‘Rhesymau Dros Aros yn Fyw’ – Matt Haig (detholiad)
Daw’r darn isod o Rhesymau Dros Aros yn Fyw – cyfieithiad o Reasons to Stay Alive gan Matt Haig, a gyhoeddir gan y Lolfa ac sy’n rhan o’r cynllun Darllen yn Well.
Pam mae iselder mor anodd ei ddeall
Mae’n anweledig.
Nid mater o deimlo ‘braidd yn drist’ ydy o.
Dydy’r gair ddim yn taro deuddeg. Mae’r gair Saesneg ‘depression’ yn gwneud i mi feddwl am deiar fflat, pynctiar, rhywbeth llonydd. Efallai fod iselder heb orbryder yn teimlo felly, ond dydy iselder ag ymdeimlad o arswyd ddim yn fflat nac yn llonydd. (Fe wnaeth y bardd Melissa Broder drydar un tro: ‘pa dwpsyn alwodd o’n “iselder” ac nid “mae yna ystlumod yn byw yn fy mrest i ac maen nhw’n cymryd llawer iawn o le, o.n. Dwi’n gweld cysgod”?’) Ar ei waethaf, rydych chi’n cael eich hun yn dymuno’n daer am unrhyw aflwydd arall, unrhyw boen gorfforol, oherwydd mae’r meddwl yn ddiddiwedd, a gall ei arteithiau – pan maen nhw’n codi – fod yn llawn mor ddiddiwedd.
Gallwch chi fod yn dioddef iselder a theimlo’n hapus, yn union fel y gallwch chi fod yn alcoholig sobor.
Dydy’r hyn sy’n ei achosi ddim yn amlwg bob tro.
Mae’n gallu effeithio ar bobl – miliwnyddion, rhai a llond pen o wallt, pobl briod hapus, pobl sydd newydd lwyddo i gael dyrchafiad, pobl sy’n gallu gwneud dawns y glocsen a gwneud triciau cardiau a chanu’r gitar, pobl heb frychau amlwg, pobl sy’n sgleinio o hapusrwydd ar-lein – sydd, o’r tu allan, yn ymddangos fel pe na bai ganddyn nhw reswm yn y byd dros deimlo’n ddigalon.
Mae’n ddirgelwch hyd yn oed i’r rheini sy’n dioddef ohono.
Banc y Dyddiau Du
Pan fyddwch chi’n teimlo’n orbryderus neu’n isel iawn – yn methu’n lan a gadael y tŷ, neu’r soffa, neu feddwl am ddim heblaw’r iselder – gall fod yn annioddefol o anodd. Mae’r dyddiau du yn amrywio. Dydyn nhw ddim i gyd cynddrwg a’i gilydd. Ac mae’r rhai duaf oll, er mor erchyll yw byw drwyddyn nhw, yn ddefnyddiol at y dyfodol. Rydych chi’n eu storio. Banc y dyddiau du. Y diwrnod pan fu raid i chi redeg allan o’r archfarchnad. Y diwrnod roeddech chi mor isel nes eich bod wedi colli’ch tafod. Y diwrnod y gwnaethoch chi i’ch rhieni grio. Y diwrnod pan oeddech chi o fewn dim i hyrddio’ch hun dros y dibyn. Felly, os ydych chi’n cael diwrnod du arall, fe allwch chi ddweud, Wel, mae hyn yn teimlo’n wael, ond dwi wedi cael rhai gwaeth. A hyd yn oed pan na allwch chi feddwl am ddiwrnod gwaeth – pan mai’r diwrnod rydych chi’n ei fyw ar hyn o bryd yw’r un gwaethaf rydych chi wedi ei gael erioed – o leiaf rydych chi’n gwybod bod y banc yn bodoli, a’ch bod wedi cadw un arall wrth gefn.
Pethau mae iselder yn eu dweud wrthych chi
Hei, pen rwd!
Ie, ti!
Beth wyt ti’n feddwl ti’n neud? Pam wyt ti’n trio codi o’r gwely?
Pam wyt ti’n trio gwneud cais am swydd? Pwy ti’n feddwl wyt ti? Mark Zuckerberg?
Aros yn dy wely.
Fe ei di’n honco bost. Fel Van Gogh. Fyddi di wedi torri dy glust i ffwrdd cyn i ni droi.
Pam wyt ti’n crio?
Achos bod angen rhoi’r dillad yn y golch?
Hei. Wyt ti’n cofio dy gi, Murdoch? Mae o ’di marw. Fel dy daid a’th nain.
Bydd pawb rwyt ti wedi’u cyfarfod erioed wedi marw erbyn yr adeg yma’r ganrif nesaf.
Ie. Dim ond casgliad o gelloedd sy’n dadfeilio’n araf ydy pawb rwyt ti’n eu hadnabod.
Edrycha ar y bobl sy’n cerdded y tu allan. Edrych! Fan’na. Tu allan i’r ffenest. Pam na elli di fod fel nhw?
Dyma glustog. Beth am i ni aros yma, edrych arni, a myfyrio ar dristwch diderfyn clustogau.
Dwi newydd gael sbec ar fory. Ac mae’n waeth fyth.
Cyhoeddir Rhesymau Dros Aros yn Fyw gan y Lolfa a gellir ei brynu yma am £9.99