20 cofnod mwyaf poblogaidd 2017

Dyma restr o’r 20 cofnod mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd ar meddwl.org yn ystod 2017.

 

1. ‘Dwi’n ddig Mary Ellen, dwi’n ddig’ – David Williams (10 Mai)

“Mae dicter ac anfodlonrwydd yn cwrso trwy fy ngwythiennau ac dwi am gymryd perchnogaeth o’r teimlad hollol naturiol yma. Rydym wedi cael ein hannog i guddio ein dicter. Dydy o ddim yn rhywbeth i ddangos yn gyhoeddus ond faint o bobol sydd yn ddyddiol ar fin berwi drosodd fel sosban fach yn berwi ar y tân neu sosban fawr yn berwi ar y llawr?”

 

2. ‘Ymdopi dros gyfnod y Nadolig’ (7 Rhagfyr)

“Gall y Nadolig fod yn gyfnod hapus a llawn llawenydd; cyfle i weld teulu a ffrindiau, rhannu anrhegion a chael hwyl. Ond, gall hefyd fod yn gyfnod heriol o’r flwyddyn, yn enwedig i rai sydd â phroblemau iechyd meddwl. Llynedd, cyhoeddodd Mind Cymru waith ymchwil a ddangosodd fod pwysau ariannol, ymrwymiadau teuluol, unigrwydd, prysurdeb a’r pwysau i fod yn hapus yn gwneud i filoedd o bobl yng Nghymru deimlo eu bod yn methu ymdopi dros gyfnod y Nadolig.”

3. ‘Yoga a fi’ – Laura Karadog (13 Tachwedd)

“Mae yoga yn gallu golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. I rai, mae’n system ffitrwydd sy’n cyfuno cryfder a hyblygrwydd. I eraill mae’n ffordd o arafu ac ymlacio. Ond yn ei hanfod, yoga yw’r broses o gwestiynu a dod i ddeall pwy yn union ydym ni. Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n pwysleisio pethau dros bobl, prysurdeb dros lonyddwch, sŵn dros dawelwch. Ac wrth i ni gael ein tynnu gan y llif yn ddyfnach ac yn ddyfnach i mewn i’r anhrefn, rydym yn teimlo’n hunain yn colli rheolaeth, yn mynd ar goll, ac felly’n dechrau chwilio’n daer am bethau i’n gwneud ni’n hapus ac yn gyflawn.”

4. ‘Gor-bryder’ – Arddun Rhiannon (28 Ebrill)

“Ma’ pawb efo anxiety. Pob un ohonom ni. Mae o’n hollol normal i boeni am betha’ fel iechyd chi’ch hun a’ch teulu, arholiada’, symud tŷ, ca’l swydd, materion ariannol ac ati. Ond, be sydd ddim gan bawb ydi anxiety disorder. Y gwahaniaeth ydi bod anxiety disorder yn amharu ar fywyd pob dydd ac yn rhywbeth fwy hir-dymor. Mae’n cael effaith ddwys arnoch chi, ac yn atal chi rhag byw bywyd cyffredin. Mae o’n lais bach sydd wastad yn cefn eich meddwl sy’n ama’ popeth, ac sy’n eich rhwystro chi rhag ymlacio.”

5. ‘Pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg’ – Manon Elin (2 Mai)

“Wrth drafod iechyd meddwl, un o’r pethau pwysicaf yw’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol er mwyn mynegi teimladau, meddyliau ac emosiynau. Mae hyn yn cynnwys yr iaith a ddefnyddir…Dw’i wir yn meddwl y byswn i mewn sefyllfa well petawn i wedi medru siarad gyda gweithiwr iechyd meddwl yn Gymraeg flynyddoedd yn ôl. Mae’n fwy na mater o hawl; mae cael triniaeth yn Gymraeg wir yn cael effaith ar adferiad rhywun.”

 

6. ‘Dim cywilydd’ – Hedydd Elias (26 Mehefin)

“Rhywbeth rwyf wedi ei feistroli, a rwy’n siwr fod nifer eraill wedi gwneud hefyd, yw’r gallu i guddio faint rwy’n dioddef a chyn-lleied rwy’n ymdopi pan mae fy iechyd meddwl yn gwaethygu. Efallai byddai’r bobl sy’n fy ngweld bob dydd yn sylwi ar ambell newid ond dim byd gofidus…Mae’n rhaid i fi atgoffa fy hunan, hyd heddiw, does dim cywilydd i ddioddef o salwch meddwl. Does dim cywilydd mewn gofyn am gymorth. Mae’n holl bwysig, nid yn unig i wybod hynny, ond i’w gofio hefyd.”

