‘Goresgyn Diffyg Hunan-werth’ (y Lolfa) (detholiad)
Daw’r darn isod o Goresgyn Diffyg Hunan-werth gan Melanie Fennell a gyhoeddir gan y Lolfa ac sy’n rhan o’r cynllun Darllen yn Well.
Beth yw diffyg hunan-werth?
Beth ydyn ni’n ei olygu wrth ‘ddiffyg hunan-werth’?
Hunanddelwedd
Hunangysyniad
Hunanamgyffred
Hunanhyder
Hunaneffeithiolrwydd
Hunandderbyn
Hunanystyriaeth
Hunan-werth
Mae’r geiriau hyn i gyd yn cyfeirio at agweddau ar y ffordd rydyn ni’n edrych arnon ni’n hunain, y meddyliau sydd gennym ni amdanon ni’n hunain, a’r gwerth rydyn ni’n ei roi arnon ni’n hunain fel pobl. Mae pob un ohonyn nhw ag ystyr ychydig yn wahanol.
Mae ‘hunanddelwedd’, ‘hunangysyniad’ a ‘hunanamgyffred’ i gyd yn cyfeirio at y darlun cyfan sydd gan berson ohono’i hun. Dydy’r termau hyn ddim o reidrwydd yn golygu unrhyw feirniadaeth neu werthuso; ffordd ydyn nhw o ddisgrifio amrediad eang o nodweddion. Er enghraifft: Hunaniaeth genedlaethol, neu efallai ranbarthol (e.e. ‘Dwi’n Gymro/Gymraes’, ‘Dwi’n dod o Efrog Newydd’)
- Hunaniaeth hiliol neu ddiwylliannol (e.e. ‘Dwi’n ddu’, ‘Dwi’n Iddew/Iddewes’)
- Rôl y gymdeithas neu broffesiynol (e.e. ‘Dwi’n fam’, ‘Dwi’n blismon’)
- Adeg mewn bywyd (e.e. ‘Dwi’n dair ar ddeg oed’, ‘Dwi’n dad-cu/fam-gu’)
- Ymddangosiad (e.e. Dwi’n dal’, ‘Mae gen i lygaid brown’)
- Hoff bethau a chas bethau (e.e. ‘Dwi’n hoffi pêl-droed’, ‘Mae’n gas gen i sbigoglys’)
- Gweithgareddau rheolaidd (e.e. ‘Dwi’n chwarae rygbi’, ‘Dwi’n defnyddio cyfrifiadur’)
A hefyd
- Nodweddion seicolegol (e.e. ‘Mae gen i synnwyr digrifwch’, ‘Dwi’n colli fy nhymer yn hawdd’)
Mae ‘hunanhyder’ a ‘hunaneffeithiolrwydd’, ar y llaw arall, yn cyfeirio at y syniad y gallwn lwyddo i wneud pethau, a’u gwneud efallai i safon neilltuol. Fel y dywedodd un person hunanhyderus, ‘Dwi’n gallu gwneud pethau a dwi’n gwybod ‘mod i’n gallu eu gwneud nhw’. Er enghraifft:
- Medrau penodol (e.e. ‘Dwi’n dda mewn mathemateg’, ‘Dwi’n gallu dal pêl’)
- Perthynas gymdeithasol ag eraill (e.e.’Pan fydda i’n cwrdd â phobl Newydd, ar y cyfan dwi’n dod mlaen yn dda gyda nhw’, ‘Dwi’n dda am wrando’)
- Gallu cyffredinol i ymdopi (e.e. ‘Os bydda i wedi penderfynu cael rhywbeth, gan amla dwi’n ei gael e’, ‘Dwi’n berson da i droi ato mewn argyfwng’)
Mae ‘hunandderbyn’, ‘hunan-barch’ a ‘hunan-werth’ yn cyflwyno elfen wahanol. Dydyn nhw ddim yn cyfeirio’n unig at y nodweddion, da neu ddrwg, rydyn ni’n eu priodoli i ni ein hunain. Dydyn nhw ddim chwaith yn adlewyrchu’r pethau y credwn ein bod yn gallu neu’n methu eu gwneud yn unig. Yn hytrach, maen nhw’n adlewyrchu’r farn gyffredinol sydd gennym ni amdanom ein hunain a’r gwerth rydyn ni’n ei roi arnon ni ein hunain fel pobl, ein hymdeimlad sylfaenol o werth. Gall hyn fod yn gymharol gadarnhaol (e.e. ‘Dwi’n dda’, ‘Dwi’n fuddiol’) neu’n negyddol (e.e. ‘Dwi’n ddrwg’, ‘Dwi’n dda i ddim’). Pan fydd yn gymharol gadarnhaol, mae’n adlewyrchu hunan-werth sydd ar y cyfan yn iach. Ond pan mae’n negyddol, yna rydyn ni’n sôn am ddiffyg hunan-werth.
Beth yw hunan-werth iach?
Mae pobl weithiau’n camgymryd y term ‘hunan-werth’ am rywbeth sydd yr un mor eithafol ac afreal i gyfeiriad cadarnhaol ag y mae diffyg hunan-werth i gyfeiriad negyddol. Yn naturiol ddigon, dydy hynny ddim yn swnio fel opsiwn deniadol – does neb yn hoffi pobl sy’n hunanbwysig, sy’n argyhoeddedig o’u perffeithrwydd, yn teimlo’u bod â hawl disgwyl i fywyd fynd o’u plaid bob amser, yn rhoi eu buddiannau eu hunain o flaen lles eraill, ac yn llongyfarch eu hunain yn barhaus am eu doniau anghyffredin.
