Ela: Casgliad o gerddi

1

Mae ‘na fil a mwy o bethau’n hedfan yn fy mhen,

A’r unig ffordd o’u stopio ydi cau y ddwy len.

Crio, beichio, udo,

A ddim isho stopio,

Gan fod stopio’n golygu un peth;

Realiti – gorfod meddwl.

 

Weithia dwi’n iawn, mae’r byd ‘ma’n edrych yn syml,

Mi allai fod yn rhesymol,

Ma’r gallu gen i i edrych ar bopeth un ar ôl y llall.

Ond droeon eraill mae hyn yn amhosib,

Popeth yn chwyrlio fyny fanno a’r unig ateb ydi eu cau nhw eto,

A chario mlaen efo’r crio.

 

Yn aml daw ‘na wên tra lifa’r dagrau,

Gwên gan mod i’n teimlo’n rhydd am funud,

Prysur yn crio ac mae popeth arall yn diflannu.

 

Fel arfer dwi’n cyrraedd y llawr,

Yn eistedd yno’n gobeithio y gwneith o lyncu fi.

Fi a’r dagrau’n diflannu a byth yn gorfod dychwelyd –

Byth yn gorfod meddwl eto.

 

Ond mi ddaw ‘na bwynt fel arfer,

Weithiau ar ôl munud neu ddau,

Dro arall orie’n ddiweddarach,

A weithiau ddim am rhyw wythnos, neu gwpl,

neu fis, neu ddau neu dri.

Ond mi oleua’r golau ar ddiwedd y twnnel,

A mi welai’r byd mewn lliw eto.

Ond dwi wastad yn syrthio nôl i’r tywyllwch.

 

2

Gad i’th galon dorri,

Gad i’r dagrau lifo heibio,

Lawr dy ruddiau, ar hyd y creithia.

Gad i’th wên bylu ar adegau,

A’th galon syrthio’n is, ac yn is…

Mor isel nes cyrraedd dyfnderoedd

Isaf dy fôr o deimlad,

A theimla’r boen.

Gweidda, sgrechia, uda.

Gad i’r gwenwyn hwnnw wasgaru lawr dy esgyrn

Cyn eu cydio a’u gwasgu’n dynn, dynn.

Nes nad yw’n bosib i ti nofio rhagor.

Tafla dy enaid i’r byd di-bwrpas, di-liw sy’n dy groesawu.

Ond gwrthoda’r croeso.

Edrycha am yr arwydd, a gad iddo’th arwain.

Gwranda ar bob cyfarwyddyd sy’n dy dynnu nôl heibio’r tonnau.

Gad i rywun neu rywbeth afael yn dy law a chodi dy galon nôl i’r lan.

 

3

Dwi jyst isho dianc, gadael, sgrechian.

Methu deall fi fy hun.

Dianc, dianc, dianc.

Ond dwi’m yn gwybod sut nac i ble.

 

4

Gwên ffug feunyddiol,

I osgoi cwestiynau.

Yr ateb hawdd i ‘Ti’n iawn?’

Bob tro’n syniad gwell,

Bod yn onest yn boenus.

Sut ti’n egluro?

Egluro nad wyt ti’n iawn,

Ddim o gwbl.

 

Postio llun;

Hud a lledrith y gymdeithas newydd fodern,

Byw ar y we – mae o’n hawdd ar hwnnw,

Hawdd ei guddio.

Diweddaru pawb a phob dim,

Bob un tro dwi allan o’r tŷ,

Bob un tro dwi’n medru gweld drwy’r tywyllwch.

Ffordd o dwyllo pawb a phob dim:

Dwi’n hollol iawn.

 

Ond ei wneud o’n anoddach yn y diwedd,

Ofn wedyn bod neb am gredu.

Ond dyna’r triciau clyfar mae o’n chwarae,

Chwarae cuddio.

Dim ond fi sy’n medru ei ffeindio fo.

 

5

Mae’r dydd yn hir ac yn unig,

A’r tywyllwch yn fwy brawychus

Wrth i bob awr dicio heibio’n dawel,

A thra bo’r cymylau’n mynd i’w gwelyau.

Ma’ mhen i’n dal i droi a throi,

Bob dydd heb fawr o newid.

Yr un breuddwydion, hunllefau,

Yr un atgofion – hiraeth yno o hyd.

Does ‘na dal ddim Duw yno,

Dim sôn ohono.

Dydw i ddim yn chwilio amdano ond mi ydw i’n disgwyl,

Gweld golau neu glywed llais,

Teimlo llaw yn estyn neu obaith yn ymddangos o fyny fry.

Disgwyl rhywbeth yng ngolau coch y nos wrth i’r cymylau ffarwelio,

Ond yr unig beth a deimlaf yw’r diafol –

Rywun neu rywbeth fel petai’n chwerthin arna i, fy mhitïo,

Ond heb unrhyw fwriad i’m helpu.

Mae cysgod golau’r ystafell yn llonydd eistedd yn nüwch y ffenestr.

Fel fy realiti fy hun yn syllu nôl arna i,

Ond llun aneglur, arwynebol o fy myd i.

Dwi’n gweld adlewyrchiad fy wyneb yno’n craffu’n ofalus arnaf fi fy hun,

Finnau’n ceisio dyfalu os mai dyma y gwêl eraill –

Yr ansicrwydd, y pryder, yr ofn?

Methu penderfynu be hoffwn i i bawb weld.

Wastad yn benbleth,

Angen cymorth, ond ddim am gyfaddef y wendid,

Y fath dristwch heb eglurhad.

 

6

Fel tasa ‘na niwl o fy amgylch yn fy nallu rhag gweld yn glir.

Clymau’n gwrthod datod, a chur beunyddiol yn fy mol,

A hwnnw’n bygwth ffrwydro.

Meddyliau’n chwyrlïo ac yn gwrthod peidio.

Popeth bach yn fawr, a phopeth mawr yn fwy fyth.

Cau fy llygaid, dyna sydd orau,

Ond cymryd oes i’w cau yn llwyr.

Blino’n barhaus.

Rhannu