Golau ar y Gorwel

Gorbryder.
Gair bach,
meddwl mawr.

Pwy fyse ‘di meddwl,
bod gair bach fel hyn,
yn stopio pobl fyw bywyd,
gan llenwi’r pen gyda rheolau mor llym.

Deffro’n y bore,
llygaid gwlyb o’r noson gynt.
Pen dal yn llawn, erbyn i mi godi,
mae’r diwrnod ‘di dod ac wedi mynd.

Edrych yn y drych,
dieithryn yn edrych yn ôl sydd.
Ond person sy’n brifo,
gyda gelyn fel ymennydd.

Blwyddyn yn ôl roedd bywyd yn parhau,
tra o’n i dal i grio.
Neb wir yn sylwi,
faint o’n i’n trio.

Heddiw dwi’n codi,
nid jest yn deffro.
Dwi’n gwenu heb sylwi,
ac yn byw nid ond goroesi.

Dwi’n gaddo bod bywyd yn gwella!
Mae’r byd yn dal i droi,
er bo’r gorbryder dal yna,
ac mae meddyliau dal i ffoi.

Er bo’ ti’n teimlo ti ar ben dy hun,
y ffordd yn dywyll, dim sôn am y bywyd cynt.
Cofia bod haul bob tro dros y bryn,
dal y golau’n uchel, a dal o yn dynn!