7. ‘OMG – dw’i mor OCD’ – Iestyn Wyn (25 Hydref)

“Mae OCD yn gyflwr hynod gymhleth sy’n cael effaith wahanol o berson i berson, ond serch hynny mae yna un nodwedd sydd yr un peth ymhob un sy’n dioddef ag OCD. Y fformiwla; mae fformiwla OCD yn golygu eich bod yn gorbryderu am feddyliau, sy’n eich gyrru chi i weithredu ac ymddwyn mewn ffordd sy’n lleihau’r gorbryder ond mwya’ rydych yn gwneud hynny, mwya’r ydych yn credu’ch ofnau, sydd o ganlyniad wedyn yn gwneud i chi weithredu mewn ffordd sy’n lleihau’r gorbryder yn amlach…”

8. ‘Newid byd: profiad o iselder ôl-enedigol’ – Hawys Haf  (6 Gorffennaf)

“Wedi geni fy ail ferch yn Nhachwedd 2014, fe wnaeth popeth newid. Roedd ‘na anhrefn, ro’n i’n casáu bod yng nghanol pobol, a do’n i’n sicr ddim yn teimlo fel mod i’n llwyddo mewn unrhyw ffordd. Ddim yn llwyddo i fod yn fam, ddim yn llwyddo i fod yn wraig, ddim yn llwyddo yn fy nyletswyddau i ofalu ar ôl y merched, ddim yn cyrraedd unman ar amser, methu bwydo’r babi, methu cadw’r tŷ yn lân, methu cael swper ar y bwrdd… ac roedd y rhestr yn ddiddiwedd. Ro’n i’n teimlo’n fethiant llwyr.”

9. ‘Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?’ – Sophie Ann (6 Awst)

‘Bwriad y gwaith oedd ymchwilio beth yw arwyddocâd gallu derbyn gwasanaethau iechyd meddwl drwy’r Gymraeg a pha wahaniaeth all cyfrwng iaith ei wneud i ansawdd gwasanaethau i oedolion. Cynhaliais gyfweliadau lled-strwythuredig ag 8 gwirfoddolwr oedd wedi derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwynedd ers 2010 cyn mynd ati i hidlo, mapio a dehongli’r data yn ôl fframwaith thematig.’

 

10. Dysgu byw gydag iselder – stori Matt Johnson’ (28 Ebrill)

‘I bawb o’i gwmpas, roedd ei fywyd yn berffaith, ond i Matt Johnson, roedd cymylau duon yn ei boeni’n ddyddiol; roedd yn dioddef o iselder ac yn 2009 daeth yn agos at gyflawni hunanladdiad. “Ar y tu fewn ro’n i’n numb,” meddai Matt Johnson, y cyflwynydd 34 oed o Gaerffili, sydd wedi dod yn wyneb cyfarwydd ar deledu Prydeinig ar raglenni fel This Morning. “O’n i mewn lle tywyll iawn. Ro’n i’n teimlo bod popeth yn fy erbyn i, ac y byddai’r byd yn well hebddo i.”

11. ‘Dechrau yn y Brifysgol’ (24 Medi)

‘Gall dechrau yn y brifysgol fod yn brofiad arbennig a chyffrous, ond gall hefyd ddod â’i heriau unigryw.Mae’n naturiol i deimlo’n nerfus neu wedi eich llethu yn ystod yr wythnosau cyntaf yn y brifysgol, a gall gymryd dipyn o amser i ddod i arfer. Ein prif gyngor ydy: edrychwch ar ôl eich hun. Yn ystod prysurdeb a newydd-deb bywyd prifysgol mae’n hawdd anghofio edrych ar ôl eich hun, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae’r erthygl hon yn cynnwys cyngor ac adnoddau i’ch helpu wrth i chi ddechrau yn y brifysgol.’

12. ‘Ymdopi gydag Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD)’ (21 Hydref)

Mae prif symptomau SAD yn debyg iawn i iselder, ond maent yn digwydd yn y gaeaf. Os oes gennych SAD, efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd deffro ar fore yn y gaeaf, ac yn teimlo’n gysglyd yn ystod y dydd. Efallai y byddwch yn crefu am siocled a bwyd sy’n uchel mewn carbohydradau, fel bara gwyn neu fwydydd llawn siwgr. Mae SAD yn gwella yn y gwanwyn. Yn wir, mae tua thraean o bobl sydd â SAD yn cael cyfnod o deimlo fod ganddynt fwy o egni na’r arfer yn ystod y gwanwyn a’r haf.’

 

13. ‘Fy ngelyn pennaf’ – Arddun Rhianon (31 Ionawr)

‘Dwi’n mynd i flogio am rywbeth dwi erioed ‘di siarad amdano’n gyhoeddus o’r blaen. ‘Dio’m am fod yn hawdd, ond fedrai ddim ei osgoi o, gan ei fod o’n chwarae rhan mor fawr yn fy mywyd i – a holl bwynt creu’r blog o’dd i sgwennu’n onast. Ers oni’n 14 oed, dwi wedi diodda’ o iselder. Ma’ byw efo iselder fel cael cwmwl du uwch eich pen drwy’r amser, lle mae ‘na wastad risg o law trwm – bob diwrnod.’

