Y Flwyddyn Olaf

Gan gyrraedd y cyfnod yma,

Yr arholiadau yn agosáu,

Dim ots y canlyniadau,

Mae bywyd dal i barhau.

 

Dyma gyfnod anodd,

A theimladau yn cymryd drosodd,

Cofia, tydi rwan ddim am byth,

A fydd y cyfnod yn hedfan heibio.

 

Nid chdi yw dy waith,

Ti yn berson ar wahân.

Y person ffeind sydd yn barod i helpu,

Nid dy bynciau gwan.

 

Mae hi’n bwysig i ti gofio,

Tydi llythyren ddim yn dy ddiffinio,

Petai A, B, C, D neu E

Bydda’n falch o dy hun, does dim o’i le.

 

Dwi’n gwybod bod yna pwysau ar dy ysgwydd,

A bod hi’n teimlo fel diwedd y byd.

Ond cadw’r gobaith i fyny,

Daw pethau’n haws, paid â cholli ffydd.

 

Ti yn wahanol,

A ma’ hynny yn beth da.

Ti wyt ti, ti yn iach,

A dyna yw’r peth pwysicaf.