Nid dyna mae hunan-werth iach yn ei olygu, ac nid bwriad y llyfr hwn yw mynd â chi i’r cyfeiriad di-fudd hwn. Yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth sôn am ‘hunan-werth iach’ yw ymdeimlad o’ch gwerth sydd ar y cyfan yn gadarnhaol, a hwnnw’n cael ei adlewyrchu mewn barn gytbwys amdanoch eich hun. Pan mae’ch hunan-werth yn isel, mae tuedd gref i’ch barn amdanoch eich hun fod yn negyddol – eich diffygion, eich gwendidau, eich camgymeriadau, y troeon rydych chi wedi syrthio’n fyr. Mae’ch cryfderau, eich doniau a’ch nodweddion da yn tueddu i gael eu hanwybyddu neu eu diystyru. Y gwrthwyneb sy’n wir pan mae hunan-werth person yn orgadarnhaol: y cadarnhaol yn unig sy’n hawlio’r lle canolog, gan anwybyddu neu ddiystyru beiau sy’n anochel ac yn rhan normal o fod yn aelod amherffaith o’r ddynoliaeth.
Bwriad y llyfr hwn yw eich helpu i feithrin hunan-werth iach – derbyn eich hun yn sylfaenol fel rydych chi, y gwych a’r gwachul.
Felly oes, fel pob bod dynol sydd wedi bodoli erioed, mae gennych chi wendidau, rydych chi’n cael pethau’n anghywir, rydych chi’n gwneud pethau ac yna’n difaru’u gwneud, ac mae pethau amdanoch chi yr hoffech eu newid. Ond mae gennych chi’ch cryfderau yn ogystal, nodweddion da, sgiliau a chyflawniadau, ac maen nhw’n haeddu sylw a chael eu gwerthfawrogi hefyd. Dyna beth mae barn gytbwys yn ei olygu. Yn ganolog iddi mae’r ymdeimlad ei bod yn iawn i fod yn ‘chi’.
Effaith diffyg hunan-werth ar y person
Mae credoau negyddol am yr hunan – sy’n creu hanfod diffyg hunan-werth – yn mynegi eu hunain mewn sawl ffordd.
I gael syniad o’r peth, gall fod yn ddefnyddiol meddwl am rywun rydych chi’n ei adnabod sydd, yn eich tyb chi, â diffyg hunan-werth. Wrth gwrs, os ydych yn credu bod gennych chi ddiffyg hunan-werth, gallwch ystyried eich hunan yn lle hynny. Ond hwyrach y bydd hi’n haws i chi feddwl am berson arall oherwydd wrth geisio edrych arnoch chi’ch hunan, mae’n aml yn anodd cael darlun clir – rydych chi’n rhy agos i fedru gweld yn glir. Meddyliwch nawr am y person rydych chi wedi’i ddewis. Cofiwch y troeon diweddar i chi gwrdd. Beth ddigwyddodd? Am beth fuoch chi’n siarad? Sut oedd y person yn edrych? Beth wnaeth e/hi? Sut oeddech chi’n teimlo gydag e/gyda hi? Ceisiwch gael darlun clir yn llygad eich meddwl, ceisiwch glywed llais y person. Y cwestiwn nawr yw: sut rydych chi’n gwybod bod gan y person dan sylw ddiffyg hunan-werth? Beth am y person sy’n dweud wrthych chi fod ganddo broblem yn hyn o beth?
Nodwch gymaint o bethau ag y gallwch chi feddwl amdanyn nhw sy’n awgrymu hynny i chi. Chwiliwch am gliwiau yn yr hyn mae’r person yn ei ddweud. Er enghraifft, ydych chi’n clywed llawer o hunanfeirniadaeth neu ymddiheuriadau? Beth mae hyn yn ei ddweud wrthych chi am sut mae’r person yn meddwl amdano ei hun? Edrychwch ar beth mae’r person yn ei wneud, gan gynnwys sut mae’n cyd-dynnu â chi a phobl eraill. Er enghraifft, ydy e’n nodweddiadol dawel a swil mewn cwmni? Neu I’r gwrthwyneb – efallai ei fod bob amser yn ymwthgar ac yn brolio’i hun? Beth mae hyn yn ei ddweud wrthych chi? A beth am sut mae’n cyflwyno’i hun (ystum, edrychiad, i ba gyfeiriad mae’n syllu, tôn ei lais)? Ydy e, er enghraifft, yn tueddu i wargamu ac osgoi edrych i lygaid pobl eraill trwy edrych tuag i mewn? Eto, beth mae hyn yn ei ddweud wrthych chi am sut mae’n teimlo amdano’i hun? Sut deimlad yw bod yn ef neu hi? Ydy ‘n edrych yn drist? Neu wedi diflasu neu’n rhwystredig? Neu’n swil neu’n ofidus? Pa deimladau neu newidiadau corfforol all gyd-fynd â’r emosiynau hynny?
Cyhoeddir Goresgyn Diffyg Hunan-werth gan y Lolfa a gellir ei brynu yma am £12.99.