ADOLYGIAD: ‘Madi’ – Dewi Wyn Williams (Atebol, 2019)

Adolygiad oddi ar gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

Dyma nofel bwerus a dirdynnol am ferch yn ei harddegau sy’n datblygu anorecsia a bwlimia, a’i brwydr hi â’r anhwylderau hynny.

Yn ogystal ag addysgu eraill am realiti byw neu ddioddef o anhwylderau bwyta, mae stori Madi yn un y gall nifer o bobl ifanc uniaethu â hi, a chael cysur o fedru darllen am eu profiadau hwy yn y Gymraeg. Dylid hefyd pwysleisio mor werthfawr yw cael nofel wreiddiol sy’n ymdrin â salwch meddwl i bobl ifanc yn Gymraeg.

Nid yw’r awdur yn cuddio oddi wrth bynciau cymhleth a dwys wrth ymdrin ag anhwylderau bwyta. O ddewis pwnc mor ddwys, mae cyfrifoldeb ar yr awdur i wneud cyfiawnder â’r rhai sy’n byw gyda’r salwch gan aros yn driw i’w profiadau hwy, ond llwydda Dewi Wyn Williams i gyflwyno darlun gonest a real, a hynny heb fod yn orddramatig.

Portreadir anorecsia drwy gymeriad ‘Llais’, sy’n dechrau fel ffrind gorau dychmygol i Madi pan mae hi’n blentyn, ond sy’n prysur droi yn fwli ac yn elyn pennaf wrth i gyflwr Madi waethygu. Mae portreadu’r salwch fel cymeriad yn effeithiol ac yn dangos ei hollbresenoldeb gan amlygu pa mor anodd ydyw i’w anwybyddu. Mae’n hawdd i’r darllenwyr anghofio nad yw Llais yn bod, ac mai ‘llais’ ym mhen Madi yn unig ydyw gan fod y portread mor fyw.

Â’r pynciau yn fwy dwys wrth i’r nofel fynd rhagddi, wrth i’r salwch ddatblygu ac wrth i feddyliau Madi fynd yn dywyllach, a daw Llais yn fwy dylanwadol ac yn fwy amlwg yn ei bywyd. Gwelwn gyflwr meddyliol Madi yn gwaethygu wrth iddi golli mwyfwy o bwysau ac yn colli ei hun yn y salwch. Er hyn, parhau i wadu ei bod hi’n sâl a wna Madi.

Er mai stori am anorecsia a bwlimia yw hon, mae ynddi elfennau a themâu y gall nifer fawr o bobl ifanc uniaethu â nhw; y glasoed, unigrwydd, rhieni’n gwahanu, straen ac iselder.

Mae’r diweddglo’n afaelgar ac yn amwys gan nad yw’r darllenwyr yn gwybod a yw Madi yn gwella neu beidio, sy’n cyfleu cymhlethdod y broses o wella gan adlewyrchu’r tyndra a’r ansicrwydd ym meddyliau’r rhai sy’n byw â’r salwch a ydynt am wella ai peidio.

Er hyn, nid yw’r nofel heb ei gwendidau. Mae pob pennod yn dechrau gyda ffaith am fwyd, sydd gan amlaf yn cynnwys nifer y calorïau mewn gwahanol fwyd, sy’n medru dwysáu yr elfen obsesiynol i’r unigolyn sydd â phrofiad o anhwylderau bwyta, a bod yn triggering. Ar un llaw, mae cynnwys y rhifau hyn yn ddiangen, ond ar y llaw arall, mae’n dangos cymaint o obsesiwn yw cyfri calorïau i Madi, ac efallai fod cyfeirio at hyn fel gwendid yn y nofel yn gamarweiniol. Mae’r nofel hefyd yn cynnwys disgrifiadau o hunan-niweidio, a dylid o bosib fod wedi cynnwys rhybudd ar ddechrau’r llyfr.

Fodd bynnag, nid yw hynny’n tynnu oddi ar y ffaith fod yma nofel afaelgar a chyfoes. Mae’r penodau byrion yn gwneud y nofel yn hawdd iawn i’w darllen, ac mae lluniau lliwgar a deniadol Niki Pilkington, ar y clawr a thu fewn i’r llyfr, yn ychwanegiad unigryw a hyfryd.

Wrth dreiddio i mewn i feddwl Madi, cawn fewnwelediad real i feddwl y sawl sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia. Er mai stori am gymeriad dychmygol yw hon, gorfodir y darllenwyr i feddwl am yr holl ferched ifanc fel Madi sy’n dioddef o’r salwch hwn yn ein cymdeithas ni o ddydd i ddydd, ac o’r herwydd, magwn fwy o empathi a chydymdeimlad tuag atynt hwy.

Manon Elin 

Cyhoeddwyd Madi gan Atebol a gellir ei brynu o’ch siop lyfrau leol neu oddi ar gwales.com am £8.99