‘Camu’ – Iola Ynyr (detholiad)

Daw’r darn isod o ‘Camu‘ – cyfres o ysgrifau hunangofiannol newydd gan Iola Ynyr, a gyhoeddir gan y Lolfa. Mae’r ysgrifau’n cynnwys straeon o blentyndod Iola hyd at y presennol gan ddychmygu yr hyn sydd eto i ddod. Mae’r gyfrol yn wynebu tristwch a heriau yn onest, ond hefo argyhoeddiad bod yna gariad yn llechu yn y tywyllwch.

Ewinedd

Mae’r bwrdd yn gul ac mae’r ferch yn cymryd fy nwylo fel rhodd. Mae hi’n taenu olew ac yn sgwrsio am bethau sy’n fy lleddfu.

Fel dwi’n teimlo’n hun yn pellhau ac yn mynd i dwnnel o bigau mân pleserus, mae yna declyn gwthio ciwticyl yn fy nghnoi’n ffyrnig.

Dwi’n ryff, yndw?

Na, ma’n iawn siŵr.

Celwydd am fy mod i’n mwynhau clydwch y ’stafell.

’Da chi isio dewis lliw?

Mae’r dewis yn ormod ond dwi’n mynd am binc ceidwadol rhag tynnu sylw at fy ngwinedd hyll.

’Da chi’m yn un i bampro’ch hun, nadach? ’Sa chi’n pwsho’r cuticle lawr bob wsnos ’sa nhw’n dod yn ddel.

Y dyfalbarhau cyson i ofalu am fy hun sydd wastad wedi bod ar goll. Mae yna ddeallusrwydd yma a dwi’n trio peidio crio ond mae hi’n sylwi ar y diferion yn hel ar lesni y lliain bwrdd papur.

Dwi am gymyd panad bach. ’Sa chi’n licio un?

Dwi’n pwyso am y bwrdd i sychu ngwyneb ac yn edrych trwy’r ffenest. Dwi’n gorffwys fy mhen yno fel plentyn ysgol gynradd ac yn ymlacio.

Mae’r ferch yn tagu’n chwithig, yn dychmygu fod raid iddi ymdopi efo dynes ganol oed arall yn ei cholli hi. Mae hi’n ofni fod yna fwy o lanast o nhu mewn i am dywallt allan.

Dwi’n codi mhen mor siriol a dwi’n gallu.

Ddoth yna flinder drosta i.

Dwi’n trio twyllo a chuddio’r breuder.

Ma’n iawn siŵr.

Yr anwyldeb sy’n fy llorio i. Mae’r crio yn ddi-ben-draw rŵan. Mae hi’n mwytho mhen i a tsecio ei Instagram ’run pryd. Dwi’n gweld hi’n taro’r likes ac mae yna chwerthiniad yn codi o nghrombil i. Dwi’n ofni bod hyn am ei dychryn hi’n fwy eto.

’Sa chi’n licio fi gario mlaen?

Byswn wir.

Dwi’n ei ddweud yn rhy egnïol o lawer. Dwi’n ochneidio. Dwi ddim yn gwybod sut i ffeindio ffordd o fod mewn bywyd go iawn.

Mae hi’n gosod fy nwy law mewn peiriant nad ydw i’n deall ei bwrpas. Mae yna olau llachar yn dod ohono ac ar hynny, mae yna ddwy ddynes yn cega ar ei gilydd ar y palmant tu allan. Maen nhw’n taeru mewn Saesneg ond Cymraeg ydi’r tôn.

Dwy chwaer chi – dyna ydyn nhw! C’wilydd! Fel hyn ma nhw bob bora ar ôl noson darts.

Pam bo nhw’n ffraeo sgwn i?

Hw nows! Ond ma’n nhw styrbio cwsmars fi yn fama.

Mae hi’n rhoi cnoc ar y ffenest fel rhywun sy’n hel dyledion. Mae’r ddwy yn codi llaw i gysgodi rhag yr haul. Wrth gael cip ar bwy sy’n eu galw, maen nhw’n codi bawd a chwifio fel pobl ar gei yn gweld llong yn pasio. Maen nhw am ein twyllo nad oes dim o’i le.

Diniw ‘dy nhw, bechod!

Ar hynny mae hi’n rhoi mwy o olew a mwytho.

’Da chi’n licio nhw?

Dwi’n dy licio di’n fawr.

A mwya’ sydyn, mae hi’n estyn y teclyn talu ac yn fy nhywys i allan reit handi.

Cyhoeddir Camu gan y Lolfa a gellir ei brynu yma am £9.99.