Meddiannu fy Meddwl
Tawelu y nerfau
Gan gydio yn dynn.
Tynhau’r cyhyrau,
Ydw i’n haeddu hyn?
Dwi ond yn gofyn
I fod yn iawn.
Am ddiwrnod heb boeni,
A lle di’r ymennydd ddim yn llawn.
“Paid â bod yn wirion”
Mae’r gorbryder yn llenwi,
Eistedd yn rhestru’r 5 peth,
a’u henwi.
Tydi hyn ddim yn deg.
Nid fi sy’n rheoli fi.
Ma’ ‘na law dros fy ngheg,
I ddistewi unrhyw fath o gri.
Anadlu’n ddwfn,
Un, dau, tri.
Dwyt ti byth ar ben dy hun!
Nid ond ti, ond ni.