Weithiau

Weithiau ti’n drist,
weithiau ti’n ddryslyd,
weithiau mae’r byd
yn llawer rhy swnllyd.

Weithiau ti’n flin,
weithiau ti’n pwdu
weithiau ti’n dawel
am aros’n y gwely.

Weithiau ti’n ofnus,
a ti ddim yn siŵr pam.
Weithiau ti ond
isho aros efo mam.

Mae weithiau yn iawn,
mae pawb yn eu tro
yn cael dyddiau sy’n ddiflas,
a thymer si-so.