 

14. ‘Un mewn pedwar’ – Arddun Rhiannon (27 Medi)

‘Dwi’n dallt. Dwi’n gwbod sut beth ydi deffro heb egni. Dwi’n gwbod sut beth ydi dyheu ca’l mynd yn ôl i baradwys trwmgwsg, lle does ‘na’m cyfrifoldeba’, problema’ na disgwyliada’. Dwi’n gwbod pa mor anodd ydi o i ti beintio’r wên ‘na ar dy wyneb 7 diwrnod yr wythnos. Dwi’n ‘nabod y blinder. Dwi’n ‘nabod y pwysa’. Ma’r tasgau bach yn ymddangos fel mynydd i ddringo ar rai diwrnoda’. Ma’ bob dim oeddat ti’n arfar ei fwynhau wedi troi’n llwyd. Does ‘na’m lliw. Ti’n teimlo fel bo’ chdi’m angen neb, ond ar yr un pryd, ti angen pawb. Ma’n anodd siarad am y peth.’

15. ‘Annerbyniol, eilradd, peryglus: gwasanaeth iechyd meddwl mewn ail iaith’ – Comisiynydd y Gymraeg (7 Awst)

‘Dyw salwch meddwl ddim yn rhywbeth y gallwch ei weld; mae’n rhaid siarad, ac esbonio a disgrifio’r teimladau a’r meddyliau tywyllaf a’r mwyaf personol. Mae pobl yn gweld siarad am broblemau iechyd meddwl yn anodd beth bynnag y sefyllfa. Ychwanegwch at hyn y boen a’r straen ychwanegol o orfod gwneud hynny yn eich ail iaith; iaith efallai nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn ei siarad, neu iaith nad ydych chi’n teimlo sy’n disgrifio eich teimladau’n iawn.’

16. ‘Sut beth yw dioddef o chwalfa feddyliol’ – Andrew Tamplin (13 Gorffennaf)

‘Pan wnes i ddechrau dioddef o broblemau iechyd meddwl dwy flynedd yn ôl, roedd yn annisgwyl iawn. Ar y pryd roeddwn yn uwch reolwr gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector preifat a chyhoeddus, roeddwn yn rhagori yn fy ngyrfa ac wastad yn mynd tu hwnt i alwad y ddyletswydd. Fi oedd y person a ddisgwylir lleiaf i ddioddef o broblemau iechyd meddwl, ond nid yw’n gwahaniaethu, a gwnaeth fy nghorff a fy meddwl gau lawr arnaf.’

17. Wythnos ymwybyddiaeth colli baban’ – Heledd Tomos (17 Hydref)

‘Fe gollon ni ein mab annwyl Cai Ioan ar yr 31ain o Ionawr 2015 pan oeddwn yn 22 wythnos yn feichiog. Ein beichiogrwydd cyntaf, ein plentyn cyntaf. Gwnaeth fy nghalon dorri yn ddeilchion, doeddwn i ddim yn gwybod fod y fath boen yn bodoli. I feddwl fod gymaint o famau a thadau eraill wedi neu yn mynd trwy yr un boen a ninnau. Efallai gwnaf ysgrifennu eto am ein stori ni ond y tro hyn rwyf am ysgrifennu am yr Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban.’

18.Alun Elidyr ac iselder’ (8 Mai)

Alun Elidyr yn rhannu ei brofiad o iselder ar Ffermio.

 

19. ‘Diwrnod iechyd meddwl: galw am fwy o gymorth yn Gymraeg’ (10 Hydref)

‘Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y byd, mae sefydlwyr a chefnogwyr gwefan iechyd meddwl yn galw am ragor o wasanaethau Cymraeg. Dywedodd Hedd Gwynfor, un o sylfaenwyr gwefan meddwl.org: “Mae’r sefyllfa yn gwbl annigonol. Mae darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg yn fater o angen, nid dewis. Rydyn ni’n gobeithio bod y profiadau sy’n cael eu rhannu ar meddwl.org yn dystiolaeth i’r Byrddau Iechyd a llunwyr polisïau pa mor bwysig, ac angenrheidiol, yw derbyn gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.”’

20. ‘Sut i oresgyn perffeithiaeth?’ (17 Hydref)

‘Mae perffeithiaeth yn golygu’r duedd i osod safonau sydd mor uchel nad oes modd eu cyrraedd, neu eu bod yn cael eu cyrraedd drwy gryn drafferth.Mae perffeithwyr yn credu fod unrhyw beth nad yw’n berffaith yn ofnadwy a bod hyd yn oed mân ddiffygion yn drychinebus…Mae pobl sydd â pherffeithiaeth yn meddwl na ddylent fyth wneud camgymeriadau a bod camgymeriad yn golygu eu bod yn fethiant llwyr neu eu bod yn berson gwael am iddynt siomi eraill.