Mae’n iawn

Cerdd gan Elin Angharad Davies a ymddangosodd yn gyntaf ar ei thudalen Facebook, ‘Gair o Gysur’, ac a gyhoeddwyd yn y gyfrol o’r un enw. 

Mae elw’r gyfrol yn mynd at meddwl.org, a gallwch ei phrynu o’ch siop lyfrau lleol neu ar-lein. 


Mae’n iawn i fod yn dawel,
Mae’n iawn i fod yn drist.
Mae’n iawn i beidio gwenu
Wrth ddathlu geni Crist.

Mae’n iawn dweud “na” am ‘leni
A nofio’n groes i’r lli.
Wrth fod yn glên â thi dy hun
Gwna’r hyn sy’n ‘iawn’ i ti.