Profedigaeth a Galar

Bereavement and Grief

Profedigaeth yw’r profiad o golli rhywun sy’n bwysig i ni.

Caiff ei nodweddu gan alar, sef y broses a’r amrediad o emosiynau rydym yn mynd drwyddynt wrth i ni addasu i’r golled yn raddol.

Mae profedigaeth yn effeithio ar bawb mewn ffyrdd gwahanol, ac mae’n bosibl profi unrhyw amrediad o emosiynau. Mae’n bwysig cofio nad oes ffordd gywir neu anghywir o deimlo.

Yn ogystal â’r teimladau o alar y byddwn yn eu profi yn dilyn colled, mae mathau eraill o alar hefyd y gallwn eu profi ar wahanol amseroedd yn ystod profedigaeth, er enghraifft galar rhagweledol a cholled eilaidd.

Mae galaru’n beth sy’n eich blino’n emosiynol ac yn gorfforol. Mae’n bosib y byddwch yn profi teimladau sydd bron yn annioddefol o boenus o ganlyniad i’ch colled, yn ogystal â thristwch ac unigrwydd. Ar adegau, mae’n bosib y byddwch yn cynhyrfu ac yn methu canolbwyntio nac ymlacio, ac ar adegau eraill byddwch yn ddiegni ac wedi blino’n lân neu’n sigledig, yn sâl neu’n anhwylus. Mae cael trafferth cysgu yn eithaf cyffredin hefyd yn dilyn profedigaeth.

Efallai eich bod yn pryderu am sut fyddwch chi’n ymdopi heb y person sydd wedi marw, a gall y byd deimlo’n lle anniogel iawn yn sydyn. Mae rhai pobl yn teimlo fel crio ac yn crio llawer yn dilyn profedigaeth, tra bydd eraill yn torri allan i wylo mewn pyliau sydyn, dwys ac afreolus. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd crio, neu maent yn teimlo eu bod tu hwnt i grio.

Yn ogystal, mae nifer o ymatebion cyffredin eraill a fydd yn fwy dryslyd i chi, o bosib. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Anghrediniaeth
  • Dicter
  • Euogrwydd
  • Rhyddhad
  • Sefyllfaoedd a digwyddiadau’n troi a throi yn y meddwl

Peidiwch â disgwyl gormod oddi wrthych chi’ch hunan yn rhy gyflym. Mae galaru’n beth sy’n cymryd amser ac mae’n gallu bod yn broses flinedig. Derbyniwch unrhyw gymorth a gynigir, ac osgowch sefyllfaoedd ingol cymaint ag y medrwch chi.


Ffynonellau: WWAMH a Mind