil sydd wedi ei ariannu gan grant Ymchwil a Datblygu i Unigolion Creadigol Proffesiynol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r grant yn rhoi’r cyfle i artistiaid datblygu syniadau newydd ac i gyd-weithio hefo person neu sefydliad creadigol. Bues i (Teleri Lea) yn cydweithio hefo’r pensaer ac yr artist Huw Meredydd Owen.
Tŷ Tarasovo – penseiri ZROBYM
Tri phrif nod y prosiect oedd dylunio gofodau sydd yn lleddfu pryder, datblygu gosodiadau sydd yn manteisio ar rinweddau therapiwtig natur a datrys heriau adeiladwaith creu gwaith ar raddfa fawr.
Er mwyn dylunio gofodau sydd yn lleddfu pryder, roedd hi’n bwysig i mi hel ymatebion at wahanol fathau o ofodau gan bobl sydd yn dioddef o bryder. Roedd gennai fy syniadau fy hun am y math o lefydd sydd yn lleddfu fy mhryder i ond roeddwn i’n awyddus i ddarganfod be fysa ymatebion pobl arall at y llefydd hyn. Gofynnais i’r cyfranogwyr sgorio nifer o ddelweddau allan o 5, hefo 1 yn llesol a 5 yn achosi straen.
Clapton Tram – Llundain
Dwi wedi hel ymatebion 35 o gyfranogwyr i holiadur delweddau ac ymatebion 47 o gyfranogwyr i holiadur ysgrifenedig. Roedd rhan fwyaf o’r bobl yma wedi ymateb ar-lein i ddelweddau o fy ngwaith fy hun a dwi wedi sgwrsio wyneb yn wyneb hefo tri o bobl am natur eu pryder a’u hymateb i ddelweddau o waith bobl arall.
Rhain oedd y delweddau oedd yn sgorio yn fwyaf llesol. Mae’r canlyniad yma wedi achosi i mi ystyried beth yw rôl yr oriel gelf, mewn cymhariaeth a gofod mwy cartrefol.
Wrth ystyried pa fath o waith celf i’w greu mae nifer o ffactorau gwahanol i’w hystyried. I ddechrau mae yna’r teimlad gwreiddiol, yr ysbrydoliaeth gychwynnol. I mi mae’r ysbrydoliaeth wedi bod yn rhywbeth sydd wedi cynyddu dros amser; trwy brofiadau arddunol natur. Mae rhai o’r profiadau yma o fy mhlentyndod ac wedi eu tanlinellu gan syfrdandod o deimlo’n rhan o’r bydysawd ehangach am y tro cyntaf. Dwi rŵan yn deall fod y profiadau yma wedi cael hyd yn oed mwy o effaith oherwydd fy mherthynas hefo pryder a fy ansicrwydd cymdeithasol. Mae natur yn le fedrai cael persbectif gwahanol ar fy mywyd.
Os mae natur arddunol yw fy mhrif ysbrydoliaeth sut fedraf eu defnyddio i greu gwaith sydd yn gweddu at gyd-destun unigryw’r oriel gelf?